Cyngor Sir Ynys Môn

Disgyblion yn cofio’r Rhyfel ar y Môr: 1914 -1918

Mae disgyblion Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, wedi bod yn ymchwilio i hanes ei ardal leol a’r Rhyfel ar y môr.

Mae’r criw blwyddyn 7 wedi gweithio gyda thri ymarferydd creadigol i ddehongli’r straeon pwysig hyn a bydd eu gwaith yn rhan o arddangosfa ar Straeon Rhyfel y môr drwy Gymru a fydd yn Oriel Môn.

Gwnaethpwyd y gwaith yn bosib diolch i grant gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Gyda’r gwaith o goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn dod i ben bu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gweithio gydag Amgueddfeydd, Archifau a Chymunedau Cymru i ddarganfod straeon cudd y rhyfel ar y môr, oedd yn rhan allweddol o dactegau Prydain yn yr ymgais.  Mae arddangosfeydd ar y straeon cudd hyn wedi digwydd ledled Cymru a bydd yr arddangosfa olaf yn Oriel Môn tan fis Rhagfyr 2019.  Mae’r arddangosfa yn adrodd y straeon pwysig o’r hyn oedd yn digwydd ar y môr yn y cyfnod a’r effaith a gafodd yng Nghymru ar y bobl ac ar y morlun.

Mae dros 150 o longddrylliadau ym moroedd Cymru yn dyddio o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Roedd nifer o’r llongau yn cludo nwyddau yn cynnwys bwyd, glo a thanwydd.  Collodd dros 1,000 o bobl gyffredin eu bywydau mewn llongddrylliadau ym moroedd Cymru yn y cyfnod.

Fel rhan o’r prosiect, aeth Ysgol Syr Thomas Jones ati i ymchwilio rhai o straeon ei ardal leol a chychod oed dyn rhan o’r ymgyrch.  Drwy weithio gydag Archifau Môn ac Oriel Môn roeddynt yn gallu dysgu mwy am rhai o ymgyrchoedd pwysig y cyfnod ynghyd a digwyddiadau oedd yn effeithio Amlwch yn uniongyrchol.  Aethant ati i ddehongli'r straeon hyn gyda help gan yr ymarferwyr creadgiol Gill Brownson, Siwan Llynor ac Owain Llyr drwy ddysgu am sgiliau creadigol o ddweud stori, drama a chreu ffilm.

Cafwyd lansiad arbennig o’r ffilm yn Oriel Môn yr wythnos diwethaf. Mae’r arddangosfa ‘Prosiect Llongau Tanfor (U-Boat) yn Coffau’r Rhyfel ar y Môr’ ymlaen yn Oriel Môn hyd nes Ionawr 5ed 2020.

Eglurodd Ceri Williams, Rheolwr Ymgysylltu a Dysgu Oriel Môn “Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofio am straeon y bobl hynny a wnaeth yr aberth fwyaf i ni yn ystod y cyfnod hwn.  Drwy weithio gyda myfyrwyr Ysgol Syr Thomas Jones rydym wedi dysgu am rhai o bobl yr ardal ac am y rhyfel ar y môr.  Drwy waith caled a chreadigol y bobl ifanc byddwn yn sicrhau na fydd y bobl hyn a’r hynny a wnaethant byth yn angof.”

Dywedodd Wendy Griffiths, athrawes Ysgol Syr Thomas Jones “Rydym yn diolch yn fawr iawn i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Oriel Môn am y cyfle hwn i fod yn rhan o’r prosiect hwn.  Mae wedi bod yn gyfle gwych i’r bobl ifanc ymchwilio eu hanes lleol.  Mae hefyd wedi bod yn gyfle i ni fel athrawon cyd weithio ar draws adrannau i greu prosiect creadigol.  Rydym yn diolch yn arbennig hefyd i Gill, Siwan ac Owain am eu gwaith.” 

Diwedd 10.10.19