Gwybodaeth ariannol am eich Dreth Gyngor
Ble mae eich Dreth Gyngor yn mynd
Gofynion y Dreth Gyngor 2024/25
Yn 2024/25, mae’r Cyngor yn bwriadu gwario £242.1m (o’i gymharu â £230.9m yn 2023/24). Ar ôl cymryd i ystyriaeth ffioedd a thaliadau, ynghyd â grantiau penodol o Lywodraeth Cymru neu o lywodraeth ganolog, ceir cyllideb net o £179.7m.
Daw’r arian sydd ei angen yn rhannol o’r Dreth Gyngor ac yn rhannol drwy Lywodraeth Cymru fel Grant Cynnal Refeniw a chyfraniad o Gronfa’r Dreth Annomestig.
Mae’r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o’r cynnydd yng nghyllideb 2024/25.
|
£ mewn miliynau |
Cyfanswm Gwariant Refeniw Net 2023/24 |
170.8 |
Chwyddiant a newidiadau ymrwymedig arall |
14.3 |
Twf Gwasanaeth |
3.1 |
Arbedion yn y Gwasanaeth |
-4.1 |
Trosglwyddiad (i) / o falansau |
-4.4 |
Cyfanswm Gwariant Refeniw Net 2024/25 |
179.7 |
Gwario Safonol
Yr Asesiad Gwariant Safonol (AGS) yw asesiad Llywodraeth Cymru o’r hyn y mae angen i Ynys Môn ei wario yn 2024/25 er mwyn darparu’r un lefel o wasanaeth ag awdurdodau unedol eraill Cymru petaent yn gwario yn unol â’u AGS. £176.5m yw’r AGS am eleni ac mae’r gyllideb net, felly, yn 101.8% o’r AGS.
Ble mae’r arian yn cael ei wario?
Gwariant Gros £242.1m
Gwasanaethau |
£ mewn miliynau |
Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc |
77.7 |
Gwasanaethau Oedolion |
48.7 |
Gwasanaethau Plant |
17.7 |
Gwasanaethau Tai |
6.9 |
Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo |
27.4 |
Economaidd ac Adfywio Cymunedau |
10.4 |
Trawsnewid Corfforaethol |
7.6 |
Adnoddau (gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Budd-dal Tai) |
34.4 |
Busnes y Cyngor |
2.3 |
Rheolaeth Corfforaethol |
0.8 |
Costau Corfforaethol a Democrataidd |
1.6 |
Ardollau* |
4.9 |
Cyllido Cyfalaf |
5.7 |
Amgylchiadau Annisgwyl Cyffredinol ac Arall |
0.4 |
Trosglwyddo o gronfeydd wrth gefn |
-4.4 |
O ble daw’r £230.9m?
Cyllid |
£ mewn miliynau |
Grantiau Penodol |
48.3 |
Ffioedd a Thaliadau |
14.1 |
Grant Cynnal Refeniw |
102.2 |
Cronfa'r Dreth Annomestig |
25.3 |
Gofynion y Dreth Gyngor |
52.2 |
Cyllideb refeniw NET 2024/25
Gellir dod o hyd i fanylion yn Llyfr Cyllideb y Cyngor
Y balans gweithredol
Mae’r Cyngor yn cynnal balansau er mwyn cwrdd â gwariant wrth aros am incwm ac ar gyfer unrhyw eitem o wariant annisgwyl a allai fod ar frys. Rhagwelir £10m bydd balansau’r Cyngor ar 31 Mawrth 2024 a £10m ar 31 Mawrth 2025.
Cyllideb cyfalaf – buddsoddi i’r dyfodol
Nid yw’r cyngor yn gwario’i holl arian ar wasanaethau dydd i ddydd (gwariant refeniw). Defnyddir y term gwariant ‘cyfalaf’ i gyfeirio at brosiectau mawr, megis prynu tir, codi neu wella adeiladau a chaffael peiriannau a cherbydau. Mae Cyllideb Gyfalaf yr Awdurdod ar gyfer 2024/25 yn £13.8m (o’i gymharu â £24.4m yn 2023/24).
Faint fyddwch yn ei dalu
Amcangyfrifir y bydd pob £1 o’r Dreth Gyngor y bydd y Cyngor yn ei chodi ar Fand D yn creu £33,170.03.
Bydd y £1,572.30 a gyfyd y Cyngor (i eiddo sy’n cyfateb i Fand ‘D’) yn creu incwm o £52,153,328.
At hyn, rhaid ychwanegu’r Dreth Gyngor y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi penderfynu arni, sef £349.65 (Band D) i gwrdd â’i wariant, a bydd hyn yn creu £11,597,901.
Bydd y Dreth Gyngor y penderfynodd pob Cyngor Cymuned yn y Sir arni yn codi £1,994,795 arall a cheir manylion am y Dreth hon isod a bydd, ar gyfartaledd, yn ychwanegu £60.14 at y Dreth Gyngor (Band D).
Mae’n Dilyn y bydd y Dreth Gyngor ar gyfartaledd i eiddo Band D yn y Sir hon am 2024/25 yn:
£1,572.30 + £349.65 + £60.14 = £1,982.09 ac mae hyn yn rhyw £38.12 yr wythnos.
Mae hyn yn gynnydd o 8.59% ar y Dreth Gyngor cyfartalog a oedd yn daladwy ar eiddo Band D yn 2023/24. Mae’r cynnydd yn rhan y Cyngor Sir yn 9.50% ac 4.97% yn rhan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Gellir dod o hyd i fanylion yn Bandiau prisio'r Dreth Gyngor ar gyfer Ynys Môn.
Y Dreth Gyngor - gwybodaeth esboniadol
Gellir dod o hyd i fanylion yn Eich Dreth Gyngor.
Praeseptau’r cynghorau cymuned a thref
Cymuned |
Praesept 2023/24 £ |
Praesept 2024/25 £
|
Cyfatebol Band D £
|
Y dreth gyngor Band D 2024/25 £ |
Amlwch |
109,816.00 |
115,928.00 |
74.61 |
1,996.56 |
Biwmares |
30,871.15 |
30,973.08 |
27.45 |
1,949.40 |
Caergybi |
623,513.00 |
680,773.19 |
165.15 |
2,087.10 |
Llangefni |
270,130.98 |
315,615.00 |
150.03 |
2,071.98 |
Porthaeathwy |
137,880.00 |
138,585.00 |
92.16 |
2,014.11 |
Llanddaniel-fab |
11,865.00 |
13,645.00 |
36.27 |
1,958.22 |
Llanddona |
8,500.00 |
8,500.00 |
20.34 |
1,942.29 |
Cwm Cadnant |
34,146.00 |
34,200.00 |
27.72 |
1,949.67 |
Llanfair Pwllgwyngyll |
63,000.00 |
70,922.73 |
52.83 |
1,974.78 |
Llanfihangel Esceifiog |
24,750.00 |
24,750.00 |
34.65 |
1,956.60 |
Bodorgan |
12,000.00 |
13,200.00 |
27.36 |
1,949.31 |
Llangoed |
22,200.00 |
24,750.00 |
35.37 |
1,957.32 |
Llangristiolus & Cerrigceinwen |
8,000.00 |
8,000.00 |
12.42 |
1,934.37 |
Llanidan |
15,098.49 |
16,457.35 |
37.71 |
1,959.66 |
Rhosyr |
24,950.00 |
29,950.00 |
28.26 |
1,950.21 |
Penmynydd |
8,500.00 |
8,925.00 |
35.28 |
1,957.23 |
Pentraeth |
17,600.00 |
17,900.00 |
29.61 |
1,951.56
|
Moelfre |
12,430.00 |
13,500.04 |
19.53 |
1,941.48 |
Llanbadrig |
32,094.15 |
32,732.97 |
46.17 |
1,968.12 |
Llanddyfnan |
10,500.00 |
11,000.00 |
20.97 |
1,942.92 |
Llaneilian |
21,505.75 |
21,505.75 |
34.65 |
1,956.60 |
Llannerch-y-medd |
19,674.27 |
21,641.69 |
39.96 |
1,961.91 |
Llaneugrad |
4,000.00 |
4,000.00 |
20.52 |
1,942.47 |
Llanfair Mathafarn Eithaf |
60,648.59 |
66,106.96 |
32.40 |
1,954.35 |
Cylch y Garn |
7,000.00 |
8,000.00 |
18.72 |
1,940.67 |
Mechell |
10,500.00 |
11,025.00 |
18.63 |
1,940.58 |
Rhos-y-bol |
8,000.00 |
8,000.00 |
16.38 |
1,938.33 |
Aberffraw |
12,000.00 |
12,000.00 |
37.89 |
1,959.84 |
Bodedern |
15,000.00 |
14,000.00 |
33.03 |
1,954.98 |
Bodffordd |
13,000.00 |
13,000.00 |
30.60 |
1,952.55 |
Treaddur |
36,000.00 |
36,000.00 |
24.12 |
1,946.07 |
Tref Alaw |
6,745.00 |
6,745.00 |
24.75 |
1,946.70 |
Llanfachraeth |
8,074.00 |
10,000.00 |
41.94 |
1,963.89 |
Llanfaelog |
44,000.00 |
44,000.00 |
30.60 |
1,952.55 |
Llanfaethlu |
6,000.00 |
6,000.00 |
21.51 |
1,943.46 |
Llanfair-yn-neubwll |
17,000.00 |
19,000.00 |
33.12 |
1,955.07 |
Y Fali |
46,963.55 |
46,963.55 |
44.64 |
1,966.59 |
Bryngwran |
14,500.00 |
14,500.00 |
38.88 |
1,960.83 |
Rhoscolyn |
7,000.00 |
8,000.00 |
19.98 |
1,941.93 |
Trewalchmai |
14,000.00 |
14,000.00 |
36.72 |
1,958.67 |
Bandiau prisio’r Dreth Gyngor
Bydd pob annedd ddomestig (tai, byngalos, fflatiau ac yn y blaen) yn ymddangos ar rhestr brisio y Prisiwr Dosbarth.
Gosodir pob annedd yn un o’r naw band yn ôl eu gwerth gyfalaf ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2004. Daeth y rhestr yma i rym ar 1 Ebrill 2005.
Mae eich bil Dreth Gyngor yn dangos band eich annedd.
Anheddau sydd wedi’u heithrio
Efallai y bydd eich eiddo wedi'i eithrio o'r Dreth Gyngor.
Disgowntiau
Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich Dreth Gyngor.
Pobl ag anabledd
Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich Dreth Gyngor os oes gennych anabledd.
Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Mae gan Cyngor Sir Ynys Môn Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.I’r rhai sy’n derbyn yn barod Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (yn llawn neu’n rhannol), neu wedi gwneud cais cyn diwedd Mawrth 2024, byddant yn cael eu trosglwyddo i’r cynllun gostyngiad newydd yn awtomatig. I hawlwyr newydd, bydd rhaid gwneud cais am ostyngiad tuag at y Dreth Gyngor fel a ganlyn:-
- Cais ar-lein.
- Dogfen Fewnbwn Awdurdod Lleol yr Adran am Waith a Phensiynau (LAID) a Gwybodaeth Cwsmer Awdurdod Lleol (LACI) lle maent yn datgan y bwriad i hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor (i hawlwyr Budd-dal Tai yn unig. Nid yw’n berthnasol i hawlwyr oedran gwaith Credyd Cynhwysol).
Rhyddhad dewisol tuag at y Dreth Gyngor
Bwriad y polisi yw galluogi'r cyngor i roi rhyddhad i'r rhai sydd yn dioddef y caledi ariannol mwyaf eithafol mewn perthynas â chostau'r Dreth Gyngor.
Apeliadau yn erbyn eich band yn unig
Gellir dod o hyd i fanylion yn Eich Dreth Gyngor.
Mae mwy o wybodaeth fanwl ar gael gan y Swyddog Rhestru, Tŷ Rhodfa, Tŷ Glas Road, Llanishen, Caerdydd, CF14 5GR, neu ffôn: 03000 505505, neu ebost: ctwales@voa.gsi.gov.uk.
Apeliadau eraill ynglŷn â’r Dreth Gyngor
Mae’n bosib hefyd i chi apelio pe credech na ddylech fod yn talu’r Dreth Gyngor, er enghraifft, am nad y chi yw’r perchennog, neu fod camgymeriad wrth gyfrifo'r bil. Petaech yn dymuno apelio, rhaid i chi, yn y lle cyntaf, ysgrifennu at y Cyngor. Cewch ragor o fanylion am y broses apelio (gan gynnwys gwybodaeth am rôl y Tribiwnlysoedd Prisio) oddi wrth eu safle we. Chewch chi ddim peidio â thalu’r Dreth Gyngor sy’n ddyledus pan fyddwch yn gwneud yr apêl. Os yw’ch apêl yn llwyddiannus, yna byddwch â’r hawl i gael ad-daliad ar y rhan honno o’r Dreth Gyngor nad oedd rhaid i chi ei thalu.
Premiwm y Dreth Gyngor
Gall y cyngor godi premiwm ar gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer cartrefi gwag tymor hir ac ail gartrefi.
Ardrethi annomestig – gwybodaeth esboniadol
Mae’r wybodaeth isod yn esbonio rhai o’r termau a allai gael eu defnyddio mewn hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn y wybodaeth ategol. Gellir cael gwybodaeth bellach am rwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.
Ardrethi annomestig
Mae’r ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i gomisiynwyr heddlu a throsedd. Bydd eich cyngor a’ch comisiynydd heddlu a throsedd yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ail-ddosbarthir, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Gellir cael gwybodaeth bellach am y system ardrethi annomestig, gan gynnwys pa ryddhadau sydd ar gael, trwy fynd i safle Busnes Cymru.
Gostyngiadau trethi busnes
Rheoli Cymhorthdal
Gallai rhyddhad rhag talu trethi annomestig fod yn gyfystyr â chymhorthdal o adnoddau cyhoeddus gan awdurdod cyhoeddus. Mae’n gyfreithlon pan fo’n cael ei ddarparu yn unol â Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022, Adran 36, lle mae cyfanswm y cymorth ariannol yn fach iawn h.y. £315,000 dros gyfnod dreigl o dair blynedd ariannol yn cynnwys y rhan aeth heibio o'r flwyddyn ariannol gyfredol a'r ddwy flynedd ariannol yn union o flaen y flwyddyn ariannol gyfredol. Os ydych yn cael, neu wedi cael, unrhyw gymhorthdal a roddwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, neu’r ddwy flynedd ariannol flaenorol (o unrhyw ffynhonnell), dylech hysbysu’r awdurdod bilio ar unwaith gyda manylion y cymhorthdal a gafwyd. Y rheswm am hyn yw fod gofyn i'r Awdurdod uwchlwytho manylion i gronfa ddata cymhorthdal y Llywordraeth lle mae cymhorthdaliadau'n uwch na £100,000.