Rydym yn cael gwybodaeth reolaidd a manwl ynghylch rhagolygon y tywydd ac fel arfer rydym yn anfon y timau graeanu allan pan mae hi’n addo rhew. Mae’r timau ar gael i ymateb 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos trwy’r gaeaf.
Llwybrau graeanu Argyfwng - yn cael ei gweithredu yn ystod adegau o argyfwng pan fydd halen yn dod yn ddogni gan Lywodraeth Cymru. Pan fydd stociau a ddelir gan Ynys Môn yn syrthio islaw 2000 tunnell.
Yn ddelfrydol byddem yn dymuno graeanu pob un o’r 1210 Km o ffyrdd ond nid oes modd gwneud hynny oherwydd goblygiadau cost a’r amser y byddai’n ei gymryd.
Mae’r ffyrdd sy’n cael eu graeanu yn cynnwys prif ffyrdd dosbarth A, y rhan fwyaf o’r ffyrdd dosbarth B, y rhan fwyaf o’r llwybrau bysus a rhai ffyrdd eraill lle mae anawsterau penodol.
Mewn tywydd drwg bydd y timau graeanu yn ceisio trin cymaint o is-ffyrdd â phosib unwaith y mae’r prif ffyrdd wedi eu graeanu (Llwybr Graenau Blaenoriaeth 2 ac 3 yr Cyngor).
Bydd llwybrau graeanu blaenoriaeth yn ail yn unig yn derbyn sylw lle tywydd gwael yn parhau neu y disgwylir iddo barhau am hanner dydd a lle nad llwybrau wedi cael eu trin o fewn y 36 awr flaenorol.
Bydd llwybrau blaenoriaeth trydydd yn derbyn sylw os yw’r amodau yn parhau am 48 awr pan fydd adnoddau ar gael.
Gweler map y teithiau blaenoriaeth dosbarthu graean isod fel ffeil pdf. Bydd y lonydd hyn yn cael ei trin/clirio cyn unrhyw lonydd eraill.
Nac ydi. Er gwaethaf ymdrechion gorau ein timau graeanu mae ein llwyddiant o ran mynd i’r afael gyda phroblemau a achosir gan eira a rhew yn dibynnu ar lawer o ffactorau allanol.Er ein bod yn cael gwybodaeth reolaidd a manwl am ragolygon y tywydd gall rhew ffurfio ar wyneb lôn cyn cwblhau’r gwaith graeanu. Mae’n arbennig o anodd proffwydo a fydd barrug yn y bore cynnar.Mae ffyrdd yn cael eu graeanu pan nad yw’n bwrw glaw fel nad yw’r halen yn cael ei olchi ymaith.
Os yw dwr glaw yn rhewi’n gyflym, gall rhew ffurfio cyn i’r graeanwyr gwblhau eu gwaith. Os bydd y glaw’n troi’n eira yn y bore neu pan fo traffig yn drwm gyda’r nos mae’n anodd iawn graeanu oherwydd tagfeydd. Mae effaith halen ar ffyrdd sydd wedi rhewi yn lleihau pan fo’r tymheredd yn disgyn yn is na - 5ºC.Os ydych yn gadael cerbyd wedi ei barcio ar ochr y ffordd sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn gadael digon o le (o leiaf dri metr) i’r cerbyd graeanu basio.
- ein bod yn graeanu 371 o’r 1212 o giolmedrau o ffyrdd sydd ar yr ynys, sef 30% o’r rhwydwaith
- ar gyfartaledd bydd ffyrdd Ynys Môn yn cael eu graeanu rhwng 30 a 50 o weithiau
- Rydym yn rhedeg 7 o gerbydau graeanu rheng flaen dros y gaeaf
- mae yna 12 o yrwyr sy’n gweithio mewn shifftiau ac sydd ar alwad 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos
- mae’n cymryd oddeutu dwy awr a hanner i’r timau graeanu roi halen ar y brif ffordd bob tro y maent yn mynd allan
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.