Os oes gennych ymholiad cyffredinol, sylwadau neu ganmoliaeth am Gyngor Sir Ynys Môn neu am wasanaeth y Cyngor, defnyddiwch y Ffurflen Ymholiad Cyffredinol.
Gallwch gyflwyno ymholiad cyffredinol yn ddienw.
Os yr hoffech i ni'ch diweddaru ynglŷn â'r cais yma yn y dyfodol, rydym yn argymell i chi fewngofnodi i Fy Nghyfrif Môn(agor mewn tab newydd).
Gallwch ffonio prif rif ffôn y cyngor 01248 750 057 a gwrando ar yr opsiynau sydd ar gael.
Os wnewch alw pan fydd Cyswllt Môn ar gau byddwch yn clywed neges sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a rhifau ffôn argyfwng. Rydym ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus y DU.
Mae rhifau ffôn argyfwng ar gyfer y tu allan i oriau swyddfa arferol, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus, ar gael ar gyfer y gwasanaethau canlynol:
Priffyrdd: 01248 723062
Tai: 08081 68 56 52
Gwasanaethau Cymdeithasol: 01248 353551
Galw Gofal: 0300 1236688
Os nad oes gennych gyfeiriad post uniongyrchol y gwasanaeth yr hoffech gysylltu â hi (rhestrir y cyfeiriadau post ar dudalennau cyswllt y gwasanaeth unigol neu ar filiau neu lythyrau a anfonwn), ysgrifennwch at y prif gyfeiriad post yn:
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Defnyddiwch ein Chwiliad Safle ar frig pob tudalen i ddarganfod y gwasanaeth rydych ei angen. Cofiwch ddyfynnu unrhyw rifau cyfeirio / enwau staff perthnasol yr ydych yn delio â nhw.
Gofynnir i newyddiadurwyr beidio â chysylltu ag adrannau unigol. Bydd ein Swyddfa Wasg yn falch i'ch cynorthwyo a threfnu i lefarydd priodol fod ar gael i chi ar 01248 752130 neu 01248 752128 Rydym yn croesawu galwadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel.
Rydym yn gwybod bod pobl Ynys Môn yn awyddus i helpu.
Darganfod mwy(agor mewn tab newydd)