Cyngor Sir Ynys Môn

Prosiect
12

Sgiliau treftadaeth

Crynodeb o'r prosiect

Datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r dirwedd treftadaeth a'i rheolaeth ymhlith grwpiau allweddol, a galluogi unigolion i ennill set gynhwysfawr o sgiliau a fydd yn eu galluogi i ddod o hyd i gyflogaeth yn y dyfodol yn ei reoli.

Partneriaid allweddol

Allbynnau'r prosiect

  1. Hwyluso modiwlau gwybodaeth
  2. Unigolion yn cymryd rhan mewn modiwlau gwybodaeth
  3. Unigolion wedi'u hyfforddi trwy'r llif sgiliau

Canlyniadau'r prosiect

  1. Cynyddu gallu lleol i warchod a rheoli'r dirwedd treftadaeth
  2. Codi lefelau hyder a gwneud pobl yn ymwybodol o gyfleoedd a llwybrau cyflogaeth lleol
  3. Unigolion medrus ar gyfer cyflogaeth mewn agweddau ar reoli treftadaeth

Amcanion y cynllun

  1. Hyrwyddo cyfleusterau a chyfleoedd Ynys Cybi
  2. Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gadwraeth a rheolaeth treftadaeth
  3. Datblygu gallu lleol ar gyfer rheoli tirwedd treftadaeth a nodweddion Ynys Cybi yn gynaliadwy

Gweithgareddau

Mae'r Bartneriaeth yn gweithio'n agos gyda Môn CF i adnabod cyrsiau sgiliau treftadaeth addas fydd o fudd i drigolion Ynys Cybi. Mae Môn CF yn gweithredu fel y pwynt cyswllt i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn cyrsiau. Mae'r Bartneriaeth hefyd wedi cynnal nifer o ddiwrnodau hyfforddi mewn Codi Waliau Cerrig Sych a Hyfforddiant Plaladdwyr. Bydd unigolion sy'n ennill profiad yn y sgiliau hyn yn helpu'r Bartneriaeth i gyflwyno nifer o brosiectau.


Prosiectau eraill