Cyngor Sir Ynys Môn

Prosiect
9

Dysgu lleol

Crynodeb o'r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n cael pobl ifanc allan o'r ystafell ddosbarth i ddysgu am y cyfoeth o dreftadaeth ar stepen eu drws gan ddefnyddio'r amgylchedd arfordirol fel catalydd.

Partneriaid allweddol

Allbynnau'r prosiect

  1. Cynnal sesiynau addysgiadol
  2. Ymgysylltu a disgybion
  3. Diwrnodau cyfranogi i ddisgyblion
  4. Gwella sgiliau athrawon
  5. Diwrnodau gwirfoddoli

Canlyniadau'r prosiect

  1. Disgyblion ac athrawon wedi darganfod agweddau newydd ar eu treftadaeth leol
  2. Disgyblion ac athrawon wedi ymgysylltu â'u treftadaeth mewn ffordd newydd
  3. Disgyblion ac athrawon wedi gwireddu potensial eu tirwedd treftadaeth leol
  4. Datblygu gallu ac adnoddau a rennir i gynnal gweithgareddau fel rhan allweddol o weithgareddau cwricwlaidd

Amcanion y cynllun

  1. Cynyddu ymwybyddiaeth leol o dreftadaeth Ynys Cybi a'i werth
  2. Cynyddu cyfranogiad cymunedol mewn gweithgareddau treftadaeth lleol
  3. Ymgysylltu â phobl newydd ac unigolion anodd eu cyrraedd
  4. Hyrwyddo cyfleusterau a chyfleoedd Ynys Cybi
  5. Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gadwraeth a rheolaeth treftadaeth

Gweithgareddau

Coleg Treftadaeth Ynys Cybi

Ym mis Medi 2023, lansiodd y Bartneriaeth Coleg Treftadaeth Cybi yn swyddogol. Y coleg cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mewn cydweithrediad â’r ysgolion cynradd a’r ysgol uwchradd ar Ynys Cybi, mae’r coleg yn ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a chymunedau lleol i ddysgu am eu hanes a’u diwylliant lleol.

Bydd y Coleg newydd yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cael disgyblion ysgol allan o’r ystafell ddosbarth i ddysgu am y cyfoeth o dreftadaeth sydd ar garreg eu drws gan ddefnyddio amgueddfeydd, orielau, tirnodau ac atyniadau lleol fel catalydd.

Bydd cyfleoedd dysgu ar gael trwy fodiwlau treftadaeth lle mae disgyblion yn ennill credydau am gymryd rhan. Bydd y Coleg yn ymestyn dysgu y tu allan i oriau addysgu arferol ac yn chwarae rhan arbennig yn nhaith Dysgu Gydol Oes pobl ifanc sy'n byw ar Ynys Cybi.

Bydd gweithgareddau dysgu yn cysylltu â meysydd dysgu’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, gan gynnwys y celfyddydau mynegiannol, y dyniaethau, iechyd a lles, gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a rhifedd ac iaith, llythrennedd a chyfathrebu.

Enillwyd cystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer Coleg Treftadaeth Cybi gan Thea Scowcroft-Roberts, disgybl blwyddyn pump yn Ysgol Rhoscolyn. Defnyddiodd Thea Feini Hirion Penrhos Feilw ar Ynys Cybi fel ysbrydoliaeth.

Pecyn adnoddau Coleg Ynys Cybi:

Mehefin 2021

Diwrnodau Traeth yr Urdd gyda holl Ysgolion Cynradd Ynys Cybi. Cynhaliwyd y gweithgareddau ar draethau sy'n lleol i'r ysgolion ac roeddent yn cynnwys gweithgareddau amgylcheddol, treftadaeth a chwaraeon.

Mi wnaeth y plant gasglu sbwriel a chreu tirnodau lleol gan ddefnyddio adnoddau naturiol ar y traeth.


Prosiectau eraill