Cyngor Sir Ynys Môn

Casgliad gwastraff swmpus domestig


Yr hyn a gasglwn

Gallwn gasglu eitemau mawr fel hen bopty, dodrefn neu oergell/rhewgell. Gallwn gasglu hyd at 4 eitem.

Yr hyn nad ydym yn ei gasglu

Ni allwn gasglu’r eitemau canlynol fel rhan o’r casgliad gwastraff swmpus:

  • gwastraff adeiladwyr
  • gwastraff gardd (ewch â hwn i’ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff tŷ dros ben (ewch â hwn i’ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff hylendid (mae trefniant arbennig ar gyfer gwastraff hylendid - cysylltwch â ni)

Y cost

Mae’r gwasanaeth yn costio £46 yn cynnwys TAW i gasgu hyd at bedwar eitem.

Bydd angen tâl oflaen llaw drwy gerdyn debyd/credyd ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Archebwch gasgliad

Gallwch archebu ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • yr eitemau i’w casglu 

Rhaid cyflwyno pob eitem ar ymyl cwrtili'r eiddo neu mor agos at y briffordd â phosibl erbyn 7y.b ar ddiwrnod penodedig y casglu. 

Os nad yw'r eitemau wedi'u cyflwyno yn y man casglu erbyn yr amser hwn a bod y cerbyd casglu wedi ceisio eu casglu, yn anffodus ni fyddwn yn gallu darparu ad-daliad. 

Fel arall, ffoniwch yr Adain Rheoli Gwastraff ar 01248 752 860 gyda’ch cerdyn credyd/debyd wrth law i dalu a threfnu’r casgliad. 

Telerau ac amodau

Cael gwared ar wastraff swmpus am ddim

Canolfannau ailgylchu gwastraff domestig

Mae na 2 ganolfan ailgylchu gwastraff domestig lle y gallwch gael gwared ag eitemau mawr a gwastraff o’ch cartref am ddim.

Opsiynau eraill 

  • Defnyddiwch y rhyngrwyd lle y gallwch gael golwg ar wahanol wefannau ar gyfer gwerthu eich eitemau neu sut i ailddefnyddio eitemau diangen.
  • Gall dodrefn gael ei werthu drwy roi hysbyseb mewn cylchgronau a phapurau newydd lleol.
  • Opsiwn arall yw Dyfodol i Ddodrefn yn Llangefni. Maent yn derbyn dodrefn ac yna eu gwerthu am bris gostyngol. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth casglu a gwasanaeth clirio tai am bris rhesymol. Ffoniwch 01248 724 433 am fwy o fanylion.