Cyngor Sir Ynys Môn

Ysgol Uwchradd Caergybi yn croesawu disgyblion yn ôl

Roedd Ysgol Uwchradd Caergybi yn falch o allu croesawu’r holl ddisgyblion yn ôl i adeilad yr ysgol heddiw (dydd Mercher, 10 Ionawr).

Roedd capasiti addysgu yn yr ysgol uwchradd wedi’i gyfyngu i nifer penodol o grwpiau blwyddyn ers i’r canllawiau cenedlaethol newydd ar RAAC (concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth) gael eu cyflwyno ar 31 Awst, 2023.

Er bod RAAC wedi’i adnabod gan y Cyngor Sir yn y gorffennol a’i fod yn cael ei adolygu’n barhaus, roedd y newid yn y ddeddfwriaeth yn golygu bod yn rhaid i waith trwsio brys gael ei wneud mewn nifer o wahanol adeiladau ar dir yr ysgol.

Gweithredodd y cyngor sir cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod gwaith trwsio yn cael ei flaenoriaethu.

Croesawyd yr holl ddisgyblion yn ôl i’r adeilad heddiw yn dilyn gwaith trwsio sylweddol yn y blociau addysgu A ac C, y ffreutur a mannau allweddol eraill.

Er y bydd angen mwy o waith trwsio yn yr ysgol, mae y Pennaeth, Mr Adam Williams yn hynod o falch o groesawu’r holl flynyddoedd ysgol yn ôl heddiw.

Dywedodd Mr Williams, “Mae hi’n wych gallu croesawu’r holl flynyddoedd ysgol a phlant yn ôl i’r ysgol heddiw. Er bod cyfyngiadau sylweddol ar ystafelloedd wedi bod mewn lle dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn hynod o lwcus bod ymrwymiad ac agwedd bositif ein staff a’n myfyrwyr rhagorol wedi sicrhau bod addysgu wedi’i ddarparu drwy gydol y cyfnod hwn; boed hynny yn yr ysgol, mewn adeiladau eraill yn y dref neu drwy ddysgu ar-lein.”

Ychwanegodd, “Mae rhai ardaloedd yn yr ysgol yn parhau i fod angen gwaith trwsio ac addurno ond rydw i’n falch iawn bod nifer o’r ardaloedd a’r ystafelloedd yn yr ysgol bellach ar gael yn llawn ac, yn bwysicaf oll, yn ddiogel i’w defnyddio. Hoffwn ddiolch i staff, myfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid yr ysgol am eu hamynedd a’u cydweithrediad, i’r cyngor sir am eu cefnogaeth a’u hymateb i’r her annisgwyl ac i lywodraethwyr yr ysgol am eu cefnogaeth barhaus.”

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gynnal y safonau uchel y mae ein holl fyfyrwyr yn ei haeddu, tra’n sicrhau bod yr amgylchedd addysgu yma mor ddiogel â phosibl bob amser.”

Mae RAAC yn fath o goncrid ysgafn a ddefnyddiwyd i adeiladu ysgolion, colegau ac adeiladau eraill rhwng canol y 1950au a chanol y 1990au.

Eglurodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Ein prif flaenoriaeth drwy gydol y broses heriol hon oedd diogelwch ein staff a’n pobl ifanc. Rydw i’n hynod o falch bod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi gallu croesawu’r holl flynyddoedd ysgol yn ôl drwy’r drysau.”

Ychwanegodd, “Hoffwn ddiolch i’n staff ymroddgar sydd wedi gweithio’n ddiflino i reoli ac ymateb i’r her cyn gynted â phosibl. Rwy’n cydnabod fod aflonyddwch wedi’i achosi ond rwy’n ddiolchgar iawn i rieni a’n pobl ifanc am eu hamynedd, cydweithrediad a dyfalbarhad wrth wynebu sefyllfa mor heriol.”  Mwy o wybodaeth a diweddariadau ar gael yma: www.ynysmon.llyw.cymru/gwybodaeth-raac

Diwedd 10 Ionawr 2024