Pwy sy'n gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor?
Y person a enwir ar fil Treth Gyngor sy'n gyfrifol am dalu'r ffioedd.
Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, y preswylydd sydd â'r budd mwyaf yn yr eiddo fel arfer.
Megis:
- Perchen-feddianwyr, lesddalwyr, thenantiaid (ar yr amod nad ydynt yn byw yn yr un eiddo â’u landlord). a phreswylwyr.
- Bydd perchnogion yn atebol dros eiddo lle nad oes unrhyw breswylydd ac ar gyfer eiddo yr ystyrir ei fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth.
Cyd-atebolrwydd
Mae atebolrwydd cyd ac unigol yn derm cyfreithiol sy'n golygu bod pob person sydd â'r un lefel o fudd mewn eiddo yr un mor gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor.
Byddwn yn cyflwyno’r bil Treth Gyngor mewn mwy nag un enw os ydych:
- yn berchen ar eich eiddo ar y cyd â pherson arall neu bobl eraill
- â chyd-denantiaeth â pherson arall neu bobl eraill
- yn briod,yn rhan o bartneriaeth sifil, neuyn byw gyda rhywun arall fel rhan o gwpl
Yr hawl i apelio
Gallwch apelio os credwch nad ydych yn atebol i dalu Treth y Cyngor neu y dylai fod gennych hawl i ostyngiad neu eithriad. Er enghraifft:
Dylid cyflwyno pob apêl i Gyngor Sir Ynys Môn yn y lle cyntaf. Efallai na fydd cyflwyno apêl yn cael ei ystyried yn rheswm dilys dros beidio â thalu Treth y Cyngor.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y cyngor, gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru.
Nid yw'r cyngor yn gyfrifol am osod eich band treth gyngor. Os ydych yn ystyried bod eich band prisio yn anghywir neu wedi bod yn anghywir, efallai y bydd y Swyddog Rhestru yn gallu adolygu eich band.
Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael gan y Swyddog Rhestru drwy e-bost i ctonline@voa.gov.uk neu ffonio 03000 505 505.
Nid yw gwneud apêl yn caniatáu i chi atal taliad treth sy’n ddyledus yn y cyfamser. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus bydd gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw dreth a ordalwyd.