Cyngor Sir Ynys Môn

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Domestig: Termau ac amodau

Pan yn archebu casgliad o wastraff swmpus domestig, mae gofyn i chwi fod yn ymwybodol o’r termau ac amodau isod a restrwyd yn y Polisi ar gyfer Casglu Gwastraff Domestig.
  • Diffinnir un eitem fel uned wastraff y gall dau o bobl ei chodi’n ddiogel ar gerbyd casglu gwastraff mewn amser rhesymol. I fod yn gymwys, rhaid i’r eitem fod yn ddim mwy na 2 fedr mewn hyd / lled a medru ffitio i mewn i’r cerbyd casglu.
  • Dylid rhoddi eitemau bychain mewn bocs, sach neu gynhwysydd addas a bydd hwnnw’n cyfrif wedyn fel un eitem.
  • Dim ond yr eitemau a restrwyd yn y cais gwreiddiol i’r Adain Rheoli Gwastraff fydd yn cael eu casglu. Ni fydd eitemau ychwanegol yn cael eu casglu.
  • Rhaid rhoddi allan yr holl eitemau yn barod i’w casglu erbyn 7am ar y dydd casglu a benodwyd.
  • Rhaid i’r holl eitemau o wastraff gael eu gadael ar ymyl cwrtil yr eiddo mor agos i’r briffordd ag sy’n bosibl, a dylid eu gosod mewn modd diogel sydd ddim yn creu rhwystr neu berygl i’r cyhoedd. Ni fydd y contractwr casglu yn mynd i mewn i dai i gasglu eitemau o wastraff. Bydd y pwynt casglu ar gyfer eiddo y mae’n cael mynediad iddynt yn anodd e.e. fflatiau, yn cael ei gytuno gyda’r Adain Rheoli Gwastraff cyn casglu.
  • Ni chesglir unrhyw wastraff masnachol neu ddiwydiannol.
  • I wneud i ffwrdd ag unrhyw amheuaeth, bydd dodrefn tri darn yn cyfrif fel tair eitem.
  • Mae enghreifftiau nodweddiadol o wastraff swmpus a dderbynnir dan y gwasanaeth hwn yn cynnwys y canlynol: matresi, ffrâm gwely, cadair, bwrdd, oergell, rhewgell, teledu, carped, hi-fi, cwpwrdd, stof safonol, seld, lamp, teganau plant, cyfrifiadur ac ati.
  • Ni fydd unrhyw wastraff peryglus neu anodd yn cael ei gasglu drwy’r gwasanaeth hwn gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol: asbestos, partiau cerbydau, poptai mawr (er enghraifft, Rayburn, Aga), siediau gardd cyfan, cemegolion peryglus, tanciau olew, poteli nwy ac ati.
  • Mae gan yr Adain Rheoli Gwastraff yr hawl i wrthod casglu unrhyw eitemau o wastraff a allai achosi niwed neu a allai gael effaith ar iechyd a diogelwch y staff casglu gwastraff.
  • Rhaid i ddeiliaid tai hysbysu’r Adain Rheoli Gwastraff o unrhyw wastraff a all achosi niwed neu a fedrai gael effaith ar iechyd a diogelwch y staff casglu gwastraff.
  • Os yw Deiliad Tŷ eisiau canslo Casgliad Gwastraff Swmpus wedi'i drefnu, mae’n rhaid hysbysu'r Adain Rheoli Gwastraff cyn 11am ar y diwrnod cyn y casgliad a drefnwyd. Gellir gwneud hyn dros y ffôn (01248) 750 057 neu e-bostio gwastraff@ynysmon.llyw.cymru