Cyngor Sir Ynys Môn

Prosiect
10

Ynys Cybi a ni

Crynodeb o'r prosiect

Rhaglen trwy gydol y flwyddyn o weithgareddau a phrosiectau a arweinir gan y gymuned, a ddatblygwyd gan bobl leol ar gyfer pobl leol. Hyrwyddo'r dreftadaeth leol, sut a pham y mae wedi'i rheoli, ei gwerth, a'r buddion lleol y mae'n eu darparu. Mae'r ffocws ar ymgysylltu â chynulleidfa eang ac amrywiol, galluogi cyfranogi mewn prosiectau treftadaeth, a recriwtio gwirfoddolwyr yn y dyfodol.

Partneriaid allweddol

Gweithgareddau

Ein Hanes Ni

Yn y Gwanwyn cymerodd Ysgol Gwenfaen Rhoscolyn ynghyd â Menter Iaith Môn, TeliMôn, S4C a’r Bartneriaeth ran yn Ein Hanes Ni. Mae’r prosiect yn annog plant yn eu ‘bro’ i ddysgu am y bobl, yr iaith, yr adeiladau, ac arferion lle maent yn byw. Mae hyn yn rhoi llais a gwerth i atgofion melys aelodau hŷn y gymuned, wrth addysgu’r genhedlaeth nesaf am hanes lleol.

Fel rhan o’r prosiect gofynnodd y disgyblion gwestiynau i drigolion hŷn er mwyn darganfod hanes eu hardal leol, ac ystyried sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd. Mae’r prosiect yn annog plant a phobl i ymweld â gwahanol lefydd yn y pentrefi, trafod yr hanes, a chwilio am wybodaeth goll. Cafodd pob darganfyddiad ei ddogfennu, ei roi at ei gilydd ar ffurf ffilm fer, ac yna ei ddangos i drigolion yr ardal trwy gyflwyniadau arbennig ar ddiwedd y prosiect, er budd y gymuned gyfan.

Gwyliwch y ffilm ar YouTube

Teithiau Cerdded

Yn ystod Awst 2022 trefnodd y Bartneriaeth Ŵyl Gerdded Cybi mewn cydweithrediad â sefydliadau lleol. Arweiniwyd amrywiaeth o deithiau cerdded gan y Tîm Cefn Gwlad ac AHNE, y RSPB, Amgueddfa Forwrol Caergybi ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan rannu eu gwybodaeth leol arbenigol am amgylchedd, cymuned a threftadaeth nodedig Ynys Cybi.

Ym mis Medi 2022, arweiniodd Warden Cefn Gwlad Parc y Morglawdd, Wil Stewart, daith gerdded boblogaidd o amgylch yr Arfordir Creigiog, i gopa Mynydd Twr ac yna ymlaen i gaeau'r Lleiniau ger Pentre Mynydd. Cafwyd cyfraniadau hefyd ar yr amgylchedd naturiol, waliau cerrig traddodiadol a hanes gan y RSPB, Kehoe Countryside a swyddogion y Bartneriaeth.

Grantiau Gweithgareddau Cymunedol Ynys Cybi a Ni

Yn ystod hydref 2022 lansiodd y Bartneriaeth Grant Gweithgareddau Cymunedol Ynys Cybi a Ni. Roedd y Bartneriaeth yn falch o dderbyn nifer fawr o geisiadau ac yn y Panel dyfarnwyd grantiau rhwng £400 a £1000 i wyth o sefydliadau lleol. Bydd y grantiau yn ariannu gweithgareddau amrywiol gan gynnwys cefnogi gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi, sesiynau i rieni a phlant bach archwilio byd natur, cyfansoddi rap yn y Gymraeg i godi ymwybyddiaeth o hanes Caergybi, a chreu draig Gymreig wiail 3m o uchder.

 

Cyfryngau

Oriel lluniau


Prosiectau eraill