Cyngor Sir Ynys Môn

Gwaith adfer giatiau hanesyddol Sant Cybi i ddechrau

Bydd y gwaith trylwyr o drwsio ac adnewyddu giatiau haearn hanesyddol yng Nghaergybi yn dechrau yfory (Dydd Mawrth, 11 Chwefror).

Mae hanes unigryw safle Sant Cybi yn dyddio’n ôl i gyfnod hwyr y Rhufeiniad yn ystod y drydedd ganrif.

Mae mynedfa fwaog a giatiau haearn addurniadol Graddfa II bellach yn darparu mynediad i’r fynwent isaf ar Ffordd Fictoria. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd mae halen y môr yn yr aer wedi effeithio ar y gwaith haearn gan achosi rhwd sylweddol. Mae rhai rhannau o’r gwaith haearn wedi dirywio i’r fath raddau fel bod angen eu hatgynhyrchu.

Drwy’r Fenter Treftadaeth Treflun Caergybi, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi llwyddo i sicrhau grantiau gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn gallu trwsio ac adfer y nodwedd bwysig hon.

Mae’r gwaith yn cynrychioli cam cyntaf cynllun buddsoddi ehangach, a reolir gan y Cyngor Sir, ar safle Sant Cybi dros y 12 – 18 mis nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn, “Rydym yn falch o allu buddsoddi mewn safle mor bwysig a hanesyddol. Bydd y cyllid allanol sydd wedi’i sicrhau yn amddiffyn ac yn ehangu mynwent Sant Cybi. Bydd gwarchod nodweddion pwysig megis y gwaith dur rhestredig yn y fynedfa yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu rhannu yn y safle unigryw hwn sy’n dyddio’n ôl i oes y Rhufeiniad. Bydd y prosiect yn diogelu rhan fach ond hynod bwysig o hanes Caergybi, yn datrys pryderon a godwyd yn ddiweddar am gyflwr y giatiau ac yn darparu mynediad diogel i’r safle.”

Ychwanegodd y Parchedig Rob Wardle, Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Cybi, “Rydym yn falch iawn bod y gwaith yma yn y fynwent isaf, sydd wir ei angen, ar fin cychwyn. Rydym yn falch hefyd o gydweithio’n agos gyda’r Cyngor Sir ac yn ddiolchgar iddynt am sicrhau’r cyllid ar gyfer y gwaith pwysig yma, sy’n rhan o’r gwaith parhaol i adnewyddu’r safle a’I adeiladau. Mae Eglwys St Cybi yng nghanol ein tref ac fel eglwys yn rhan gwerthfawr iawn o’n Cymuned.”

Bydd y giatiau’n cael eu trwsio gan arbenigwyr adfer gwaith haearn o’r enw Calibre Metalwork. Bu’r cwmni weithio ar y giatiau haearn yn adeilad newydd Neuadd y Farchnad yn ddiweddar.  Byddant yn gweithio i dynnu’r holl olion halen cyn rhoi haen amddiffynnol a phaentio’r giatiau er mwyn eu hamddiffyn rhag effeithiau’r amgylchedd morol yn y dyfodol.

Bydd y gwaith yn golygu’r angen i dynnu’r giatiau a’u symud oddi ar y safle am 10 wythnos a bydd yn golygu y bydd y fynedfa fwaog ar gau drwy’r dydd ar ddydd Mawrth 11 Chwefror. Bydd cerddwyr yn gallu cael mynediad o Eglwys Sant Cybi i Ffordd Fictoria drwy Sgwâr Swift.

Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Rheolwr Prosiect, Nathan Blanchard drwy ffonio (01248) 752047 neu drwy anfon e-bost at npbpl@ynysmon.llyw.cymru

Diwedd 10.2.2019