Gwella gwydnwch ariannol trigolion Ynys Môn a’r economi llesiant
Sefydliad arweiniol: Cyngor Sir Ynys Môn
Cysylltwch â: financialinclusion@ynysmon.llyw.cymru
Mae’r prosiect hwn, mewn partneriaeth â Chanolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) Ynys Môn, yn ceisio gwella gwydnwch ariannol aelwydydd Ynys Môn. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu drwy ddefnyddio mannau cymunedol sydd eisoes yn bodoli. Bydd hyn yn cynnwys cymorth un i un penodol ar gyfer trigolion mewn trafferthion.
Bydd y prosiect hwn yn galluogi’r tîm hawliau llesiant, cynhwysiant ariannol a CAB Ynys Môn i weithredu ar sail ataliol ac ymyrraeth gynnar, gan sicrhau bod cymorth olrhain a dwys yn cael ei ddarparu ar gyfer aelwydydd sy’n wynebu tlodi ac amddifadedd, er mwyn mynd i’r afael â chaledi a gwella gwydnwch ariannol tymor hir.
Prosiect teledu cylch cyfyng (3 ardal) Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn
Sefydliad arweiniol: Cyngor Sir Ynys Môn (drwy’r Bartneriaeth Diogelwch Gwynedd a Môn)
Gosod teledu cylch cyfyng mewn 2 ardal ar Ynys Môn, yn bennaf Llangefni, Amlwch a Chaergybi. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys gwaith ar golofnau golau penodol.
Y bwriad yw gwneud i bobl deimlo’n ddiogel yn y gymuned, ac i dargedu lleoedd sy’n dueddol o brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Balchder Bro Môn
Sefydliad arweiniol: Menter Môn
Cysylltwch â: Elen Hughes enquiries@mentermon.com
Mae’r prosiect yn ceisio cynnig gweithgareddau, digwyddiadau, gwelliannau ac ymyraethau ledled Ynys Môn, gan wireddu ac ymateb i’r blaenoriaethau sydd wedi’u hadnabod gan y cymunedau eu hunain a’r blaenoriaethau strategol sydd wedi’u hadnabod gan yr Awdurdod Lleol a sefydliadau gweithgar eraill.
Y prif amcanion yw:
- annog balchder lleol
- gwella iechyd a llesiant
- meithrin cymunedau gwydn
Bydd y prosiect yn ychwanegu gwerth i hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol drwy gyflwyno ymyraethau ieithyddol, twristiaeth, amgylcheddol ac etifeddol, a chefnogi’r celfyddydau a digwyddiadau amgylcheddol.
Cryfhau a datblygu asedau a mwynderau drwy gydweithio gyda phartneriaid er mwyn cryfhau hybiau cymunedol, gwella hygyrchedd, a datblygu modelau gwireddu gwasanaethau lleol. Cefnogi cynlluniau cymunedol fydd yn cyfrannu at yr agenda sero net a gyrru dyhead ‘Ynys Ynni’ drwy gynlluniau a buddion cymunedol.
Annog perchnogaeth leol a chryfhau perthynas pobl gyda’u hamgylchedd lleol drwy ddarparu buddion mewn perthynas ag iechyd i’r cymunedau yn ogystal â buddion cadwraeth i’r amgylchedd a chadwraeth cynefinoedd a rhywogaethau brodor.
Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd
Sefydliad arweiniol: Coed Lleol – Small Woods
Cysylltwch â: Kate Clements kateclements@smallwoods.org.uk
Bydd y prosiect hwn yn gwella sgiliau, gwydnwch a llesiant cymunedau ar gyfer y rheiny sydd ymhell o gyrraedd y farchnad waith (gan gynnwys y rheiny dros 50 oed, sy’n wynebu heriau cymhleth, gydag anghenion iechyd a llesiant), drwy sefydlu a datblygu mannau awyr agored hygyrch, gwella gweithgareddau dysgu a sgiliau, gwella coetiroedd a gwybodaeth am amgylcheddau lleol ar Ynys Môn.
Bydd y prosiect yn darparu rhaglenni dysgu a rhaglenni sy’n seiliedig ar natur i wella hyder; creu rhwydweithiau ar gyfer hyfforddi, gwirfoddoli a gwneud cynnydd; darparu cyrsiau er mwyn ysbrydoli pobl i ddewis gyrfaoedd ‘gwyrdd’ ym maes yr amgylchedd; cysylltu cymunedau, adfer a rheoli safleoedd natur coetiroedd a gwella hygyrchedd drwy wneud gwelliannau i seilwaith.
Cyrchfan Werdd
Sefydliad arweiniol: Cyngor Sir Ynys Môn
Cysylltwch â: Wiliam Stockwell wiliamstockwell2@ynysmon.llyw.cymru
Bydd y prosiect yn darparu buddion amgylcheddol a buddion i’r economi ymwelwyr yn unol ag amcanion a nodau’r Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r Cynllun Rheoli Cyrchfan.
Bydd amcanion y prosiect yn cyflawni’r 5 egwyddor arweiniol allweddol o fewn gwaith y cyrchfannau.
Gweler y rhain isod:
- Gwella cymeriad yr arfordir a chefn gwlad
- Mynd i’r afael â’r Argyfwng Natur
- Yr AHNE fel Lle ar gyfer Mwynhau, Dysgu a Llesiant
- Cymunedau Bywiog mewn Ardal Weithio
- Rheoli’r AHNE mewn hinsawdd heriol
Creu Ynys Actif
Sefydliad arweiniol: Cyngor Sir Ynys Môn
Cysylltwch â: Owain Jones monactif@ynysmon.llyw.cymru
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys tair elfen wahanol:
- Grant ar gyfer clybiau chwaraeon lleol. Bydd clybiau’n gallu gwneud cais am grantiau er mwyn datblygu eu clwb. Bydd grantiau gwerth £5,000 ac hyd at £30,000 yn cael eu hystyried.
- Prosiectau Môn Actif megis:
- Dementia Actif (Cefnogi ein cymunedau drwy greu profiadau sy’n galluogi unigolion gyda dementia, a’u teuluoedd, i fod yn actif);
- Diogelwch dŵr (targedu plant blwyddyn 5 a 6 mewn ysgolion cynradd ar yr ynys, gan gynnwys elfennau ymarferol a damcaniaethol);
- cynllun Atgyfeirio Pobl Ifanc ( cyfle i newid bywydau ein pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd neu nad ydynt yn actif).
- Buddsoddiad cyfalaf mewn canolfannau hamdden.
Prosiect Pontio Cymunedau Môn
Sefydliad arweiniol: Cyngor Sir Ynys Môn
Cysylltwch â: Lyndsey Campbell-Williams lyndsey@medrwnmon.org
Y prif nôd y prosiect yma, mewn partneriaeth â Medrwn Môn yw datblygu ynys ddyfeisgar a gwydn, lle gall cymunedau fod yn rhan o ddylunio a darparu datrysiadau sy’n seiliedig ar y gymuned ac ar anghenion go iawn. Gweithio gyda Medrwn Môn er mwyn cyflawni’r agenda gwydnwch cyffredinol.
- Datblygu a moderneiddio “hybiau” cymunedol presennol a “mannau diogel” ar gyfer cymunedau.
- Creu 'hybiau' cymunedol a “mannau diogel” newydd ar gyfer cymunedau.
- Astudiaeth hyfywedd ar gyfer datblygu darpariaeth chwarae a mannau gwyrdd ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Hyfforddiant a chefnogaeth – ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol i feithrin sgiliau fydd yn eu helpu i roi hwb i’w hadnoddau a’u capasiti i ddod yn fwy gwydn, gan gynnwys llunio cynigion a chodi arian, gwirfoddoli, adeiladu ar gapasiti, ymwneud â chymunedau, a rheoli prosiectau.
Lle Da – Rhaglen Llunio Lle
Sefydliad arweiniol: Cyngor Sir Ynys Môn
Cysylltwch â: Dewi Lloyd dat@ynysmon.llyw.cymru
Rhaglen Llunio Lle ar gyfer Canol Trefi a Phentrefi mwy Ynys Môn, sydd yn mynd i:
- darparu Rhaglen Llunio Le ar gyfer canol trefi a phentrefi gwyliau Ynys Môn
- cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu cynlluniau llunio lle ar gyfer canol trefi / pentrefi mwy
- gwella’r tirlun drefol a chyfleusterau yng nghanol ein trefi a phentrefi gwyliau
- helpu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a gwella ymddangosiad siopau
- cefnogi cynghorau tref / cymuned perthnasol i ddatblygu a darparu’n lleol
- Cronfa Llunio Lle i gefnogi prosiectau a gweithgareddau sy’n cyflawni’r uchod
- darparu adnoddau ar gyfer marchnata, hyrwyddo, digwyddiadau, gwelliannau gweledol
Gogledd Cymru actif, iach a hapus
Sefydliad arweiniol: Gogledd Cymru Actif North Wales
Cysylltwch â: Mike Pary mike@actifnorthwales.cymru
Cynllun ar draws siroedd Môn, Gwynedd, Dinbych a Fflint.
Cefnogi pobl i fod yn actif yn rheolaidd. Bydd y prosiect yn datblygu ac yn meithrin capasiti, sgiliau, gwydnwch a hyder o fewn y cymunedau hynny y mae’r cymorth ei angen fwyaf arnynt, ac a fydd yn elwa fwyaf o’r cymorth unigryw hwn.
Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan y cymunedau gan ganolbwyntio ar roi’r pŵer iddynt helpu i ddatblygu datrysiadau cynaliadwy, tymor hir er mwyn bod yn actif bob dydd.
Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru – Cyfraniad Ynys Môn
Sefydliad arweiniol: Uchelgais Gogledd Cymru
Cysylltwch â: Nia Medi Williams niamediwilliams@uchelgaisgogledd.cymru
Cynllun ar draws siroedd Môn, Gwynedd, Dinbych a Fflint.
Nod y prosiect yw bod pobl, busnesau a chymunedau ledled gogledd Cymru’n elwa i’r eithaf ar y buddion a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y buddsoddiadau sy’n gysylltiedig â’r Weledigaeth Twf, gan gynnwys Bargen Dwf Gogledd Cymru.
Mae’r prosiect yn dilyn Prosiect Galluogi’r Weledigaeth Twf a ariannwyd drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’i nod yw sefydlu adnodd rhanbarthol yn sail ar gyfer cyflawni’r Weledigaeth Twf ar gyfer gogledd Cymru. Canolbwyntir ar bump o ffrydiau gwaith allweddol:
- cydweithio rhanbarthol
- sgiliau
- digidol
- ynni a sero net
- buddion a gwerth cymdeithasol
Bydd y prosiect yn cynnal amryw weithgareddau a chynlluniau er mwyn sicrhau y manteisir i’r eithaf ar gyfleoedd fel hyn a bod cymunedau ledled y rhanbarth yn gweld y buddion.
Caru Cymru
Sefydliad arweiniol: Cadw’ch Gymru’n Daclus
Cysylltwch â: Gruff Jones Gruff.Jones@keepwalestidy.cymru
Cynllun ar draws siroedd Môn, Conwy, Fflint a Wrecsam.
Bydd Cadw’ch Cymru’n Daclus yn darparu amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u profi, ac mae llawer (e.e. codi sbwriel yn wirfoddol) eisoes wedi gweithio’n dda mewn partneriaeth gyda’r 4 cyngor:
- Cynnal ac ehangu’r rhwydwaith o hybiau codi sbwriel cymunedol.
- Cefnogi ac ehangu’r rhwydwaith o bencampwyr codi sbwriel.
- Cefnogi ac ehangu’r cynllun parthau di-sbwriel - sicrhau bod mwy o ysgolion a busnesau yn cymryd cyfrifoldeb dros gadw eu hardal leol yn ddi-sbwriel.
- Sefydlu a hyfforddi grwpiau cymunedol newydd i ‘fabwysiadu’ a chynnal eu hardal leol, a pharhau i gefnogi grwpiau cymunedol presennol.
- Ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad.
- Cysylltu gydag Awdurdodau Lleol a Grwpiau Cymunedol i adnabod cynlluniau ac ymgyrchoedd addas i fynd i’r afael â materion ansawdd yr amgylchedd lleol, megis baw cŵn, tipio, sbwriel twristiaid ac yn y blaen.
- Paratoi pecyn cymorth ac adnoddau ar gyfer ymgyrchoedd ansawdd yr amgylchedd lleol.
- Darparu cymorth a chyngor i Awdurdodau Lleol ynghylch datblygu strategaethau sbwriel/tipio.
- Sefydlu a chefnogi caffis trwsio, siopau ail-defnyddio/cyfenwid, amnestau gwastraff, siopau ailgylchu dros dro a gweithgareddau eraill i fynd i’r afael â thipio, cefnogi pobl ar incwm isel (drwy ailddosbarthu eitemau am ddim) a lleihau gwastraff (egwyddorion yr economi gylchol).
- Holiaduron sbwriel blynyddol i adnabod problemau cyson a dadansoddiadau er mwyn ysgogi camau gweithredu.