Cyfarwyddyd ar sut i gwblhau eich ffurflen gais
Darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus cyn cwblhau’r ffurflen gais. Gall hyn arbed amser yn y tymor hir.
Gwybodaeth ddefnyddiol i gwblhau’r ffurflen gais
Mae’n angenrheidiol eich bod yn darllen y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb bersonol cyn cwblhau’r ffurflen gais.
Mae’n ddefnyddiol i chi gadw’r rhain wrth law pan rydych yn cwblhau’r ffurflen. Llunnir y rhestr fer drwy gymharu’r wybodaeth a ddarperir gennych ar y ffurflen gais gyda’r fanyleb bersonol.
Os oes rhaid i chi adael y ffurflen ar ei hanner, cofiwch bwyso’r botwm ‘Arbed eich cynnydd’ a gallwch ddychwelyd ato yn hwyrach ymlaen.
Sicrhewch fod y ffurflen wedi’i chwblhau yn llawn a bod y wybodaeth i gyd yn gywir. Mae’n rhaid cwblhau pob maes a nodir gyda (gofynnol) ac ni allwch gyflwyno eich cais heb eu llenwi.
Gallwch ail-ddefnyddio cais blaenorol os yr ydych eisoes wedi ymgeisio am swydd gyda ni. Cofiwch addasu’r wybodaeth fel ei fod yn berthnasol i’r swydd yr ydych yn ymgeisio am.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb bersonol i’ch cyfrifiadur neu go’ bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion personol
Dyma’r wybodaeth yr ydym ei angen i gysylltu gyda chi.
Dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib, gan gynnwys
- eich enw llawn
- cyfeiriad
- cod post
- rhif yswiriant cenedlaethol
- rhifau ffôn cyswllt (rhif ffôn symudol, ac os yn bosib, rhif cartref)
- eich iaith cyfathrebu ddewisol
Mae’r cyngor yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg ac ni fydd hynny yn arwain at oediad.
Cefndir cyflogaeth (gan ddechrau gyda’r diweddaraf)
Rhestrwch fanylion eich holl gyflogwyr yn ôl dyddiad cychwyn, gan ddechrau gyda’r diweddaraf.
Cofiwch nodi:
- teitl eich swydd
- dyddiad cyflogaeth
- crynodeb fer o’ch dyletswyddau
Dylech hefyd nodi’r holl gyfnodau lle buoch yn ddi-waith, magu teulu neu gyfrifoldebau gofalu eraill, gweithio’n wirfoddol neu unrhyw seibiant gyrfa arall.
Sefydliadau addysgol a chymwysterau
Nodwch yma unrhyw sefydliadau addysgol a ydych yn eu mynychu neu wedi mynychu gan gynnwys manylion eich:
- addysg uwchradd (ysgol neu goleg)
- addysg uwch (ysgol neu goleg)
- addysg bellach (coleg neu brifysgol)
yn ogystal â dyddiadau eich presenoldeb.
Rhowch fanylion y cymwysterau addysgol a galwedigaethol sydd gennych. Yn arbennig y cymwysterau sydd fwyaf perthnasol ar gyfer y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani.
Cofiwch nodi:
- dyddiadau cychwyn a cwblhau (os nad ydych yn cofio’r union ddyddiadau, rhowch fanylion o’r mis a’r flwyddyn)
- y sefydliad ble dderbynioch y cymhwyster
- y pwnc
- math y cymwysterau (megis TGAU, Lefel A)
y radd a dderbynioch
Tystiolaeth o gymhwysterau
Bydd rhaid i chi ddod â thystiolaeth o’ch cymwysterau a phrawf o’ch adnabod i’r cyfweliad.
Disgwyl am eich canlyniadau
Os yr ydych yn dal i ddisgwyl eich canlyniadau, nodwch y dyddiad yr ydych i’w derbyn yn y maes ‘Hyd at’. Gyda phob swydd, byddem yn disgwyl cadarnhad o’r holl ganlyniadau cyn penodi.
Cyrsiau a cymhwysterau eraill
Rhowch fanylion unrhyw gyrsiau eraill yr ydych wedi’u mynychu, neu gymwysterau yr ydych wedi’u hennill sydd efallai ddim yn gymwysterau llawn. Gall hyn fod yn hyfforddiant sy’n berthnasol ar gyfer y swydd yr ydych chi’n gwneud cais amdani, neu tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaol.
Os yw’r swydd yn gofyn am gymhwyster proffesiynol fel gofyniad hanfodol neu ddymunol, a’ch bod eisoes yn meddu’r cymhwyster hwnnw (neu rydych yn gweithio tuag ato), rhestrwch y:
- corff aelodaeth
- math o aelodaeth
- teitl y cymhwyster
- dyddiad a wnaethoch gwblhau’r cymhwyster
Os oes gennych gymhwyster proffesiynol na restrir yn y fanyleb bersonol, defnyddiwch yr adran hon i’w gynnwys os credwch ei fod yn berthnasol.
Aelodaeth broffesiynol
Os ydych yn aelod o gorff broffesiynol (megis CIEH) nodwch
- y gymdeithas
- lefel
- eich rhif aelodaeth
Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gyflogwr Hyderus o ran anabledd.
Rydym yn gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol fel y nodir ar y disgrifiad swydd/manyleb person.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio person anabl fel person sydd â nam corfforol neu feddyliol, sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu'r person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Nodwch ar y ffurflen gais os ydych yn ystyried fod gennych anabledd yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ag os oes angen cyfleusterau neu addasiadau arbennig ar gyfer cyfweliad.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r rhan yma yn gofyn i chi cadarnhau os fod gennych drwydded yrru ddilys llawn, yn berchen ar gerbyd, os ydych angen caniatâd i weithio yn y DU neu os ydych yn perthyn i unrhyw aelod etholedig neu weithiwr Gyngor Sir Ynys Môn.
Os gwelwch yn dda, rhowch fanylion os yw hynny’n berthnasol. Gallai canfasio neu fethiant i ddatgelu perthynas gydag Aelod Etholedig/Weithiwr o Gyngor Sir Ynys Môn eich gwahardd o'r broses recriwtio.
Gofynion ieithyddol
Byddwn yn holi am eich gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cofiwch y bydd eich gofynion ieithyddol yn cael eu hasesu yn y cyfweliad yn unol â gofynion nodwyd yn y swydd ddisgrifiad.
Euogfarnau troseddol
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio staff rydym yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Rhowch fanylion ynghylch unrhyw euogfarnau neu gyhuddiadau sydd ar y gweill yn achos bob trosedd (neu droseddau honedig) yn cynnwys troseddau gyrru.
Os ydych yn datgelu euogfarn yn anfwriadol, ac yr ystyrir ei fod wedi ei ‘dreulio’, bydd yn cael ei anwybyddu os nad yw’n heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr, 1974 (Eithriadau), 1975 (Diwygio) (Cymraeg a Lloegr) 2020.
Os ydych yn gwneud cais am swydd sy’n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion bregus (gweithgaredd rheoledig) yna mae’r swydd honno wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau), 1975 (Diwygio) (Cymraeg a Lloegr, 2020) a bydd yn amodol ar wiriad Datgelu a Gwahardd (fel a nodir yn y Disgrifiad Swydd).
Rhaid i chi felly ddatgelu unrhyw euogfarnau, gorchmynion rhwymo, rhybuddion neu gyhuddiadau sy’n disgwyl, p’un ai ydynt yn rhai cyfredol neu wedi treulio.
Mae peidio â datgelu’r wybodaeth hwn yn drosedd ac fe allai arwain at ddiswyddiad, camau disgyblu neu wrthod eich cais.
Bydd yn ofynnol i bob aelod o staff sydd newydd eu penodi i’r Awdurdod dalu cost unrhyw gais DBS, a fydd hefyd yn cynnwys cofrestriad blynyddol gyda Gwasanaeth Cofrestru Diweddariad GDG ar-lein.
Ni fydd cofnod troseddol o anghenraid yn eich atal rhag gweithio i’r Cyngor.
Bydd hyn yn dibynnu ar natur y swydd ac amgylchiadau a chefndir eich troseddau. Os ydych yn methu â rhoi gwybodaeth berthnasol i ni neu’n rhoi gwybodaeth ffug gall hyn arwain at i unrhyw gynnig o gyflogaeth gael ei dynnu’n ôl neu os ydych eisoes mewn cyflogaeth, i weithred ddisgyblu a diswyddiad.
Pam gwneud cais?
Dyma’r rhan bwysicaf o’r ffurflen gais.
Os na chaiff yr adran hon ei chwblhau yn dda, gall hynny effeithio’ch cyfle i gael cyfweliad.
Mae’r adran yma yn rhoi’r cyfle i chi egluro pam y dylech gael eich penodi.
Cyn i chi gwblhau’r adran hon, edrychwch yn ofalus ar y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person. Meddyliwch am resymau pam eich bod yn addas ar gyfer y cyfle hwn.
Cysylltwch eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gyda gofynion y swydd.
Yna, dylech symud ymlaen i astudio’r pwyntiau a nodir yn y fanyleb person, gan ysgrifennu enghreifftiau clir o sut ydych yn/wedi cyflawni pob elfen.
Gallwch roi enghraifft o’ch swydd bresennol neu o weithgaredd yr ydych wedi’i wneud yn y gorffennol.
Er enghraifft, os mai sgiliau cyfathrebu yw un o’r meini prawf a nodir ar y fanyleb person, nid yw’n ddigonol nodi “Gallaf gyfathrebu’n effeithiol”.
Mae’n rhaid i chi ddangos tystiolaeth o hyn, er enghraifft, “Yn ddiweddar, rhoddais gyflwyniad i rai o’m cyd-weithwyr, i sicrhau bod y brif neges yn cael ei throsglwyddo, siaradais gyda sawl aelod o staff o flaen llaw i gael syniad o sut y byddent yn ymateb i’r negeseuon, pa gwestiynau fyddai’n codi a pharatoi nodiadau ar sail hyn. Roedd yr adborth a dderbyniais yn arbennig".
Dylech ateb pob pwynt a nodir yn y fanyleb person yn y drefn a ddengys ar y fanyleb. Bydd hyn o gymorth wrth lunio rhestr fer.
Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich holl brofiadau perthnasol gan na fyddem yn tybio dim o deitl eich swydd.
Nifer o eiriau
Mae yn arfer dda i arbed copi o’ch cais mewn rhaglen megis Word cyn i chi ei gyflwyno. Nodwch fod cyfyngiad 4000 o nodau yn y bocs cyntaf ond mae yno focs ychwanegol hefo 4000 o nodau os ydych angen fwy o nodau.
Monitro cydraddoldeb
Mae monitro cydraddoldeb yn galluogi’r cyflogwr ddeall strwythur eu gweithlu.
Defnyddir hyn i amlygu profiadau grwpiau gwahanol o staff yn ystod y cylchrediad cyflogaeth, er enghraifft yn y cam recriwtio neu fynediad at hyfforddiant.
Mae monitro’r categorïau cydraddoldeb yn ein cynorthwyo i adnabod, taclo ac atal gwahaniaethu yn erbyn staff drwy ddangos ble mae anghydraddoldebau sydd angen archwiliad pellach.Fodd bynnag, nodir nad ydych o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu’r wybodaeth hon, ac yn yr achos hyn gofynnwn i chi dicio ‘mae’n well gen i beidio â dweud’.