Cyngor Sir Ynys Môn

Dewch i siarad: Byw ar Ynys Môn


Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Tachwedd 2024

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae’ch barn chi’n bwysig

Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym ni beth yw’r pethau pwysicaf i chi am eich ardal leol. Rydym yn awyddus i glywed gennych chi.

Boed yn ;

  • drafnidiaeth,
  • tai,
  • mannau gwyrdd
  • y modd y mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau

Mae eich adborth yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio a beth y gellid ei wella.

Arolwg ar-lein

Mae eich barn yn gwneud gwahaniaeth - ni ddylai gymryd mwy na 10 munud o’ch amser.

Bydd ymgynghoriad ar agor tan 22 Tachwedd 2024.

Ewch i'r holiadur Byw ar Ynys Môn (dolen allanol) - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Arolwg ynglŷn â beth yw hwn

Dyma arolwg syml iawn – gallwch ei gwblhau mewn ychydig funudau. Byddwn yn gofyn i chi roi eich barn ar:

  • Eich ardal leol a sut yr ydych chi’n teimlo am fyw yno
  • Eich profiad o ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor megis tai, rheoli gwastraff a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Eich cyswllt â’r cyngor, a p’un ai a ydych yn hapus â’r modd yr ydym yn eich diweddaru
  • Ychydig cwestiynau amdanoch chi’ch hun, i’n helpu i ddeall sut mae barn yn amrywio ar draws gwahanol rannau o’n cymuned 

Dweud wrth eraill 

Soniwch wrth eich ffrindiau, teulu a chymdogion am yr arolwg. Rydym yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl â phosib.

Pobl ifanc a phobl hŷn

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl ifanc rhwng 18 a 29 a phobl dros 65. Os oes genych blant sydd i ffwrdd yn y brifysgol neu deulu neu ffrindiau hŷn, anogwch nhw i gymryd rhan. 

Pam mae’ch barn yn bwysig i ni

Bydd eich barn yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau at y dyfodol.  O ysgolion i ganolfannau hamdden, bydd eich barn yn ein helpu i wneud penderfyniadau er budd pawb yn y gymuned. Po fwyaf o ymatebion, gorau oll!

Bydd eich adborth hefyd yn cael ei gynnwys yn Arolwg Trigolion Cymru. 

Copïau papur a fersiwn hawdd ei ddeall

Mae copïau papur o'r holiadur a'r fersiwn hawdd ei ddarllen ar gael yn eich llyfrgelloedd a'ch canolfannau hamdden lleol. Gallwch hefyd eu lawrlwytho o'r dudalen hon.

Eich data a phreifatrwydd

Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Data Cymru ar ran Cyngor Sir Ynys Môn. Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri, a bydd unrhyw wybodaeth a all eich adnabod chi yn cael ei chadw’n ddiogel a’i defnyddio gennym ni a Data Cymru yn unig.

Cwestiynau pellach

Os oes angen help arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiyna ynglŷn â’r arolwg, mae croeso i chi gysylltu â ni EinDyfodol@ynysmon.llyw.cymru   

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.