Cyngor Sir Ynys Môn

Busnesau lleol yn elwa wrth i gabanau glan môr gael eu trawsnewid

Mae pedwar o fusnesau lleol wedi eu dewis fel tenantiaid ar gyfer ciosgau adwerthu glan môr sy’n cael ei hail ddatblygu diolch i’r Gronfa Ffyniant Bro.

Ym mis Ionawr 2023, llwyddodd swyddogion gwasanaeth datblygiad economaidd Cyngor Môn yn eu cais am £17 miliwn gan y Gronfa ffyniant Bro ynghyd â £5.5 miliwm o arian cyfatebol er mwyn darparu gwerth £22.5 miliwn o fuddsoddiad yng nghanol tref Caergybi.

Gyda chefnogaeth gan bartneriaid darparu lleol, bydd y cyllid yn trawsnewid asedau treftadaeth a diwylliannol lleol ac yn dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yng nghanol y dref.

Bydd un o’r prosiectau yn gweld Cyngor Tref Caergybi yn adfer ac yn ail ddatblygu’r cabanau glan môr sydd i'w gweld ar Draeth Newry. Byddant yn cael eu trawsnewid yn giosgau adwerthu bach er mwyn helpu busnesau bach i dyfu.

Mae Island Bakes, Môn Ice, Cuffed-in Coffee (sydd i gyd yn fusnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghaergybi) ac Anglesey Hamper Company (sydd wedi eu lleoli ym Mryngwran ar hyn o bryd) wedi llwyddo i gael lle yn un o’r ciosgau newydd yn dilyn proses mynegiant o ddiddordeb.

Croesawyd y newyddion gan Arweinydd y Cyngor a deilydd portffolio Datblygu’r Economi, y Cynghorydd Llinos Medi.

Dywedodd y Cyng Medi: “Bydd y gefnogaeth gan y Gronfa Ffyniant Bro yn ein helpu ni i drawsnewid y cabanau glan môr hyn yn giosgau adwerthu a fydd o fantais i gwmnïau Ynys Môn ac yn eu helpu nhw i dyfu.”

“Bydd y cyfleusterau hyn yn chwarae rhan bwysig ym mhrofiad ymwelwyr ag Ynys Môn - gan gofio’r nifer sylweddol o ymwelwyr cychod mordeithio sy’n ymweld â’r dref bob blwyddyn - a hefyd yn gwasanaethu’r rhai hynny sy’n byw ac yn ymweld yn lleol.”

Ychwanegodd, “Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Caergybi am arwain ar y prosiect pwysig hwn a hefyd wrth gwrs, hoffwn longyfarch y busnesau newydd. Dymunaf yn dda iddynt ar y fenter newydd ar Draeth Newry, Caergybi.”

Gobeithir y bydd y ciosgau adwerthu newydd wedi eu cwblhau ac yn barod i’w defnyddio ar gyfer haf 2024.

Mae’r cais “Caergybi: Trawsnewid a yrrir gan ddiwylliant a threftadaeth”, a wnaeth sicrhau cefnogaeth gan y Gronfa Ffyniant Bro yn cynnwys pecyn cyffrous o brosiectau er mwyn cynyddu cyflogaeth; gwella canol y dref a phrofiadau ymwelwyr; cynyddu’r niferoedd sy’n ymweld â’r dref ac yn gwario yno; darparu lle modern er mwyn cwrdd ag anghenion busnesau a chynyddu mynediad at y celfyddydau, diwylliant a hamdden.

Wedi’i ardystio gan yr Aelod Seneddol Virginia Crosbie, roedd Cronfa Ffyniant Bro Caergybi wedi’i alinio’n agos ag amcanion y Papur Gwyn Ffyniant Bro ac fe’i hystyriwyd fel yr unig gais oedd a gwir siawns o dderbyn cefnogaeth ac o lwyddo mewn proses gystadleuol.

Diwedd 17 Hydref 2023