Cyngor Sir Ynys Môn ('yr awdurdod lleol') yw'r awdurdod derbyn ar gyfer y 5 ysgol uwchradd a 36 o'r 38 ysgol gynradd yn Ynys Môn.
Y corff llywodraethu perthnasol yw'r awdurdod derbyn mewn perthynas â'r un ysgol wirfoddol â chymorth (Ysgol y Santes Fair, Caergybi), a'r un ysgol sylfaen (Ysgol Caergeiliog).
Gwnewch gais am bob plentyn
Mae’n rhaid i bob plentyn sydd eisiau lle mewn ysgol brif lif wneud cais. Ni fyddwch yn cael eich ystyried am le oni bai bod cais yn cael ei wneud, hyd yn oed os yw hi’r ysgol ddalgylch a bod brodyr neu chwiorydd eisoes yn yr ysgol, er y byddant yn cael blaenoriaeth uwch.
Dim gwarant
Nid oes gwarant o le i’ch plentyn mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oed os yw hi’n eich ysgol ddalgylch neu fod eich plant eraill yn mynychu’r ysgol honno, er y byddant yn cael blaenoriaeth uwch.
Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni
Mae’r llawlyfr ‘Gwybodaeth i Rieni’ yn rhoi gwybodaeth i rieni am bolisïau a threfniadau ysgolion Cyngor Sir Ynys Môn (‘awdurdod lleol’) ar gyfer:
- mynediad i ddisgyblion
- cwricwlwm
- polisi iaith
- cludiant
- lles
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
Polisi Mynediad Ysgolion
Mae Polisi Mynediad Ysgolion Cyngor Sir Ynys Môn yn anelu at sefydlu trefniadau sydd yn:
- glir, yn wrthrychol ac yn rhoi cyfle teg o le ysgol boddhaol i bob plentyn
- rhoi gwybodaeth lawn ar gyfer dewis gwybodus
- sicrhau gweithdrefnau mynediad lleol sydd wedi eu cydlynu’n dda ac yn hawdd eu dilyn gyda’r lleiafswm o fiwrocratiaeth ac sy’n rhoi’r cyfle i rieni gael eu dewis ysgol
- yn rhoi hawl apelio statudol effeithiol os nad yw rhieni wedi eu bodloni
Gallwch lawrlwytho'r polisi ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol a'r flwyddyn academaidd ganlynol.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cwestiynau ac atebion am mynediad i ysgolion
Rydym wedi creu rhestr o gwestiynau a allai fod gennych am dderbyniadau i ysgolion, ynghyd â'r atebion.
Fframwaith cyfreithiol
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r Rheoliadau cysylltiedig yn sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer derbyniadau i ysgolion. Bwriad y trefniadau ydi:
- sicrhau trefniadau derbyn lleol sy’n eglur, yn wrthrychol ac yn rhoi cyfle teg i bob plentyn gael lle boddhaol mewn ysgol
- rhoi gwybodaeth lawn i alluogi rhieni i wneud dewis goleuedig o safbwynt dewis ysgol
- sicrhau cyd-gordio trefniadau derbyn lleol a sicrhau trefniadau sydd yn hawdd i’w deall, gyda’r lleiafswm o fiwrocratiaeth a hyd y bo modd yn sicrhau cwrdd â dewis rhieni o ysgol
- sicrhau hawl statudol ac effeithiol i apelio os na chaiff rhieni eu bodloni
Yn unol â gofynion Deddf 1998 (fel y’i diwygiwyd gan adran 40 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006) mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Y Cod Derbyn i Ysgolion sydd yn rhoi canllawiau i awdurdodau derbyn ynglŷn â chyflawni swyddogaeth derbyn o fis Gorffennaf 2013 ymlaen.
Mae Polisi Mynediad Ysgolion Ynys Môn yn seiliedig ar y cod yma. Gallwch lawrlwytho Polisi Mynediad Ysgolion Ynys Môn ar gyfer 2024 i 2025 a’r polisi ar gyfer 2025 i 2026 ar y dudalen we hon.
Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Mae polisi mynediad ysgolion cynradd ac uwchradd Ynys Môn yn cydymffurfio a gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ac nid yw’n gwahaniaethu ar sail:
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol
yn erbyn unigolyn yn y trefniadau a’r penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod derbyn ynghylch pwy y dylid cynnig ei dderbyn yn ddisgybl.
Bydd ceisiadau am fynediad ar ran disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, ond heb ddatganiad, yn cael eu hystyried ar yr un sail ag ymgeiswyr eraill.