Bydd cronfa unigryw o £22m, sydd wedi elwa cymunedau Ynys Môn ers bron i dair degawd, o dan reolaeth newydd yr wythnos nesaf.
Dydd Mawrth, cadarnhaodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn gynnig i drosglwyddo rheolaeth cronfa waddol Shell (UK) i Gymdeithas Elusennol newydd.
Cefnogodd ei haelodau gynlluniau ar gyfer Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, a fydd yn darparu model llywodraethu newydd a’r hyblygrwydd angenrheidiol er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o’r arian hwn yn y dyfodol.
Bydd cyfrifoldeb am yr holl asedau yn y gronfa Shell (UK) yn trosglwyddo i Gymdeithas Elusennol Ynys Môn o ddydd Llun, 30 Medi 2019.
Mae Cymdeithas Elusennol Ynys Môn wedi derbyn cymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau a bydd yn gwneud yr holl benderfyniadau yn y dyfodol am y ffordd y bydd arian y gronfa’n cael ei ddosbarthu.
Eglurodd Trefor Lloyd Hughes, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, “Ers ei ffurfio ym 1990, mae’r Ymddiriedolaeth wedi darparu nawdd grant sylweddol i wahanol sefydliadau ac achosion elusennol. Mae effaith gadarnhaol y cymorth ariannol pwysig hwn wedi ei deimlo mewn cymunedau lleol ledled ein hynys.”
“Fodd bynnag, rydym wedi bod yn ystyried yn ofalus ers tro bellach beth fyddai’r ffordd orau o sicrhau strwythur rheoli cadarn y gronfa ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd, “Drwy drosglwyddo rheolaeth am y gronfa i’r model Cymdeithas Elusennol newydd, rydym yn hyderus y bydd yn darparu’r hyblygrwydd angenrheidiol fel y gallwn wneud hyd yn oed gwell defnydd o’r gronfa unigryw a sylweddol hon.”
Bydd y Gymdeithas Elusennol Ynys Môn newydd yn cynnwys cynghorwyr sir etholedig fel ymddiriedolwyr i ddechrau. Fodd bynnag, bydd y model newydd yn caniatáu penodi hyd at ddau ymddiriedolwr annibynnol yn y dyfodol.
Bydd rôl Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn dod i ben unwaith y bydd Cymdeithas Elusennol Ynys Môn yn dod i rym yn ddiweddarach eleni.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ym 1990 er mwyn rheoli cronfa gyfalaf a gafwyd gan Shell (UK) wedi iddo roi’r gorau i weithredu ei gronfa olew yn Amlwch a’r fferm danciau gysylltiedig yn Rhosgoch.
Mae wedi dyfarnu miliynau fel rhan o raglen grantiau blynyddol, i grwpiau gwirfoddol a chymunedol a phrosiectau adfywio. Rhoes gwerthiant hen safle Shell yn 2015 hefyd hwb o £3m i’r gronfa gan alluogi’r Ymddiriedolaeth i wahodd ceisiadau am grantiau mwy.
Diwedd 26.9.19