Cyngor Sir Ynys Môn

Storm Éowyn: gwybodaeth


Mae'r rhybudd tywydd oren bellach wedi mynd heibio.

Mae'n bosibl bod rhywfaint o'r wybodaeth ar y dudalen hon bellach wedi dyddio.

Y diweddariadau diweddaraf ar y ffyrdd

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei ddarparu drwy:

Gwybodaeth wreiddiol o ddydd Gwener 24 Ionawr

A55 Pont Britannia

Statws presennol

Pont wedi’i hailagor i bob cerbyd heblaw carafannau, beiciau modur a beicwyr.

Bydd y bont yn ailagor i bob traffig am 8pm.

Bydd y rheolaeth traffig ar naill ochr y bont yn cael ei dynnu’n llwyr o tua 11:59pm heno (Dydd Gwener 24 Ionawr).

Dargyfeirio ar gyfer carafanau, beiciau modur a beicwyr

Mae’r A5 Pont y Borth ar gael fel gwyriad. Rydym yn cynghori'r pawb i ganiatáu rhagor o amser i deithio neu i gysidro disgwyl nes bod cyflymder y gwynt wedi gostwng.

Gall y wybodaeth hon newid

Gall y wybodaet hon newid yn ddibynnol ar yr amodau tywydd cyfredol sydd yn cael eu cofnodi ar y bont.

Darganfyddwch sut mae traffig yn cael ei reoli yn ystod gwyntoedd cryfion ar Bont Britannia i helpu i gadw defnyddwyr y ffyrdd yn ddiogel.

Priffyrdd

Bydd staff Priffyrdd ar alw a byddent ar waith fel bo eu hangen.

Diweddariadau

 

Casgliadau ailgylchu a bin du 

Yn dilyn asesiad risg sydd wedi’i wneud gan ein darparwyr Biffa, mae penderfyniad wedi’i wneud i atal yr holl wasanaethau casglu gwastraff ar gyfer Dydd Gwener 24 Ionawr yn unig. Gofynnwn yn garedig i’r holl eiddo a effeithir i beidio â rhoi eu biniau allan. 

Tefniadau eraill 

Ailgylchu

Byddwn yn dychwelyd ar eich diwrnod casglu gwastraff nesaf sydd wedi’i drefnu.

Bydd bagiau plastig clir ar gael yn ein canolfannau ailgylchu yng Ngwalchmai a Phenhesgyn o ddydd Llun 27 Ionawr ynghyd â Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni. Mae’r cyngor hefyd yn edrych ar leoliadau ychwanegol ar gyfer casglu’r bagiau mewn ardaloedd a effeithir.

Bin du

Gofynnwn i’r holl eiddo a effeithir gyflwyno’r bin du ar gyfer ei wagio ddydd Sadwrn 25 Ionawr am 7am a byddwn yn anelu i’w casglu. Fodd bynnag, gallai hyn newid. 

Penhesgyn a Gwalchmai

Penhesgyn

Y bydd Canolfan Ailgylchu Penhesgyn ar agor yfory (Dydd Sadwrn 25 Ionawr) rhwng 10am a 4:30pm.

Gwalchmai

Y bydd Canolfan Ailgylchu Gwalchmai yn ail agor Dydd Sul 26 Ionawr. 

Bagiau clir

I’r cartrefi na dderbyniodd gasgliad ailgylchu oherwydd y storm (dydd Gwener 24 Ionawr), bydd bagiau clir ar gael i’w casglu ym Mhenhesgyn a Gwalchmai.

Canolfannau hamdden

Canolfan hamdden Caergybi

Nid oes unrhyw newid ar hyn o bryd i'r toriad trydan parhaus ar y rhwydwaith lleol.

Mae canolfan hamdden Caergybi yn parhau i fod ar gau. 

Bydd pwll nofio canolfan hamdden Caergybi yn parhau i fod ar gau am weddill y dydd heddiw (Dydd Gwener, 24 Ionawr 2025). 

Rydym yn adolygu’r sefyllfa mewn perthynas ag ochr sych y ganolfan rhag ofn y bydd y trydan yn dychwelyd. 

Ffyrdd

Ffyrdd ar gau

  • Lon Ceunant, Llangefni. Cangen yn hongian yn beryglus dros y ffordd yn golygu y bydd angen ei chau.
  • Coeden wedi disgyn ac yn blocio’r ffordd ger Yr Ogof, Mynydd Mechell, LL680TE

Modd pasio gyda gofal:

  • Lon Clai Rhosmeirch.  Coeden wedi disgyn ar y ffordd.
  • Ffordd y B5109 Beaumaris i Llansadwrn wedi rhannol gau gan goeden wedi disgyn.

Ysgolion

Oherwydd Storm Éowyn, mae holl ysgolion Môn wedi penderfynu cau adeilad yr ysgol ond byddent yn parhau gydag addysg o bell (Dydd Gwener, 24 Ionawr).

Pier Biwmares

Oherwydd Storm Éowyn, bydd y pier ar gau (Dydd Gwener, 24 Ionawr).