Cyngor Sir Ynys Môn

Rhybudd etholiad: Ethol aelod Seneddol

Ar gyfer etholaeth Ynys Môn.
  1. Cynhelir etholiad am aelod i wasanaethu yn y Senedd dros yr etholaeth uchod.
  2. Gellir cael papurau enwebu o swyddfeydd Swyddog Canlyniadau Gweithredol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW rhwng 10am a 4pm.
  3. Rhaid danfon papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau Gweithredol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar unrhyw ddiwrnodiau’r wythnos rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gwyliau’r banc) ond ddim hwyrach na 4pm ar Ddydd Gwener, 7 Mehefin 2024.
  4. Rhaid talu blaendal o £500 am bob ymgeisydd, yn ddelfrydol drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, neu fel arall mewn arian parod neu ddrafft banc (banciau’n gweithredu o fewn y Deyrnas Unedig yn unig).
  5. Os bydd yr etholiad yn cael ei gynnal cynhelir y bleidlais ar Ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024.
  6. Mae’n rhaid i geisiadau i ychwanegu at y gofrestr etholwyr ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol,  Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2024. Gellir gwneud ceisiadau ar y wê www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  7. Rhaid i geisiadau, diwygiadau neu ddiddymiadau pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 19 Mehefin 2024. www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post
  8. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 26 Mehefin 2024. www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwy-ddirprwy
  9. Rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Etholwr Anhysbys sy'n ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5pm ar ddydd Mercher, 26 Mehefin 2024. Gellir gwneud ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar-lein www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr.
  10. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy ar sail cyflwr meddygol, salwch, anabledd neu os yw eu galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth yn golygu na ellir mynd i orsaf bleidleisio ar ôl 5pm ar Ddydd Mercher, 26 Mehefin 2024, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024. 

Dylan J Williams
Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)

Dyddiad: 31 Mai 2024

Lawrlwytho dogfennau

Efallai na fydd y ffeiliau yma'n hygyrch