Cyngor Sir Ynys Môn

Prosiect
11

Prosiect gwirfoddoli

Crynodeb o'r prosiect

Cefnogi gweithgareddau'r cynllun a arweinir gan wirfoddolwyr yn uniongyrchol, a datblygu gallu lleol cynaliadwy ar gyfer rheoli'r dirwedd dreftadaeth a'i nodweddion arbennig yn y dyfodol.

Partneriaid allweddol

Allbynnau'r prosiect

  1. Recriwtio gwirfoddolwyr newydd
  2. Gwirfoddolwyr yn dychwelyd
  3. Gwirfoddolwyr hyfforddedig
  4. Cefnogi grwpiau 3ydd sector

Canlyniadau'r prosiect

  1. Cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli adeiladol
  2. Cynyddu gallu cynaliadwy sefydliadau lleol a'r gymuned ehangach i reoli'r dirwedd treftadaeth
  3. Meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb cymdeithasol ar y cyd

Amcanion y cynllun

  1. Cynyddu ymwybyddiaeth leol dreftadaeth Ynys Cybi
  2. Cynyddu cyfranogiad cymunedol mewn gweithgareddau treftadaeth lleol
  3. Ymgysylltu â phobl newydd ac unigolion anodd eu cyrraedd
  4. Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gadwraeth a rheolaeth treftadaeth
  5. Datblygu gallu lleol ar gyfer rheoli tirwedd treftadaeth Ynys Cybi yn gynaliadwy a'i nodweddion

Gweithgareddau

Fel rhan o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu’r Bartneriaeth, ynghyd â phartneriaid allweddol fel Cadwch Gymru’n Daclus, Ramblers Cymru a Kehoe Countryside, darparwyd diwrnodau gwirfoddoli o 2021 ymlaen a thrwy gydol 2022. Hyd yn hyn mae dros 30 o ddiwrnodau gwirfoddoli wedi’u cynnal, cyfanswm o dros 700 awr gwirfoddol gan bobl leol o bob oedran. Mae’r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i warchod safleoedd natur a threftadaeth yn ogystal â rhoi’r cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a gwella eu hiechyd a’u lles. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys sesiynau codi sbwriel a helfa nurdle ar y traeth, codi waliau sych, creu dôl flodau gwyllt a phlannu coed ffrwythau, atgyweirio a chynnal a chadw llwybrau ac arolygon bywyd gwyllt.

Oriel lluniau


Prosiectau eraill