Cofrestru
Rhaid i bob cwch pŵer a jet sgi ('badau dŵr personol') a lansiwyd ar Ynys Môn:
- cael ei gofrestru
- meddu ar drwydded ddilys (naill ai’n dymhorol neu’n ddyddiol)
Mae'r drwydded flynyddol yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth bob blwyddyn.
Ffioedd cofrestru
- Cofrestriadau ar gyfer cychod dŵr o dan 10hp: £40
- Cofrestriadau ar gyfer cychod dŵr dros 10hp: £70
Yswiriant
Rhaid i bob bad dŵr pŵer sydd wedi'i gofrestru ar Ynys Môn gael yswiriant dilys.
Ffurflen gofrestru a lansio tymhorol 2024 (PDF)
Lansio tymhorol a dyddiol
Bydd yn rhaid i chi dalu ffi lansio tymhorol neu ddyddiol yn:
- Aberffraw
- Traeth Borthwen, Llanfaethlu
- Traeth Borthwen, Rhoscolyn
- Traeth Llydan, Rhoscolyn
- Porth Trecastell
- Porth Swtan
- Porthdafarch
- Traeth Llydan, Rhosneigr
- Traeth Crugyll
- Porth Tywyn Mawr
- Cob Stanley
- Bae Cymyran
- Bae Beddmanarch
- Traeth Penrhos
- Bae Trearddur
- Porth Diana
- Bae Cemlyn
- Bae Cemaes
- Llaneilian
- Bae Dulas
- Lligwy
- Moelfre
- Traeth Bychan
- Traeth Benllech
- Traeth Coch
- Traeth Llanddona
- Y Fenai yn Biwmares
- Traeth Llanddwyn
- Porth Llechog
- Porthaethwy
Dylai perchenogion cychod pŵer a badau dŵr personol sicrhau eu bod yn gyfarwydd gyda’r is ddeddfau lleol mewn perthynas â’r defnydd o gychod pleser ar arfordir Môn.
Dygwn eich sylw yn benodol at y cyfyngiad cyflymdra o 8 milltir forol ym mhob un o’r 26 o ardaloedd y mae ein his-ddeddfau glan môr a chychod pleser yn berthnasol iddynt. Bydd copi ar gael i chi edrych arno gan y goruchwyliwr lansio perthnasol.
Yn ogystal, atgoffir cychod sgi bod rhaid iddynt gael sylwedydd yn y cwch, yn ogystal â’r gyrrwr, bob amser y bydd sgïwr yn y dŵr. Gellir erlyn y rheini sy’n torri is-ddeddfau Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer cychod pleser glan môr a thynnu oddi wrthynt eu caniatâd i ddefnyddio cyfleusterau lansio’r cyngor.
I gofrestru bydd angen talu ffi a bydd rhaid cyflwyno i’r swyddog cofrestru brawf adnabod a phrawf o ddiogelwch yswiriant priodol. Bydd rhaid cael diogelwch yswiriant trydydd parti £3 miliwn.
Ni chaniateir mynediad i fadau personol ac / neu fadau gyda pheiriant i unrhyw un o draethau’r cyngor os nad yw’r perchennog wedi cofrestru’r bad gyda chyngor Sir Ynys Môn neu os yw’r cofrestriad wedi ei dynnu’n ôl.
Er mwyn gyrru bad dŵr personol, rhaid i yrwyr:
- rhaid i yrwyr badau personol heb gymhwyster fod o leiaf 18 oed
- bod rhwng 15 ac 17, a bod yn berchen ar dystysgrif medrusrwydd gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol ar gyfer badau dŵr personol
- bod rhwng 12 ac 14 a bod yn berchen ar dystysgrif medrusrwydd gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol a chael eu “goruchwylio’n uniongyrchol” gan oedolyn. Mae goruchwylio yn yr ystyr hwn yn golygu bod oedolyn yn bresennol ar y bad.
Ni chaniateir pobl ifanc o dan 12 mlwydd oed i yrru badau dŵr personol.
O fewn 50 metr i fad dŵr personol, cwch, angorfa, doc, nofiwr, sgïwr, pysgotwr neu offer pysgota dylech deithio ar gyflymdra sydd ddim yn gadael ôl y bad yn y dŵr. Rhaid cydymffurfio gyda chyfyngiadau cyflymdra Cyngor Sir Ynys Môn yn yr holl ardaloedd penodedig.
Nodwch, os gwelwch yn dda:
- ni chaniateir i chi yrru bad dan ddylanwad diod na chyffuriau
- anogir mordwyo badau dŵr personol a badau gyda pheiriant mewn modd cyfrifol
- argymhellir fod yn rhaid cael yr offer priodol
- anogir trefniadau diogelwch a chwrteisi i eraill
- bydd rhaid talu ffioedd lansio
- tynnir cofrestriad perchennog / defnyddiwr yn ôl oni fydd yn cydymffurfio gyda’r amodau uchod.
- os oes unrhyw amheuaeth peidiwch a mynd ar y dŵr
Sicrhewch fod yr holl offer priodol ar eich bad. I’ch cynorthwyo mae’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Badau Achub bellach yn darparu gwasanaeth sydd, i bob pwrpas, yn rhad ac am ddim i berchenogion cychod i siecio eich offer diogelwch a rhoi tystysgrif ar gyfer eich cwch/bad. Petaech yn dymuno manteisio ar y gwasanaeth hwn ffoniwch y Sefydliad Badau Achub Brenhinol ar y rhif ffôn “Sea Check” i wneud y trefniadau - rhadffôn 0800 328 0600.
Os hoffech gael cyngor ar unrhyw fater diogelwch byddai ein staff yn falch o’ch cynorthwyo fel sy’n wir hefyd wrth gwrs am Wylwyr y Glannau ei Mawrhydi a’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Badau Achub.
Cyn mynd ar y dŵr, dylai perchenogion cychod fod yn ymwybodol o’r ystyriaethau diogelwch isod:
- ar rai adegau mae’r llanw a’r cerrynt yn gryf iawn rhwng y ddwy bont ym Mhorthaethwy - yn aml yn gryfach na 6 milltir forol.
- peidiwch â defnyddio badau ysgafn na badau heb beiriant oni bai eich bod yn hwyliwr profiadol ac yn gyfarwydd iawn gyda’r ardal.
- rhowch wybod i berson dibynadwy neu i Wylwyr y Glannau eich bod yn gadael a pha bryd y byddwch yn dychwelyd.
- ni chaniateir i chi yrru bad dan ddylanwad diod na chyffuriau.
- cludwch fflerau signalu ac angor.
- gwisgwch ddillad addas a siaced achub
- sicrhewch fod eich cortyn diffodd peiriant, os oes gennych un, ynghlwm wrth yrrwr eich cerbyd
- sicrhewch nad yw eich cwch wedi ei orlwytho a’i fod yn addas i fod ar y môr.
- sieciwch ragolygon y tywydd
- rhaid i gychod sgïo sy’n tynnu gludo sylwedydd.
- o fewn 50 metr i fad dŵr personol, cwch, angorfa, doc, nofiwr, sgïwr, pysgotwr neu offer pysgota, dylech deithio ar gyflymdra sydd ddim yn gadael ôl.
- os oes unrhyw amheuaeth peidiwch â mynd ar y dŵr.