Mae tîm maethu Cyngor Sir Ynys Môn, Maethu Cymru Ynys Môn, wedi ennill gwobr rhagoriaeth maethu fawreddom sy’n cydnabod eu cyfraniad rhagorol i ofal maeth.
Y gwobrau rhagoriaeth Maethu (Fostering Excellence Awards), a gynhelir yn flynyddol, yw’r gwobrau mwyaf llewyrchus o ran gofal maeth yn y DU, ac maent yn dathlu cyflawniadau rhagorol yn y maes maethu ac yn cydnabod y rheiny sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob dydd.
Cyflwynwyd Gofal Maeth Cymru Ynys Môn gyda gwobr am eu tîm gwaith cymdeithasol gan y rhwydwaith maethu (Fostering Network) mewn seremoni ddiweddar ym Mirmingham.
Cafodd y tîm ei enwebu gan Gwynfor a Barbara Jones sy’n ofalwr maeth, a chafodd ei ganmol am y gefnogaeth a roddwyd i ofalwyr maeth a’u perthynas agos gyda Chymdeithas Gofal Maeth Ynys Môn.
Maent yn mynd y tu hwnt i’r galw i gefnogi teuluoedd maeth ac maent bob amser yn barod i helpu i gynnig y gofal maeth gorau posib. Bydd eu hymdrechion yn helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae tîm Maethu Cymru Ynys Môn bob amser yn ystyried ffyrdd i wella llesiant teuluoedd maeth. Yn ddiweddar, aethant ati i lansio sesiynau i gefnogi gofalwyr maeth i flaenoriaethu eu hiechyd meddwl a’u llesiant, yn ogystal â threfnu gweithgareddau a chyfleoedd newydd ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r tîm yn ceisio adeiladu’r uned deuluol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal maeth, ac mae plant yn eu hystyried yn rhan o’r teulu maeth sy’n gweithio gyda chymdeithas gofal maeth er mwyn trefnu digwyddiadau megis diwrnod gweithgareddau’r haf, helfa wy Pasg a phartis Nadolig.
I goroni’r cyfan, mae eu hymrwymiad wedi mynd gam ymhellach yn ddiweddar - aethant ati i ddringo tair copa uchaf Cymru o fewn 24 awr fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth 2023, gan godi arian ar gyfer Cymdeithas Gofal Maeth Ynys Môn.
Mae’r wobr rhwydwaith maethu ar gyfer tîm gwaith cymdeithasol yn cydnabod timau maethu sy’n cyflawni arfer rhagorol sy’n helpu i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal maeth.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Theatr Birmingham Repertory, ac yn arwain y noson roedd y darlledwr, cyflwynwyd teledu a’r siaradwr ysbrydoledig Ashley John Baptiste, a dreuliodd ei blentyndod mewn gofal.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Fôn Roberts, “Rwy’n falch iawn o dîm Maethu Cymru Ynys Môn a hoffwn eu llongyfarch am y gydnabyddiaeth genedlaethol hon.
Cafodd y tîm ei ddewis am yr holl gefnogaeth a’r gwaith caled a ddarparwyd ganddynt ar gyfer ein Plant sy’n Derbyn Gofal a’n Gofalwyr Maeth, ac maent bellach yn llwyddiannus nid yn unig yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig!”
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard - Deilydd Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yn dathlu’r bobl hynny sy’n mynd y filltir ychwanegol i gefnogi eraill yn ogystal â thynnu sylw at rôl hanfodol maethu i’r rheiny y tu allan i’r gymuned maethu.
Ychwanegodd, “Mae ein cymuned maethu yn un arbennig iawn, a dylai pawb ynghlwm â hi fod yn falch iawn o’u cyfraniadau i ofal maeth ar gyfer Ynys Môn.
“Mae mwy a mwy o angen am deuluoedd maeth, felly mae’n hanfodol fod mwy o bobl yn ystyried ymuno â thîm Maethu Cymru Ynys Môn er mwyn cynnig cartrefi sefydlog i blant a phobl ifanc Ynys Môn.”
Diwedd 19 Hydref 2023
Nodiadau ar gyfer golygyddion
Maethu Cymru Ynys Môn
Maethu Cymru Ynys Môn yw tîm maethu lleol Ynys Môn. Mae creu dyfodol gwell ar gyfer plant yn ein cymuned wrth wraidd ein holl waith. Rydym yn rhan o’r rhwydwaith ar gyfer y 22 awdurdod lleol sy’n cynnig gwasanaethau maethu yng Nghymru.
Ffôn: 01248 752772
E-bost: maethu@ynysmon.llyw.cymru
Gwefan: https://maethucymru.ynysmon.llyw.cymru/cy
Y Rhwydwaith Maethu (Fostering Network)
Y Rhwydwaith Maethu (Fostering Network) elusen faethu flaenllaw'r DU. Rydym yn rhwydwaith hanfodol ar gyfer maethu sy’n dwyn ynghyd pawb sydd ynghlwm â bywydau plant sy’n cael eu maethu.
Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu
Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu, a noddir gan Mortgage Brain yw gwobrau gofal maeth blaenllaw'r DU. Maent yn dathlu rhagoriaeth a chyflawniadau rhagorol yn y maes maethu, ac yn cydnabod y rheiny sy’n gwneud cyfraniadau gwerthfawr i ofal maeth bob blwyddyn.
Mwy am faethu
Ar hyn o bryd, mae gan Faethu Cymru Ynys Môn dros 55 o deuluoedd maeth, gyda rhai yn gofalu am blant o fewn eu teuluoedd eu hunain (gofal gan berthynas).
Mae 145 o blant mewn gofal ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac mae dwy ran o dair yn byw gyda theuluoedd maeth.
Mae’n bwysig fod mwy o ofalwyr maeth yn cael eu recriwtio er mwyn sicrhau y gall plant fyw yn eu hardal leol a bod yn agos i’w cymuned ar yr Ynys, lle gallent ffynnu.