Cyngor Sir Ynys Môn

Prosiect
7

Gwarchod ein treftadaeth

Crynodeb o'r prosiect

Adfer strwythurau hanesyddol sydd wedi’u hanghofio ac wedi dirywio yn y dirwedd, a darganfod y straeon y tu ôl iddynt a sut y gwnaethant chwarae rôl wrth lunio'r dirwedd

Partneriaid allweddol

Allbynnau'r prosiect

  1. Strwythurau hanesyddol wedi’u hadfer
  2. Diwrnodau gwirfoddoli

Canlyniadau'r prosiect

  1. Tirnodau treftadaeth yn cael eu cadw
  2. Pobl leol wedi dysgu am y tirnodau ac wedi cymryd rhan yn eu hadfer

Amcanion y cynllun

  1. Gwarchod nodweddion allweddol cymeriad treftadaeth y dirwedd
  2. Cynyddu ymwybyddiaeth leol o dreftadaeth Ynys Cybi
  3. Cynyddu cyfranogiad cymunedol mewn gweithgareddau treftadaeth lleol

Gweithgareddau

Cynhaliwyd arolygon helaeth o'r holl strwythurau a restrir yn nogfennau'r cyfnod datblygu. Bydd y rhain yn cael eu rhannu'n gyhoeddus pan fyddant ar gael mewn fformat addas.

Gan weithio gydag arbenigwyr o Ramboll, mae’r Bartneriaeth wedi penodi Recclesia i gwblhau gwaith cadwraeth ar y strwythurau canlynol:

  1. Ffynnon y Wrach
  2. Tŵr Elin
  3. Y Gwylfan, Ynys Lawd

Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Rhagfyr 2022 a bydd wedi'i gwblhau erbyn mis Mawrth 2023. Mae'r Bartneriaeth yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ei phartneriaid yn ystod y gwaith hwn, yn enwedig y RSPB.

Oriel lluniau

Adnoddau

Darllenwch fwy am y cylchoedd cytiau ar Wikipedia (Saesneg)

Gwyliwch fideo gan Cadw am y cylchoedd cytiau ar YouTube


Prosiectau eraill