Cyngor Sir Ynys Môn

Canllawiau safonau masnach


Gwasanaethau pensaernïol proffesiynol a'ch prosiect adeiladu

Yn y canllawiau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Os ydych yn ystyried penodi rhywun i ddylunio eich prosiect adeiladu a darparu gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r prosiect, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn penodi gweithiwr proffesiynol sydd â'r cymwysterau priodol ac sydd wedi'i yswirio'n ddigonol. Bydd hyn yn helpu i'ch diogelu drwy gydol y broses.

Bydd gweithiwr proffesiynol cymwys yn meddu ar y wybodaeth a'r hyfforddiant gofynnol ac yn gallu rhoi cyngor arbenigol ar y ffordd orau o ateb eich gofynion. 

Beth all gweithiwr proffesiynol ei wneud i mi?

Gall gweithwyr proffesiynol weithredu ar eich rhan o gamau cyntaf prosiect yr adeilad hyd at ei gwblhau, boed hynny:

  • yn breswyl traddodiadol neu gyfoes neu fath arall o adeilad newydd
  • yn cynnal a chadw, uwchraddio, addasu neu ymestyn adeilad presennol
  • ar raddfa fawr neu fach, syml neu gymhleth

Gall gwasanaethau proffesiynol gynnwys y gwaith dylunio yn ogystal â chyd-drafod a chynghori ar ofynion statudol megis caniatâd cynllunio a chymeradwyaethau rheoliadau adeiladu. Byddant yn gallu archwilio ac ardystio'r gwaith adeiladu a rhoi arweiniad ar gostau. Byddant hefyd yn cynghori a oes angen i chi gynnwys arbenigwyr eraill sy'n ymdrin â dyluniad adeiladau, megis peirianwyr (strwythurol, sifil, mecanyddol a thrydanol) a syrfewyr (adeiladau a meintiau). Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i'r bobl fwyaf priodol i wneud y gwaith adeiladu.

Pwy ddylwn i ei benodi?

Mae gweithwyr proffesiynol cymwysedig yn defnyddio'r teitlau 'pensaer', 'pensaer siartredig' neu 'technolegydd pensaernïol siartredig'. Er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio gyda rhywun sy'n gymwys, mae angen i chi gysylltu â'r corff rheoleiddio perthnasol, sef y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB). Gallwch hefyd gysylltu ag un o'r cyrff proffesiynol sy'n cynrychioli penseiri (a restrir isod) neu ar gyfer technolegwyr pensaernïol siartredig, y Sefydliad Siartredig Technegwyr Pensaernïol (CIAT).

Beth yw'r gwahaniaethau rhwng pensaer, pensaer siartredig a thechnolegydd pensaernïol siartredig?

PENSAER

Mae pensaer yn berson sydd wedi'i hyfforddi i gynllunio, dylunio ac archwilio adeiladu adeiladau. Yn draddodiadol, y pensaer sy'n cymryd y rôl arweiniol yn y tîm dylunio. Yn dibynnu ar maint a natur eich prosiect adeiladu, efallai y bydd y pensaer yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, fel peirianwyr a syrfewyr.

Yr ARB yw rheoleiddiwr penseiri statudol y DU ac fe'i sefydlwyd gan y Senedd o dan Ddeddf Penseiri 1997.

  • mae'n cadw cofrestr penseiri y DU. Mae penseiri ar y gofrestr gyhoeddus wedi bodloni safonau penodol o gymwysterau a phrofiad
  • mae'n sefydlu'r cymwysterau sydd eu hangen i ddod yn bensaer
  • mae'n gosod safonau ymddygiad a chymhwysedd ar gyfer penseiri
  • mae'n rheoleiddio'r defnydd o'r teitl 'pensaer'. Ni all unrhyw un ddefnyddio y teitl 'pensaer' mewn cysylltiad â'u busnes oni bai eu bod wedi cofrestru gyda'r ARB. Mae sectorau eraill yn defnyddio 'pensaer' i ddisgrifio rhai rolau, er enghraifft 'pensaer meddalwedd' yn y sector cyfrifiadurol. Mae'r ARB yn defnyddio dull synnwyr cyffredin o ddefnyddio 'pensaer' fel hyn.

Gallai busnesau neu bractisau sy'n defnyddio'r teitl 'pensaer' pan nad ydynt ar gofrestr yr ARB gamarwain defnyddwyr a thorri Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008. Mae hefyd yn drosedd o dan Ddeddf Penseiri 1997.

Os ydych yn cytuno i gontract ar ôl i bensaer eich camarwain neu oherwydd eu bod wedi defnyddio practis masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau iawndal i chi: yr hawl i ddadddirwyn y contract, yr hawl i ddisgownt a'r hawl i iawndal. Gwelwch ein canllaw 'Arferion camarweiniol ac ymosodol: hawliau i wneud iawn' i gael rhagor o wybodaeth. Dylech wirio'r gofrestr ar wefan ARB cyn gwneud apwyntiad.

Heblaw'r teitlau 'pensaer', 'pensaer siartredig' a 'thechnolegydd pensaernïol siartredig' ceir rhai a all ddefnyddio disgrifiadau eraill. Gall y rhain gynnwys 'pensaernïaeth ', ' ymgynghorydd pensaernïol' a 'dylunydd pensaernïol'. Byddwch yn ofalus gan nad yw'r disgrifiadau hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod y person yn gofrestredig neu'n aelod o gorff proffesiynol.

Fe sefydlwyd Cymdeithas Penseiri Ymgynghorol (ACA) i hyrwyddo a chefnogi arferion pensaernïol y DU.

PENSAER SIARTREDIG

Defnyddir y teitl 'pensaer siartredig' gan y penseiri hynny sy'n aelodau o'r Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) neu Chorff Brenhinol Penseiri yn yr Alban (RIAS). Mae manylion cyswllt ar gyfer y cyrff proffesiynol hyn i'w gweld ar ddiwedd y canllaw hwn.

TECHNOLEGYDD PENSAERNÏOL SIARTREDIG

Mae technolegydd pensaernïol siartredig yn defnyddio gwyddoniaeth pensaernïaeth ac mae'n arbenigo ym maes dylunio ac adeiladu adeiladau. Mae'r teitl ' technolegydd pensaernïol siartredig ' yn cael ei ddefnyddio gan rywun sy'n aelod o'r Sefydliad Siartredig Technegwyr Pensaernïol (CIAT).

Mae technolegwyr pensaernïol siartredig yn meddu ar gymwysterau gwahanol i benseiri; nid ydynt wedi'u cofrestru gydag ARB ac o'r herwydd ni chânt ddefnyddio'r teitl 'pensaer'.

Pwyntiau i'w hystyried

Rhaid i benseiri, penseiri siartredig a thechnolegwyr pensaernïol siartredig ymlynu at gôd ymddygiad eu corff rheoleiddio neu broffesiynol. Mae'n rhaid iddynt ymddwyn mewn ffordd briodol a moesegol, a disgwylir iddynt, ymhlith pethau eraill, fod yn onest, gweithredu gyda gonestrwydd, bod yn gymwys, yn ddibynadwy, ystyried effaith ehangach eu gwaith a datgan gwrthdaro buddiannau. Er mwyn eich diogelu, mae gan bob corff proffesiynol weithdrefnau disgyblu ar gyfer ymdrin â thorri eu codau.

Mae'r codau yn ei gwneud hi'n ofynnol i aelodau fod ag yswiriant indemniad proffesiynol ar gyfer gwasanaethau a gynigir i chi. Pan fyddwch yn penodi eich gweithiwr proffesiynol, sicrhewch fod yswiriant digonol a phriodol ar waith ar gyfer eich prosiect adeiladu. Noder bod yr yswiriant hwn ar wahân i warant adeilad, sef yr yswiriant y gall eich contractwr ei gynnig i chi ar gyfer diffygion adeiladu.

Siaradwch â chleientiaid blaenorol i ganfod eu profiad o'r gweithiwr proffesiynol; gofynnwch am gael edrych ar waith blaenorol (tebyg i'ch prosiect) y maent wedi eu cwblhau a hefyd gofynnwch am dystlythyrau.

Os yw eich prosiect yn un arbenigol mewn unrhyw ffordd, sicrhewch fod ganddo sgiliau arbenigol yn y maes hwnnw.

Sicrhewch bod telerau'r penodiad yn cael eu rhoi i chi yn ysgrifenedig a'ch bod yn eu deall. Dylent nodi'n glir pa wasanaethau y bydd eich gweithiwr proffesiynol penodedig yn eu darparu a thros ba gyfnod o amser, eu costau (gan gynnwys costau tebygol) a chostau ychwanegol fel ffioedd ymgeisio i awdurdodau lleol, a hefyd a oes angen arbenigwyr ychwanegol a pha gostau ychwanegol a all ddod yn ei sgîl.

Gyda phenseiri gwiriwch gyda'r rheoleiddiwr (ARB) bod y pensaer a ddewiswyd gennych wedi'i gofrestru, neu gyda'r corff proffesiynol perthnasol i wirio fod y pensaer yn aelod go iawn o'r corff hwnnw. Ar gyfer technolegwyr pensaernïol siartredig, dylech wirio gyda CIAT.

Meddyliwch yn ofalus cyn defnyddio rhywun sy'n cynnig gwasanaethau pensaernïol ond nad yw wedi'i gofrestru nac yn aelod o un o'r cyrff proffesiynol.

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i weld a yw'n rhedeg cynllun masnachwr da; mae penseiri a thechnolegwyr pensaernïol siartredig yn weithwyr proffesiynol a gallant fod yn rhan o gynllun o'r fath.

Mae gwefan y Bwrdd Cofrestru Penseiri yn cynnwys ffurflen o'r enw Cyfarfod eich Pensaer, sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu y tro cyntaf y byddwch yn cwrdd â darpar benseiri.

Beth yw fy hawliau os bydd pethau'n mynd o chwith?

Yn ogystal â'ch hawliau o dan Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 (y soniwyd amdanynt uchod) mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawliau a rhwymedïau i chi pan fyddwch yn gwneud contract gyda masnachwr sy'n darparu gwasanaethau pensaernïol.

Dyma'ch hawliau allweddol:

  • rhaid i'r gwasanaeth gael ei gyflawni gyda gofal a sgil rhesymol. Rhaid i fasnachwr gyflawni ei wasanaeth i'r un safon neu ansawdd tebyg i'r hyn a ystyrir yn dderbyniol o fewn eu proffesiwn
  • mae gwybodaeth am fasnachwr neu wasanaeth yn gyfriethiol gyfrwymol. Mae unrhyw beth a ddywedir neu a ysgrifennir gan fasnachwr (neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran) amdano'i hun neu ei wasanaeth yn ffurfio rhan o'r contract, os byddwch yn ystyried y wybodaeth cyn i chi gytuno ar y contract, neu os ydych yn gwneud penderfyniad am y gwasanaeth ar ôl i'r contract gael ei wneud
  • pris rhesymol i'w dalu. Mae gofyn i chi dalu pris 'rhesymol' am y gwasanaeth oni bai fod y pris (neu'r ffordd y mae'r pris wedi'i gyfrifo) wedi ei bennu fel rhan o'r contract
  • rhaid i'r gwasanaeth gael ei gynnal o fewn amser rhesymol (os nad yw amser yn cael ei bennu gan y contract)
  • Eich prif rwymedïau yw:
  • iawn i ailadrodd perfformiad. Os ydych yn anfodlon ar y gwasanaeth oherwydd nad yw wedi cael ei gynnal gyda gofal a sgiliau rhesymol, yna mae'n rhaid ei berfformio eto. Dylid gwneud hyn o fewn amser rhesymol, heb anghyfleustra sylweddol ac ni ddylid costio unrhyw beth i chi
  • hawl i ostyngiad mewn prisiau. Os bydd perfformiad ailadroddus y gwasanaeth yn methu a datrys y broblem (efallai ei fod yn amhosibl neu na fe ellir ei gyflawni o fewn amser rhesymol neu heb achosi anghyfleustra sylweddol i chi) yna mae gennych hawl i ostyngiad mewn pris, a all fodcymaint â ad-daliad llawn.

Gwelwch ein canllawiau 'Cyflenwi gwasanaethau: eich hawliau fel defnyddiwr' a 'Cyflenwi gwasanaethau: beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith' am fwy o wybodaeth am eich hawliau a pha rwymedi y mae gennych hawl iddo.

Mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau pensaernïol gydymffurfio â Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 pan fyddant yn gwerthu eu gwasanaethau o'u mangre busnes (contractau ar y safle), heb gysylltiad wyneb yn wyneb â chi (contractau o bell) ac i ffwrdd o'u safle busnes (contractau oddi ar y safle).

Mae gennych hawl i ganslo'r rhan fwyaf o gontractau oddi ar y safle a chontractau o bell a'r cyfnod canslo yw 14 diwrnod. Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau pensaernïol roi gwybodaeth benodol i chi cyn iddyn nhw'n wneud contract â chi. Mae'n rhaid iddyn nhw gael cytundeb clir os ydyn nhw am godi tâl 'ychwanegol' arnoch.

Mae'r canllawiau 'Prynu o adeiladau busnes: esbonio contractau ar y safle', 'Prynu o adref: egluro contractau oddi ar y safle ' a 'Phrynu drwy'r rhyngrwyd, ffôn ac archeb bost: esbonio contractau o bell'  yn rhoi rhagor o wybodaeth am Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013.

Manylion cyswllt ar gyfer y corff rheoleiddio a chyrff proffesiynol

Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB)
8 Stryd Weymouth, Llundain, W1W 5BU
Ffôn: 020 7580 5861, e-bost info@arb.org.uk
www.arb.org.uk

Cymdeithas Penseiri Ymgynghorol (ACA)
Charlscot, Cudham Road, Tatsfield, Kent, TN16 2NJ
Ffôn: 01959 928412, e-bost office@acarchitects.co.uk
www.acarchitects.co.uk

Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA)
66 Portland Place, Llundain, W1B 1AD
Ffôn: 020 7580 5533, e-bost info@riba.org
www.architecture.com
Hefyd: Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW)

Corff Brenhinol Penseiri yn yr Alban
15 Rutland Square, Caeredin, EH1 2BE
Ffôn: 0131 229 7545, e-bost info@rias.org.uk
www.rias.org.uk

Sefydliad Siartredig Technegwyr Pensaernïol (CIAT)
397 City Road, Llundain, EC1V 1NH
Ffôn: 020 7278 2206, e-bost info@ciat.org.uk
www.ciat.org.uk

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Penseiri 1997

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.