Cyngor Sir Ynys Môn

Mynediad i ysgolion: Atebion i'ch cwestiynau

Pryd ddylech chi wneud cais am le ysgol meithrin/derbyn/blwyddyn 7 i fy mhlentyn ar gyfer mis Medi?

Mae rhieni’n gyfrifol am edrych allan am yr hysbysiadau hyn ac am wneud cais ar yr amser priodol.

Mae’n hanfodol eich bod yn cyflwyno eich cais erbyn y dyddiad cau – os ydych yn cyflwyno eich cais yn hwyr, bydd yn llai tebygol i’ch plentyn gael lle yn eich meithrin/ysgol ddewisol.

Os ydych wedi methu dyddiad cau’r cais am reswm da, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ystyried eich cais ochr yn ochr â’r lleill. Os ydych yn ein hysbysu ar/ar ôl y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol, bydd eich cais yn cael ei ystyried yn un “Hwyr”, ac efallai y bydd llefydd yn eich ysgol ddewisol eisoes wedi cael eu dyrannu.

Pwy allwch chi wneud cais am fynediad i'r ysgol neu drosglwyddo?

Mae’n rhaid i unrhyw gais, gan gynnwys y rhai a wneir yn ystod y flwyddyn ysgol, gael eu gwneud gan oedolyn â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac mae’n rhaid iddynt gadarnhau fod ganddynt y cyfrifoldeb hwn fel rhan o’r cais. Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth i gefnogi hyn.

Os hysbysir yr awdurdod gan riant â chyfrifoldeb rhiant nad ydynt wedi cytuno i’r cais hwn, ni fydd yn parhau. Bydd y plentyn yn aros yn ei ysgol bresennol nes bod y ddau riant yn cytuno, neu fod yr awdurdod yn derbyn copi o ddogfen gyfreithiol gan lys yn cadarnhau fod gennych gyfrifoldeb rhiant dros addysg eich plentyn.

Disgwylir bod rhieni’n cytuno ar ddewisiadau ysgol ar gyfer plentyn cyn bod cais yn cael ei wneud. Os hysbysir yr awdurdod gan riant â chyfrifoldeb rhiant nad ydynt wedi cytuno i’r cais hwn, ni fydd yn parhau. Bydd y plentyn yn aros yn ei ysgol bresennol nes bod y ddau riant yn cytuno, neu fod yr awdurdod yn derbyn copi o ddogfen gyfreithiol gan lys yn cadarnhau fod gennych gyfrifoldeb rhiant dros addysg eich plentyn.

Nid yw’r cyngor mewn sefyllfa i ymyrryd mewn anghydfodau rhwng rhieni dros geisiadau ysgol a bydd yn gofyn bod y rhain yn cael eu datrys yn breifat.

A allwch chi gofrestru enw eich plentyn mewn ysgol benodol i gael blaenoriaeth?

Na.

Caiff pob cais a dderbynnir erbyn y dyddiad cau perthnasol eu hystyried gyda’i gilydd ac ni roddir blaenoriaeth ar sail cyntaf i’r felin.

Nid yw penaethiaid yn cymryd unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau, ac nid oes ganddynt unrhyw ddylanwad dros ganlyniad cais.

Mae pennaeth eich ysgol dewisol wedi dweud wrthych fod gan eich plentyn le. A yw hyn yn gywir?

Na.

Awdurdodau mynediad yw’r unig rai y gall ddyrannu llefydd.

Nid yw penaethiaid yn gyfrifol am benderfynu pwy sy’n cael mynychu eu hysgolion nac unrhyw ysgol arall.

Nid yw’n bosibl i unrhyw berson neu sefydliad warantu lle i blentyn o flaen llaw mewn unrhyw ysgol. Rhaid i rieni ddiystyru unrhyw sylwadau neu sicrwydd o'r fath.

Ar gyfer ysgolion dan gymorth gwirfoddol (ffydd), gwneir penderfyniadau gan y corff llywodraethol, sydd gan amlaf yn sefydlu panel mynediad i benderfynu ar geisiadau.

A ydych yn siŵr o gael lle yn eich ysgol dewisol?

Na, nid oes sicrwydd o le mewn unrhyw ysgol benodol.

Mae gan rieni a gofalwyr hawl i fynegi dewis o’r ysgol yr hoffent i’w plentyn fynychu a rhoi rhesymau am y dewis hwnnw. Gelwir hyn yn ddewis rhiant.

Nid yw mynegi dewis yn gwarantu lle i’ch plentyn yn eich ysgol ddewisol.

Mewn rhai ardaloedd o Ynys Môn mae’r galw am lefydd ysgol yn arbennig o uchel, ac rydym yn derbyn mwy o geisiadau na’r llefydd sydd ar gael. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwrthod rhai ceisiadau.

Mae’n bwysig nad ydych yn annog eich plentyn i gredu y bydd lle ar gael iddynt mewn unrhyw ysgol benodol cyn eich bod wedi derbyn eich penderfyniad.

Os ydych yn gwneud cais am ysgol uwchradd, nid yw mynychu gweithgareddau pontio gyda’r ysgol gynradd yn yr ysgol uwchradd yn cael unrhyw effaith o gwbl ar benderfyniad yr awdurdod lleol.

Os yw eich plentyn yn mynychu dosbarth meithrin yn un o'r ysgolion o'ch dewis, a ydynt yn siŵr o gael lle yn y dosbarth derbyn?

Na.

Byddwch ond yn cael ystyriaeth am le mewn dosbarth derbyn cymunedol yng Nghyngor Sir Ynys Môn os yw’r cais perthnasol wedi’i gwblhau. Gan na ystyrir darpariaethau meithrin mewn ysgolion yn addysg statudol, bydd eich cais yn cael ei ystyried yn yr un modd â’r sawl na fynychodd y meithrin. Mae’n hanfodol eich bod yn gwneud cais newydd am le derbyn ar-lein.

A oes angen i chi wneud cais hyd yn oed os ydych yn byw yn y dalgylch neu os oes gennych plentyn hŷn yn yr ysgol?

Ydych, mae’n rhaid i bob plentyn sydd eisiau lle mewn ysgol brif lif wneud cais. Ni fyddwch yn cael eich ystyried am le oni bai bod cais yn cael ei wneud, hyd yn oed os yw hi’r ysgol ddalgylch a bod brodyr neu chwiorydd eisoes yn yr ysgol, er y byddant yn cael blaenoriaeth uwch.

Nid oes gwarant o le i’ch plentyn mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oed os yw hi’n eich ysgol ddalgylch neu fod eich plant eraill yn mynychu’r ysgol honno, er y byddant yn cael blaenoriaeth uwch.

Mae ein trefn blaenoriaeth wedi’i nodi yn ein Polisi Mynediad Ysgolion.

Sut ydych chi'n dod o hyd i'ch ysgol ddalgylch?

Gallwch wirio eich dalgylch i adnabod yr ysgolion sy’n agos at eich cartref drwy ddefnyddio MapMôn.

Sut ydych chi’n penderfynu pa ysgol i wneud cais amdani?

Darllenwch ein Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni sy’n rhestru’r holl ysgolion yn Ynys Môn.

Dewch o hyd i ba ysgol yw eich ysgol ddalgylch. Nid yr ysgol agosaf i’ch cyfeiriad cartref yw hon o reidrwydd, a bydd yn effeithio ar sut y bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio. MapMôn.

Meddyliwch am sut y bydd eich plentyn yn teithio i’r ysgol gan na fyddant o reidrwydd yn gymwys am gludiant ysgol am ddim.

Gallwch ganfod mwy am ysgol benodol ar wefan Fy Ysgol Leol Llywodraeth Cymru.

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion wefan y gallwch ymweld â hi a darllen eu prosbectws ar-lein. Os nad oes gennych fynediad at y we, gallwch gysylltu â’r ysgol i gael copi o’i phrosbectws.

Mae'n well gan lawer o rieni eu hysgol ddalgylch leol oherwydd mae hynny'n aml yn golygu y gall plant wneud mwy o ffrindiau yn agosach at y cartref ac, mewn rhai achosion, byddant yn gallu cerdded i'r ysgol.

Gallech hefyd ofyn i ymweld â’r ysgol i siarad â’r pennaeth.

Beth yw ysgol ddalgylch?

'Dalgylch' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal ddaearyddol y rhoddir blaenoriaeth i blant ohoni ar gyfer mynediad i ysgol benodol, er nad yw hyn yn gwarantu lle.

Er bod gan bob ysgol ddalgylch dynodedig, gall rhieni fynegi dewis ar gyfer unrhyw ysgol y maent am i'w plentyn ei mynychu. Os bydd unrhyw ysgol yn cael ei gordanysgrifio pan fyddwch yn gwneud cais yn ystod cylch derbyn arferol, rhoddir blaenoriaeth i blant sy'n byw yn y dalgylch dros y rhai nad ydynt (ac eithrio disgyblion sydd wedi'u heithrio fel yr amlinellir yn y Polisi Mynediad).

Gwiriwch pa ddalgylch ysgol rydych chi'n byw ynddo gan ddefnyddio MapMôn.

Mae'n well gan lawer o rieni eu hysgol ddalgylch leol oherwydd mae hynny'n aml yn golygu y gall plant wneud mwy o ffrindiau yn agosach at y cartref ac, mewn rhai achosion, byddant yn gallu cerdded i'r ysgol.

Mae eich plentyn yn mynd i’r ysgol gynradd “bwydo” ar gyfer yr ysgol uwchradd, felly pam na allwch gael lle?

Efallai y bydd gan rai ysgolion cynradd berthynas sefydledig a pharhaus gydag ysgol uwchradd benodol lle mae'r rhan fwyaf o garfan blwyddyn 6 o'r ysgol gynradd yn trosglwyddo i'r ysgol uwchradd benodol honno. Gelwir y rhain yn 'ysgolion bwydo'.

Fodd bynnag, nid ydynt yn effeithio ar feini prawf derbyn presennol ysgolion uwchradd.

A ddylech chi wneud cais am fwy nag un ysgol?

Os ydych ond yn enwi un ysgol ac nad ydych yn llwyddo i gael cynnig lle yno, efallai na chewch le mewn unrhyw ysgol arall yr ydych hefyd yn ei hoffi. Bydd gwneud cais ar ôl y dyddiad cau, yn benodol ar/ar ôl y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol, yn lleihau eich siawns o gael lle yn eich ysgol arall, gan y gallai'r holl lefydd fod wedi'u dyrannu yn barod.

Ni ellir ystyried eich plentyn ar gyfer ysgol oni bai eich bod wedi gwneud cais amdani. Byddem yn argymell eich bod yn gwneud cais am o leiaf 3 dewis ar eich ffurflen gais gychwynnol. Bydd hyn yn rhoi blaenoriaeth i'ch plentyn dros blant nad yw eu rhieni wedi gwneud hynny, a bydd yn cynyddu eich siawns o gael lle rydych chi'n hapus ag ef.

Os byddwch yn penderfynu peidio â rhestru eich ysgol ddalgylch fel un o'ch dewisiadau ond yn aflwyddiannus gyda'ch holl ddewisiadau, dim ond os oes llefydd eraill ar gael y bydd eich plentyn yn cael ei ystyried.

Gallwch ofyn am gael lle arall yn eich ysgol agosaf sydd ar gael os nad ydych yn llwyddiannus gyda'ch dewisiadau ysgol.

Ni fydd dewis un dewis yn unig yn gwella'ch siawns o gael cynnig lle yn yr ysgol honno. Os ydych ond yn gofyn am un ysgol, yna gallech beidio â bod ag ysgol o gwbl yn y pen draw ac efallai mai dim ond mewn ysgol nad ydych yn dymuno i’ch plentyn ei mynychu fydd llefydd ar gael.

Sut ydych chi'n newid eich dewisiadau ysgol?

Mae’n rhaid i rieni e-bostio mynediad@ynysmon.llyw.cymru os ydynt yn dymuno newid eu dewisiadau ysgol.

Bydd unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud ar/ar ôl y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.

Gallai hyn olygu bod eich plentyn yn colli allan ar le yn eich ysgol ddewisol.

Beth os ydych yn symud tŷ yn ystod y broses ymgeisio?

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau - gan gynnwys newid cyfeiriad - ar ôl cyflwyno'ch cais. Cysylltwch â mynediad@ynysmon.llyw.cymru.

Dim ond os ydych yn byw yno erbyn y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol y gellir ystyried cyfeiriad newydd wrth benderfynu ar ganlyniad eich cais, a’ch bod wedi rhoi tystiolaeth ac wedi rhoi gwybod i’r Swyddog Mynediad cyn i lefydd gael eu cynnig.

Lle mae nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael, byddwn yn cymhwyso cyfres o feini prawf i nodi pa ddisgyblion y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer lle. Gelwir y rhain yn feini prawf gordanysgrifio ac maent wedi’u cynnwys yn y Polisi Mynediad Ysgolion.

Os ydych yn symud i mewn i neu o fewn Ynys Môn ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn cael lle yn yr ysgol ddalgylch. Nid oes sicrwydd o le mewn unrhyw ysgol, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn yn y grŵp blwyddyn perthnasol, mae'n debygol y bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cyflwyno eich cais?

Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost awtomatig cyn gynted ag y bydd y cais yn cael ei gyflwyno.

Ni all y cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau neu dystiolaeth nad ydynt yn cael eu cyflwyno'n gywir.

Ar ôl ei dderbyn, bydd eich cais yn cael ei asesu gyda’r holl rai eraill sy'n cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau - gan gynnwys newid cyfeiriad, newid dewis neu newid mewn amgylchiadau - ar ôl cyflwyno eich cais.

Cysylltwch â mynediad@ynysmon.llyw.cymru cyn gynted â phosibl.

Os nad ydym yn gwybod tan ar ôl y Diwrnod Cynnig am unrhyw newid dewis, efallai na fyddwn yn gallu cynnig lle i'ch dewis ysgol os yw eisoes yn llawn.

Beth ddylech chi ei wneud os byddwch wedi methu’r dyddiad cau i wneud cais?

Mae'n rhaid i chi wneud eich gorau i gael eich cais i'r awdurdod derbyn erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd.

Os ydych yn hwyr yn cyflwyno eich cais heb reswm da, ni fydd yn cael ei ystyried gyda'r rhai a oedd ar amser.

Pe bai'r holl lefydd yn cael eu dyrannu i'r ceisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau, gallai hyn olygu y bydd eich plentyn yn colli allan ar le yn eich dewis ysgol.

Pa mor hir a fydd yn ei gymryd i gael penderfyniad?

Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost am ganlyniad eich cais am le mewn ysgol ar y Diwrnodau Cynnig Cenedlaethol.

Mae'r dyddiau yn 16 Ebrill ar gyfer ceisiadau meithrin/derbyn neu'r diwrnod gwaith cyntaf ym mis Mawrth ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd (flwyddyn 7).

Sut fydd y penderfyniad yn cael ei wneud?

Byddwn yn ystyried faint o lefydd sydd ar gael ym mhob ysgol a faint o ddisgyblion sydd wedi gwneud cais i fynychu'r ysgol honno.

Pan fo nifer y ceisiadau yn hafal i nifer y llefydd sydd ar gael neu'n llai na hynny, bydd pob disgybl yn cael ei dderbyn.

Lle mae nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael, byddwn yn cymhwyso set o feini prawf i nodi pa ddisgyblion y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer lle. Gelwir y rhain yn feini prawf gordanysgrifio ac maent wedi’u cynnwys yn y Polisi Mynediad Ysgolion. 

Pa ddisgyblion sy’n cael blaenoriaeth os yw’r ysgol wedi’i gordanysgrifio?

Os bydd nifer y ceisiadau am fynediad i’r dosbarth meithrin mewn ysgol yn fwy na rhif mynediad yr ysgol honno, yna derbynnir disgyblion hyd at y rhif mynediad yn unol â’r meini prawf a ganlyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod fod yn fodlon bod y rhesymau a roddwyd gan y rhieni wrth ddewis ysgol yn cwrdd ag un o’r meini prawf isod, sydd wedi eu gosod yn nhrefn blaenoriaeth:

  • Plant Mewn Gofal a Phlant Mewn Gofal blaenorol.
  • Disgyblion yr argymhellir am leoliad yn yr ysgol mewn perthynas â’u hanghenion dysgu ychwanegol ble mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) Awdurdod neu Gynllun Meddygol Unigol (CMU) Awdurdod Addysg Lleol plentyn yn enwi ysgol benodol. Mae’n rhaid i leoliadau o’r fath gael eu cadarnhau gan ymgynghorwyr proffesiynol yr awdurdod addysg lleol.
  • Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol sydd â brawd neu chwaer eisoes yn mynychu’r ysgol a fydd yn parhau ar gofrestr yr ysgol pan fydd y plentyn yn cychwyn.
  • Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol.
  • Disgyblion sy’n byw y tu allan i’r dalgylch sydd â brawd neu chwaer eisoes yn mynychu’r ysgol a fydd yn parhau ar gofrestr yr ysgol pan fydd y plentyn yn cychwyn.
  • Disgyblion sy’n byw y tu allan i’r dalgylch.

Mewn sefyllfa ddadleuol o fewn unrhyw un o’r meini prawf, bydd yr awdurdod yn rhoi blaenoriaeth i ddisgyblion sydd a’u cartref agosaf at yr ysgol drwy’r llwybr cerdded priodol byrraf a fesurir gan fapiau swyddogol, yn dangos ffiniau’r dalgylchoedd y gellir eu gweld yn y Gwasanaeth Dysgu neu yn yr ysgol. Os oes unrhyw amheuaeth, yna bydd yr awdurdod yn trefnu i fesur y daith yn fwy manwl.

Lle gwrthodwyd mynediad i ddisgybl, bydd yr awdurdod mynediad, yn unol â’r polisi hwn, yn defnyddio’i ymdrechion gorau i esbonio ei benderfyniad yn ysgrifenedig a thrafod y dewisiadau sydd ar gael i rieni er mwyn sicrhau addysg addas ar gyfer eu plant. Nid oes hawl i apelio.

Mae brodyr a/neu chwiorydd yn cynnwys brawd neu chwaer llawn, hanner brawd neu chwaer, llys frawd neu chwaer, brawd neu chwaer wedi ei fabwysiadu neu sy’n cael ei faethu sy’n byw yn yr un tŷ.

Mewn achosion o geisiadau ar gyfer gefeilliaid neu blant genedigaeth luosog lle na all yr awdurdod gynnig yr holl lefydd sy’n ofynnol, gall rhieni dderbyn y llefydd a gynhigiwyd iddynt a derbyn llefydd mewn ysgol arall ar gyfer y plentyn/plant sydd ar ôl. Ychwanegir y plentyn/plant at y rhestr aros a fydd yn parhau tan 30 Medi.

A yw llefydd ysgol yn cael eu cadw ar gyfer disgyblion sy’n symud i’r ardal?

Na, mae'n rhaid i ni dderbyn disgyblion hyd at nifer derbyn yr ysgol ac ni chaniateir iddynt gadw lle yn ôl rhag ofn y bydd teuluoedd yn symud i mewn i'r ardal nac i unrhyw grŵp penodol o bobl.

Nid yw'n bosibl symud plant o ysgol os oes angen lle ar blentyn sydd â blaenoriaeth uwch o dan y meini prawf gordanysgrifio.

Os ydych yn symud i mewn i neu o fewn Ynys Môn, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn cael lle yn yr ysgol leol.

Nid oes sicrwydd o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed eich ysgol ddalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes wedi'i llenwi yng ngrŵp blwyddyn eich plentyn bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Beth sy’n digwydd os gwrthodi'r lle i chi yn eich ysgol(ion) dewisol ?

Lle na allwn gynnig lle yn eich ysgol/ysgolion dewisol o ganlyniad i gymhwyso'r meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig, a'ch bod yn byw yn Ynys Môn, byddwch yn cael cynnig lle yn eich ysgol ddalgylch os oes llefydd ar gael.

Os nad yw eich ysgol ddalgylch ar gael, byddwn yn dweud wrthych am yr ysgol agosaf nesaf i'ch cyfeiriad cartref sydd â llefydd ar gael ac yn gofyn i chi roi dewisiadau ychwanegol i'w hystyried.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus ac nad ydych yn byw yn Ynys Môn, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch awdurdod lleol cartref am ysgol arall neu gyflwyno dewisiadau ychwanegol ar gyfer ysgolion eraill yn Ynys Môn.

Lle mae dewis ysgol wedi bod yn aflwyddiannus, cewch gynnig yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn - cyflwyno apêl yw'r unig ffordd i herio penderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod lle i'ch plentyn ac nid oes unrhyw ffordd arall o wneud hyn (er enghraifft. galwadau ffôn neu e-byst). Noder nad oes hawl apelio am fynediad i'r meithrin.

Bydd enw eich plentyn yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at y rhestr aros ar gyfer unrhyw ddewis ysgol a wrthodir (tan 30 Medi ar gyfer y cylch derbyn arferol o geisiadau).

Os daw llefydd ar gael, bydd yr holl blant ar y rhestr aros yn cael eu hystyried gyda'i gilydd ar gyfer y lle, ac yn cael eu blaenoriaethu fel y manylir ym meini prawf gordanysgrifio'r Polisi Mynediad Ysgolion.

Nid yw rhestrau aros yn rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad y cafodd y cais ei ychwanegu at y rhestr. Nid yw cynnwys rhywun ar y rhestr aros yn gwarantu y bydd lle ar gael iddynt yn y pen draw.

Allwch chi ddarganfod lle mae'ch plentyn ar y rhestr aros?

Gan nad ydym yn graddio nac yn rhoi’r rhestr aros mewn trefn nes y bydd lle ar gael yn y grŵp blwyddyn perthnasol, bydd safle eich plentyn ar y rhestr yn cael ei ddarparu fel syniad bras yn unig ar gais.

Beth os nad ydych llwyddiannus gyda'ch cais ac eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad? Sut mae’r broses apeliadau yn gweithio?

Lle mae eich dewis ysgol wedi bod yn aflwyddiannus, cewch gynnig yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn (nid oes hawl i apelio am fynediad i'r meithrin). Bydd manylion yn cael eu cynnwys yn yr e-bost penderfyniad y byddwch wedi'i dderbyn.

Os ydych yn dymuno apelio, bydd angen i chi roi gwybod i ni o fewn 10 diwrnod ysgol. Yna cewch wybod am ddyddiad ac amser eich gwrandawiad apêl (a gynhelir o fewn 30 diwrnod o'ch penderfyniad i apelio), sut i gyflwyno rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'ch achos a chael eich gwahodd i fod yn bresennol.

Bydd achos y cyngor dros wrthod yn cael ei gyflwyno i banel annibynnol o dri pherson nad ydynt wedi'u cysylltu â'r ysgol dan sylw na'r cyngor. Yna cewch chi (a'r panel) gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a chyflwyno eich rhesymau eich hun dros apelio.

Wrth gyflwyno apêl, rydych yn cyflwyno achos i'ch plentyn fynd i ysgol benodol a dylai'r achos fod yn seiliedig ar pam y dylai eich plentyn fynychu'r ysgol honno.

Bydd y gwrandawiad apêl mor anffurfiol â phosibl ond os ydych yn teimlo bod angen cyngor arnoch ar sut i gyflwyno'ch achos, dylech geisio hyn yn annibynnol. Mater i bob unigolyn yw hyn, ond nid yw llawer o rieni yn ystyried hyn yn angenrheidiol.

Ni all aelodau'r cyngor, swyddogion yr awdurdod lleol, Aelodau Seneddol na gwleidyddion lleol fynd gyda chi i'ch gwrandawiad apêl, gan y gallai hyn arwain at wrthdaro buddiannau, annhegwch i apelyddion eraill a rhoi pwysau gormodol ar y panel.

Yn ystod y broses apelio, gallwch ddewis ysgol arall ar gyfer eich plentyn o hyd. Cysylltwch â'r tîm mynediad ysgolion (e-bost a chyfeiriad). Noder nad yw derbyn ysgol arall yn effeithio ar eich hawl i apelio.

Ym mhob apêl mynediad ysgolion, mae penderfyniad y panel yn derfynol ac yn rhwymo pob parti.

Gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i gwynion ysgrifenedig am gamweinyddu ar ran panel apêl mynediad. Mae camweinyddu yn ymdrin â materion fel methu â gweithredu'n annibynnol ac yn deg, yn hytrach na chwynion lle mae person yn teimlo bod y penderfyniad a wneir yn anghywir.

Dim ond y llysoedd all wrthdroi penderfyniad panel apêl lle mae'r apelyddion neu'r awdurdod derbyn yn llwyddo i wneud cais am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad hwnnw.

Beth sy’n digwydd yn yr apêl?

Bydd eich apêl yn cael ei chlywed yn breifat.

Os oes llawer o apeliadau yn ymwneud ag un ysgol gellir gwneud cam cyntaf yr apêl fel grŵp a bod rhieni eraill yn bresennol sydd hefyd wedi apelio.

Cam 1

  • Bydd y swyddog cyflwyno yn esbonio pam y gwrthododd yr awdurdod derbyn eich cais/y ceisiadau (e.e. byddai'r ysgol yn rhy orlawn).
  • Bydd gan y rhiant gyfle i gwestiynu rhesymau'r awdurdod derbyn dros wrthod.

Os bydd y panel yn penderfynu ar hyn o bryd nad oedd angen gwrthod lle, er enghraifft, os na fyddai'r ysgol yn rhy orlawn, bydd y gwrandawiad yn dod i ben, a bydd y rhiant yn cael gwybod bod yr apêl wedi bod yn llwyddiannus.

Os bydd y panel yn penderfynu bod rhesymau dros wrthod ar y sail y byddai'r ysgol yn rhy llawn, yna bydd ail gam yn dilyn. Bydd y rhain bob amser yn apeliadau unigol (preifat).

Cam 2

  • Bydd y rhiant yn esbonio pam y dylai eu plentyn gael lle yn yr ysgol er ei bod yn llawn.
  • Bydd y panel a'r awdurdod derbyn yn cael cyfle i gwestiynu rhesymau'r rhieni.
  • Yna bydd yr awdurdod derbyn yn crynhoi'r achos.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i grynhoi'ch achos.

Bydd y panel yn gwrando ar bob ochr i'r achos a gall ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg os oes angen eglurhad neu mwy o wybodaeth arno i ddod i benderfyniad.

Dylid anfon penderfyniad y panel drwy hysbysiad ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Gall apeliadau grŵp gymryd mwy o amser.

Gweler gwefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am apeliadau.