Rheoli a gwella cynefin rhostir nodweddiadol Ynys Cybi trwy dorri, clirio prysg, a galluogi datrysiadau rheoli tymor hwy.
Prosiect i reoli ymlediad a cheisio chael gwared o rywogaethau anfrodorol daearol ymledol o dirwedd Ynys Cybi, ac yn bygwth cynefinoedd brodorol a strwythurau hanesyddol fel ei gilydd.
Datblygu côd ymddygiad gwirfoddol a chanllaw safle i annog, galluogi a meithrin ymddygiad cynaliadwy ymhlith darparwyr gweithgareddau awyr agored, yn enwedig y rhai sy'n dod i mewn o'r tu allan i'r ynys.
Gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr i annog arferion rheoli tir cynaliadwy a nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cynlluniau etifeddiaeth hirdymor.
Bydd y prosiect hwn yn adfer strwythurau ffiniau traddodiadol. Fel y nodwedd tirwedd nodweddiadol amlwg byddwn yn canolbwyntio ar waliau cerrig sych traddodiadol, ond bydd cloddiau a gwrychoedd hefyd yn cael eu hystyried os bydd yr amgylchiadau yn codi.
Adfer strwythurau hanesyddol sydd wedi’u hanghofio ac wedi dirywio yn y dirwedd, a darganfod y straeon y tu ôl iddynt a sut y gwnaethant chwarae rôl wrth lunio'r dirwedd
Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd â chloddiadau archeolegol o safle treftadaeth sylweddol yn Nhirwedd Ynys Cybi. Byddwn yn comisiynu sefydliad sydd â'r profiad a'r arbenigedd gofynnol i gyflawni'r gwaith cloddio a'r gwaith dadansoddi a chofnodi sy'n deillio o hynny. Byddwn hefyd yn ymgysylltu ac yn cynnwys aelodau o'r gymuned a gwirfoddolwyr i gymryd rhan ym mhob agwedd o’r prosiect trwy ysgolion, grwpiau a phartneriaid.
Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n cael pobl ifanc allan o'r ystafell ddosbarth i ddysgu am y cyfoeth o dreftadaeth ar stepen eu drws gan ddefnyddio'r amgylchedd arfordirol fel catalydd.
Rhaglen trwy gydol y flwyddyn o weithgareddau a phrosiectau a arweinir gan y gymuned, a ddatblygwyd gan bobl leol ar gyfer pobl leol. Hyrwyddo'r dreftadaeth leol, sut a pham y mae wedi'i rheoli, ei gwerth, a'r buddion lleol y mae'n eu darparu. Mae'r ffocws ar ymgysylltu â chynulleidfa eang ac amrywiol, galluogi cyfranogi mewn prosiectau treftadaeth, a recriwtio gwirfoddolwyr yn y dyfodol.
Cefnogi gweithgareddau'r cynllun a arweinir gan wirfoddolwyr yn uniongyrchol, a datblygu gallu lleol cynaliadwy ar gyfer rheoli'r dirwedd dreftadaeth a'i nodweddion arbennig yn y dyfodol.
Datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r dirwedd treftadaeth a'i rheolaeth ymhlith grwpiau allweddol, a galluogi unigolion i ennill set gynhwysfawr o sgiliau a fydd yn eu galluogi i ddod o hyd i gyflogaeth yn y dyfodol yn ei reoli.
Gweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol ar Ynys Cybi i'w hannog a'u galluogi i ddatblygu ac integreiddio croeso Cymreig unigryw i gwsmeriaid ac aelodau, gan ganolbwyntio ar y dirwedd treftadaeth leol unigryw
Gweithredu cynllun dehongli cynhwysfawr ar draws yr ynys, i gynnwys pwyntiau gwybodaeth, paneli dehongli, ac arwyddion ar gyfer hybiau ac atyniadau treftadaeth lleol.
Llwybrau corfforol ac ar-lein yn dehongli ac yn hyrwyddo treftadaeth leol, ac yn tywys pobl tuag at hybiau, nodweddion ac atyniadau treftadaeth allweddol ledled yr ynys.
Llwybrau byr sy’n addas ar gyfer teuluoedd, yn annog teuluoedd lleol ac ymwelwyr i grwydro’r ynys mewn ffordd hwyliog a gafaelgar, gyda straeon treftadaeth lleol wedi’u hadrodd o safbwynt cymeriad hanesyddol lleol.
Sefydlu 4 hwb arddangos newydd ac arddangosfa deithiol, gyda ffocws ar ac yn adrodd stori 4 elfen benodol o dreftadaeth Ynys Cybi yn unol â’r 4 thema allweddol a nodwyd yn y Cynllun Dehongli.
Datblygu Canolfan Dreftadaeth Ymwelwyr newydd ym Mharc Gwledig y Morglawdd, a fydd yn ganolbwynt i'n cynllun dehongli treftadaeth ledled yr ynys ac yn darparu sylfaen leol i'n tîm staff sydd wedi'i hymgorffori yn y gymuned leol.
Sefydlu a hyrwyddo dwy daith gerdded gylchol newydd i hyrwyddo hygyrchedd treftadaeth arfordirol yn Ne Ynys Cybi.
Datblygu llwybrau cyhoeddus sy’n hawdd cael mynediad atynt sy'n cysylltu cymunedau lleol â thirwedd treftadaeth yr arfordir a’r parciau gwledig.