Cyngor Sir Ynys Môn

Adborth trigolion yn allweddol i gynlluniau lliniaru llifogydd Traeth Coch

Bydd Cyngor Ynys Môn yn ymgynghori ar gynlluniau i helpu amddiffyn cartrefi a busnesau yn Nhraeth Coch rhag dioddef mwy o lifogydd difrifol.

Mae cyfnodau cynyddol o law trwm iawn a lefelau uchel y môr yn parhau i achosi risg i’r gymuned arfordirol fach ger Benllech.

Ni lwyddodd y wal ger y môr atal Bwyty’r Boat House ac un eiddo preswyl rhag dioddef llifogydd ym mis Rhagfyr 2013. Bydd llanw uchel yn dod dros y wal fwy neu lai bob blwyddyn gan adael y ffordd arfordirol a’r glaswellt yn dioddef llifogydd mewn nifer o wahanol rannau.

Bellach, gofynnir i drigolion a busnesau fynegi eu barn ar gynlluniau i gynyddu uchder y wal fôr bresennol i uchder safonol o 6.06 metr uwchben lefel cymedr y môr ar hyd y ffrynt.

Byddai’r wal newydd yn darparu amddiffyniad rhag digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd a bydd yn golygu cyfartaledd o gynnydd o 0.9m o uchder ar hyd tua 500 metr o’r ffrynt.

Eglurodd y Cynghorydd Bob Parry, deilydd portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff y Cyngor, “Gyda’r bygythiad cynyddol o newid hinsawdd a digwyddiadau cysylltiedig â’r tywydd, mae’n hanfodol ein bod yn gosod mesurau atal llifogydd er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau lleol.”

Ychwanegodd, “Rydym yn gweithio’n barhaus â phartneriaid er mwyn lleihau risg llifogydd ar yr Ynys ac mae’r cynlluniau ar gyfer Traeth Coch yn enghraifft arbennig o’r math o gynlluniau sy’n cael eu hymgymryd â nhw. Os ydych chi’n lleol i’r ardal neu’n rhan o gymuned Traeth Coch, mae’n bwysig eich bod yn mynegi barn a hoffem glywed gennych fel rhan o’r ymgynghoriad, sy’n dechrau’r wythnos hon.”

Mae Cyngor Môn wedi penodi Ymgynghoriaeth Gwynedd Consulting i ddylunio cynllun lliniaru llifogydd a fydd yn darparu cymuned Traeth Coch â lefel uwch o amddiffyniad rhag llifogydd. Y gobaith yw y gellir dechrau ar y gwaith cyn Mawrth 2022.

Gall trigolion lleol lenwi’r arolwg ar-lein yma: https://redwharfbay.ygc.cymru/?lang=cy a gall unrhyw un sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu ag Ymgynghoriaeth Gwynedd Consulting drwy ffonio: 01286 679 426 neu drwy anfon e-bost at: FCRMU@gwynedd.llyw.cymru

Diwedd 11.8.21