Cyngor Sir Ynys Môn - Tudalen gartref

Paratoi am y gaeaf


Gwybodaeth a chyngor i'ch helpu i baratoi am y gaeaf.

Gwybodaeth tywydd diweddaraf

Mae gan y Met Office y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd a rhybuddion tywydd.

Ewch i wefan Met Office (gwefan allanol yn Saesneg)

Ymgyrch barod am y tywydd

Mae'r Met Office wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iawn am fod yn barod ar gyfer y gaeaf ar eu gwefan.

Ewch i wefan Met Office (gwefan allanol yn Saesneg)

Cynllun ECO 4

Dyma gynllun y Llywodraeth sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref megis system gwres canolog newydd, gwella'r system wresogi bresennol a/neu inswleiddio a/neu paneli solar.

Darganfod mwy am y cynllun ECO 4

Taliad Tanwydd y Gaeaf

Ewch i wefan GOV.UK (gwefan allanol)

Taliad Tywydd Oer

Ewch i wefan GOV.UK (gwefan allanol)

Cynllun Nyth

Yn eich helpu chi i wneud eich cartref yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithlon.

Ewch i wefan Nyth (gwefan allanol)

Age Cymru

Mae gan Age Cymru wybodaeth ddefnyddiol iawn ar eu gwefan ar gyfer cadw’n gynnes, cadw’n iach a gofalu am eich arian y gaeaf hwn.

Ewch i wefan Age Cymru (gwefan allanol)

Mae cyngor gan y GIG ar gadw'n iach yn ystod y gaeaf ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ewch i wefan Betsi Cadwaladr (gwefan allanol)

Cadw'n ddiogel mewn eira

Ewch i'r wefan y Met Office am gymorth ar gadw'n ddiogel yn yr eira (gwefan allanol) - gwydodaeth ar gael yn Saesneg yn unig.

Ffyrdd

Ewch i lwybrau graeanu 

Ewch i wefan Traffig Cymru (gwefan allanol)

Ewch i gyngor ar yrru yn ystod y gaeaf

Os ydych yn rhoi gwybod am argyfwng y tu allan i'n horiau gwaith (ein horiau gwaith yw 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener), ffoniwch ein llinell ffôn argyfwng 01248 723 062.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ewch i wefan Traveline Cymru (gwefan allanol)

Biniau graean

Ewch i wybodaeth biniau graean

Biniau ac ailgylchu

Bydd y cyngor yn ychwanegu gwybodaeth at dudalen we diwrnod casglu biniau a thudalen Facebook y cyngor (gallwch weld y wybodaeth heb greu cyfrif).

Ewch i dudalen we'r diwrnod casglu gwastraff

Ewch i dudalen Facebook y cyngor

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd.

Gallwch gofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim.

Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol)

Bydd y cyngor yn ychwanegu gwybodaeth at dudalen we diwrnod casglu biniau a thudalen Facebook y cyngor (gallwch weld y wybodaeth heb greu cyfrif).

Ewch i dudalen we'r diwrnod casglu gwastraff

Ewch i dudalen Facebook y cyngor

Ewch i dudalen we'r casgliad sbwriel wedi'i fethu

Yn gyffredinol, mae penaethiaid yn penderfynu a ddylai ysgol gau mewn tywydd garw.

I ddarganfod a yw eich ysgol ar gau, ewch i wefan yr ysgol neu ewch i dudalen Facebook y cyngor (does dim angen cyfrif Facebook i weld y wybodaeth).

Mae SP Energy Networks yn darparu trydan i gartrefi a busnesau Gogledd Cymru.

Ewch i wefan SP Energy Networks (gwefan allanol yn Saesneg)

Cyngor da

Sicrhewch fod manylion eich cyfrif ar-lein gyda SP Energy Networks yn gyfredol. Efallai y byddwch yn gallu cael negeseuon uniongyrchol i'ch dyfais symudol a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am doriad pŵer.

Mae cyngor ar wefan Dŵr Cymru i baratoi eich cartref ar gyfer tywydd oerach.

Ewch i wefan Dŵr Cymru (gwefan allanol)

Mae cyngor diogelwch gaeaf ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Ewch i wefan gwasanaeth tân (gwefan allanol)

Dysgwch fwy am y rhwydwaith o leoliadau sy’n gallu cynnig croeso cynnes i bobl ar Ynys Môn sy’n wynebu heriau costau byw, trwy gynnig lle cynnes, sgwrs a phaned.

Chwiliwch am lleoedd cynnes ar wefan 'Cysylltu Sir Fôn' gan Medrwn Môn i gael rhestr o ardaloedd sy’n cynnig y gwasanaeth hwn. 

Eich canolfan hamdden leol

Bydd Canolfannau Hamdden Môn Actif yn parhau i gynnig lleoedd cynnes a chawodydd am ddim yn ystod oriau agor y Canolfannau y gaeaf hwn yn:

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am goeden sydd wedi syrthio ar y ffordd.

Adrodd am broblem gyda ffyrdd neu balmentydd

Argyfyngau

If you want to report an emergency outside our working hours (our working hours are 9am to 5pm, Monday to Friday), please call the out of hours emergency phoneline on 01248 723 062