Cyngor Sir Ynys Môn

Telerau ac amodau Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer defnyddwyr angorfeydd

Mae’r holl drwyddedau angori yn cael eu neilltuo yn amodol ar y telerau a’r amodau canlynol.
    1. Rhaid i bob cais am angorfa gael ei wneud ar ffurflen cytundeb / trwydded angori swyddogol y cyngor ac mae’n rhaid darparu gwybodaeth ddigonol o ran enw, maint a math y cwch.
    2. Caiff angorfeydd eu gosod a chodir tâl amdanynt yn flynyddol, gyda’r flwyddyn yn cychwyn ar 1 Ebrill bob blwyddyn, neu ar ddyddiad y cytundeb os yw’n hwyrach, ac yn dod i ben ar 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.
    3. Dylid arddangos sticer/sticeri yn amlwg ar y cwch bob amser. Dim ond ar ôl iddo dderbyn y taliad fydd y Cyngor yn rhoi’r sticer / sticeri.
    4. Bydd yr ymgeisydd, bob amser, yn cydymffurfio â’r is-ddeddfau neu ag unrhyw gyfarwyddiadau eraill sydd mewn grym. Bydd copi ar gael i’w archwilio yn Swyddfa’r Harbwrfeistr, Amlwch a/neu ar-lein.
    5. Bydd yr ymgeisydd, bob amser ac ym mhob ffordd, yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelwch a’r gorchmynion harbwr sydd mewn grym ac sy’n berthnasol i faint y cwch yn yr harbwr yn ystod y cyfnod pan mae’r cwch wedi’i hangori yno.
    6. Mae’r ymgeisydd yn derbyn ac yn cadarnhau fod y drwydded angori sy’n cael ei chynnig ar gyfer y cwch a enwir ar y ffurflen gytundeb yn unig.
    7. Ni fydd yr ymgeisydd yn trosglwyddo nac yn isosod yr angorfa ar unrhyw adeg.
    8. Ni neilltuir angorfa yn yr harbwr mewnol ar gyfer cwch sydd yn fwy na 11 metr o hyd, a lle bo hynny’n briodol yn unig.
    9. Ni fydd yr ymgeisydd yn addasu lleoliad yr angorfa mewn unrhyw ffordd, heb yn gyntaf dderbyn caniatâd ysgrifenedig gan yr Harbwrfeistr.
    10. Bydd yr ymgeisydd yn derbyn cyfrifoldeb llawn am angori’r cwch yn gywir. Yr ymgeisydd sydd yn gyfrifol am ddarparu offer cywir ac addas i glymu’r cwch i’r angorfa. Bydd y perchennog yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r Harbwrfeistr am unrhyw ddifrod i unrhyw eiddo / gwch ac yn digolledu Cyngor Sir Ynys Môn rhag, ac yn erbyn, pob hawliad, colled, gofynion neu gostau eraill a gyfyd o’r cyfryw ddifrod.
    11. Os oes unrhyw waith cynnal a chadw wedi’i wneud ar yr angorfa, a fyddech cystal â rhoi gwybod i’r Harbwrfeistr am y gwaith sydd wedi’i wneud. Efallai y bydd yr Harbwrfeistr, o bryd i’w gilydd, yn archwilio angorfeydd nad ydynt wedi cael eu cynnal a’u cadw.
    12. Bydd y cyngor yn ystyried ad-dalu ffioedd angori os yw’r ymgeisydd yn dirwyn y cytundeb angori i ben dim ond os nad oedd modd rhagweld yr amgylchiadau dros ddirwyn y cytundeb i ben a bod yr amgylchiadau ar gyfer dirwyn y cytundeb i ben y tu hwnt i reolaeth yr ymgeisydd.
    13. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl am farwolaeth neu anaf i unrhyw berson, neu ddifrod i unrhyw eiddo i’r ymgeisydd neu ei wahoddedigion, asiantiaid neu weithwyr, nac i unrhyw berson arall ac eithrio lle’r oedd y cyfryw weithred yn esgeulustod ar ran Cyngor Sir Ynys Môn neu asiant iddo.
    14. Mae’n rhaid i weithredwr y cwch gymryd pob cam i sicrhau diogelwch ei gwch a’r criw pan fyddant yn gweithredu yn yr harbwr.
    15. Bydd yr ymgeisydd yn codi yswiriant trydydd parti gyda chwmni yswiriant ag iddo enw da am o leiaf £3,000,000 a bydd manylion pob polisi yn cael ei ddarparu gyda phob cytundeb, neu ar gais, a dylai’r yswiriant fod yn ddilys trwy gydol cyfnod y cytundeb/drwydded.
    16. Pan fydd deilydd angorfa yn gadael angorfa yn barhaol, bydd ef/hi yn gyfrifol am symud yr angorfa gysylltiedig a’r offer daear sy’n gysylltiedig ag angorfa’r cwch sydd wedi gadael yn barhaol.
    17. Oherwydd y galw am angorfeydd maent yn cael eu cynnig i gychod sy’n cael eu defnyddio. Os gadewir cwch yn ei hangorfa am 12 mis heb reswm da am beidio ei defnyddio, gofynnir i’r cwch adael a ni fydd yr angorfa’n cael ei chynnig y flwyddyn ganlynol a bydd yn cael ei throsglwyddo i’r ymgeisydd nesaf ar y rhestr aros.
    18. Trwy lofnodi’r cytundeb angori, rydych yn ymrwymo i gynnal a chadw’r cwch y manylir arni yn y cytundeb hwn mewn cyflwr cwbl addas i’r môr bob amser a sicrhau fod polisi yswiriant yn parhau i fod yn weithredol tra bod y cwch yn y dŵr, fel y diffinnir hynny yn adran 14 y cytundeb hwn. Pe canfyddir nad yw’r naill neu’r llall o’r telerau hyn yn cael eu cynnal, rydych yn cytuno bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cael symud eich cwch yn y ffordd fwyaf priodol a mwyaf darbodus a’i roi mewn cyfleuster cadw a bydd modd adennill y costau sy’n gysylltiedig â’r broses hon gan y perchennog / person a enwir ar y cytundeb hwn.
    19. Os credir nad yw cwch yn addas i’r môr, gofynnir i’r perchennog gyflwyno adroddiad arolwg cyfredol a gwblhawyd gan syrfëwr cofrestredig. Os nad yw’r perchennog yn cytuno â’r penderfyniad bod y cwch yn anaddas i’r môr, defnyddir syrfëwr annibynnol cydnabyddedig i benderfynu ar hyn.
    20. Ar ôl 1 mis calendr, os na fydd unrhyw faterion yn ymwneud ag addasrwydd cwch i’r môr wedi cael eu hunioni, neu os yw’r cwch ar fin creu perygl, caiff ei symud ar unwaith a bydd y costau sy’n gysylltiedig â hyn yn cael eu trosglwyddo i’r perchennog cofrestredig.
    21. Mae angen archwilio pob angorfa yn flynyddol, gyda phrawf archwilio ar gael ar gais.

Unwaith y bydd wedi derbyn y cynnig o’r cytundeb, rhaid i ddeilydd yr angorfa dalu’r ffi flynyddol yn unol â rhestr gyfredol y ffioedd a’r costau morwrol.

Gall cychod masnachol cofrestredig weithredu ac angori yn unol â’u polisi yswiriant.

Mae angori ar gyfer pob cwch bychan preifat rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref a rhaid iddynt adael yr harbwr mewnol ac allanol rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth, oni bai eu bod yn derbyn caniatâd ymlaen llaw a’u bod yn gallu dangos bod ganddynt yswiriant dilys ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.