Cyngor Sir Ynys Môn

Statws Dementia Gyfeillgar i Ynys Môn

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi’i gydnabod fel y Cyngor Dementia Gyfeillgar cyntaf yng ngogledd Cymru.

Derbyniodd y Cyngor Sir y statws breintiedig hwn yn ddiweddar gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (y Bwrdd Rhanbarthol).

Mae cymunedau Dementia Gyfeillgar yn helpu pobl sy’n byw â dementia i fyw’n annibynnol, yn y modd maent yn dymuno byw, am gyn hired â phosibl.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cyngor Môn, Arwel W Owen, “Rydym yn hynod falch o dderbyn y gydnabyddiaeth, mae’n glod i waith caled ac ymrwymiad ein staff, y cyngor a phartneriaid er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth.”

Ychwanegodd, “Ein nod rŵan yw parhau i weithio ochr yn ochr â’r bwrdd iechyd lleol a sefydliadau trydydd sector er mwyn dal ati i ddatblygu’r ddarpariaeth orau ar gyfer pobl Ynys Môn.”

Mae Prosiect Ynys Môn Dementia Gyfeillgar yn cydweithio â chymunedau lleol er mwyn mynd i’r afael â blaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn lleol.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys adnabod ardaloedd o fewn cymunedau sydd angen cyfleuster neu adeilad cymunedol dementia gyfeillgar. Mae’r prosiect yn cynnwys gweithio â gwahanol sefydliadau, busnesau a grwpiau strategol sy’n cydweithio er mwyn creu Ynys Môn sy’n ddementia gyfeillgar.

Eglurodd Deilydd Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Alun Roberts, “Mae gan Ynys Môn boblogaeth sy’n heneiddio gyda 26% o’r boblogaeth dros 65 oed. Mae’n cael ei amcangyfrif bod 1,300 o bobl yn byw â dementia ar Ynys Môn a rhagwelir y bydd y ffigyrau hynny’n cynyddu dros y blynyddoedd nesaf.”

“Felly, mae’n hanfodol fod pobl sy’n byw â dementia, eu ffrindiau, teuluoedd a gofalwyr yn teimlo bod rhywun yn eu deall, eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi fel aelodau o’r gymuned.”

Ma mwy o wybodaeth am Ynys Môn Dementia Gyfeillgar ar gael ar ein gwefan.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: EbanGeal@anglesey.gov.wales

Diwedd 16 Rhagfyr 2024

Nodyn i Olygyddion: Sefydlwyd y Bwrdd Rhanbarthol er mwyn bodloni Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac er mwyn dod â sefydliadau ynghyd er mwyn sicrhau iechyd a llesiant pobl o bob oed yng ngogledd Cymru.

Nod y cynllun yw annog awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru yn eu hymdrechion i fod yn fwy dementia gyfeillgar.