Cyngor Sir Ynys Môn

Recriwtio: Cwestiynau cyffredin

Atebion i gwestiynau a allai fod gennych am wneud cais am swydd gyda ni.

Nid ydych wedi defnyddio’r wefan hon o’r blaen, beth ddyliech chi ei wneud?

Ar y wefan allwch bori drwy restr o swyddi bresennol y cyngor. Wrth ddewis ‘Gweld manylion y swydd’ allwch weld manylion pellach. O fan hyn, allwch ymgeisio am y swydd drwy ddewis ‘Ymgeisio nawr’.

Byddwch yn cael eich ail-gyfeirio i’r ffurflen gais lle y dylid llenwi’r ffurflen yn unol â’r canllaw ‘Sut i ymgeisio’.

Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau ei fod wedi’i dderbyn wedi i chi ei gyflwyno. Bydd yr e-bost yn cynnwys cyfarwyddiadau pellach.

Fe anfonir pob gohebiaeth i’ch cyfrif e-bost gan gynnwys gwahoddiad i gyfweliad. Cofiwch wirio eich ffolder 'Junk'.

Allwch chi wneud cais am bob un swydd gyda’r cyngor?

Gellir gwneud cais am swyddi gwag yn y cyngor ar-lein.

Ar hyn o bryd, ni allwch ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein i wneud cais am swyddi ysgolion (swyddi dysgu neu swyddi ble nad ydych yn dysgu). Bydd rhaid i chi gyflwyno’ch cais i’r ysgol neu sefydliad addysgol perthnasol yn uniongyrchol. Bydd manylion perthnasol ynghlwm yn yr hysbyseb.

Sut yr ydych yn gwneud cais am swydd benodol?

Cliciwch ar y botwm ‘Gweld manylion y swydd’ ar y swydd ydych eisiau ymgeisio am ag yna clicio ‘Ymgeisio nawr’. Byddwch yn cael eich ail-gyfeirio i’r ffurflen gais.

Rydym yn darparu opsiynau ar gyfer unigolion ag anableddau i geisio am swydd mewn ffyrdd gwahanol. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â’r tîm AD ar 01248 750 057 am gyngor pellach.

Oes angen i chi gwblhau ffurflen gais ar gyfer pob swydd o ddiddordeb i chi?

Oes.

Unwaith yr ydych wedi ymgeisio am swydd efo ni, bydd modd defnyddio eich cais blaenorol am unrhyw swyddi pellach trwy’r system.

Sicrhewch eich bod yn diweddaru eich manylion ar y ffurflen gais fel ei fod yn gywir ag yn berthnasol i’r swydd yr ydych yn ymgeisio am.

Pa mor aml y dylwn i arbed y ffurflen gais wrth ei chwblhau?

Pwyswch y botwm ‘Arbed eich cynnydd’ yn gyson.

Bydd hyn yn eich galluogi I arbed eich gwybodaeth fel yr ydych yn ei lenwi, a gallwch gwblhau y cais hwyrach ymlaen.

Am resymau diogelwch bydd y sustem yn eich allgofnodi os yw eich bysellfwrdd wedi bod yn anweithredol am gyfnod hir o amser. Os yw eich gwybodaeth wedi’i cholli, yna byddwch angen cwblhau’r ffurflen eto.

Oes modd i mi arbed ac ychwanegu gwybodaeth i’m ffurflen gais?

Gallwch ail-ymweld â chais a arbedwyd gennych yn flaenorol i ddiweddaru’r manylion ac i gwblhau’r ffurflen gais.

Unwaith mae'r cais wedi ei gyflwyno, nid yw'n bosib diweddaru eich manylion.

Lle byddaf yn canfod y dyddiad cau?

Cewch ddod o hyd i’r dyddiad cau ar yr hysbyseb. Mae’n hanfodol eich bod yn cyflwyno’ch ffurflen gais cyn 11:59pm ar y dyddiad hwn.

Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl 11:59pm ar y dyddiad cau.

Oes angen i chi roi gwybod os na allwch fynychu’r cyfweliad?

Oes, os gwelwch yn dda.

Gwerthfawrogwn petaech chi’n rhoi gwybod i ni. Bydd rhif ffôn neu e-bost cyswllt wedi’i nodi ar yr e-bost cyfweliad.

Oes angen i chi gadarnhau eich bod yn mynychu’r cyfweliad?

Oes, os gwelwch yn dda.

Oes modd i chi gael adborth yn dilyn cyfweliad?

Oes.

Gall yr unigolyn a enwebir ar banel y cyfweliad ddarparu adborth i chi, boed y cyfweliad yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, petaech chi’n gwneud cais am adborth.

Os oes gennych anabledd ac angen newidiadau rhesymol ar gyfer y cyfweliad, sut y cyflawnir hyn?

Mae’r cyngor yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb. Byddem yn gwneud pob dim sydd ei angen i sicrhau y cyflawnir unrhyw newidiadau rhesymol.

Nodwch y rhain ar eich ffurflen gais. Gallwch hefyd gysylltu â’r rheolwr recriwtio.

Sicrhau cyfweliad

Mae’r cyngor yn cynnig cyfweliad i bob ymgeisydd ag anabledd os ydynt yn cyrraedd gofynion y swydd. Asesir ymgeiswyr anabl ar sail eu galluoedd.

Mynychu’r cyfweliad

Os gwahoddir chi i gyfweliad, gofynnir i chi nodi os oes gennych unrhyw anghenion penodol i sicrhau ein bod yn gwneud y trefniadau addas petai angen.

Gall hyn fod yn gyfieithydd iaith-arwyddion neu ddarllenydd gwefusau er enghraifft.

Byddwch yn cael eich hysbysu os oes unrhyw brofion, gyflwyniadau neu drafodaethau grŵp yn rhan o’r broses dethol.

Os ydych angen unrhyw gymorth neu addasiadau ar gyfer unrhyw ran o’r broses detholiad, cysylltwch â’r Adain Adnoddau Dynol.

Cymorth i ymgeiswyr llwyddiannus

Gwneir pob ymdrech i drin gweithwyr anabl yn ôl eu hanghenion a bydd newidiadau rhesymol yn cael eu gwneud i’r gweithle a phrosesau’r gwaith ar gyfer staff anabl.

Oes modd i chi wneud cais am swydd gyda CV yn unig?

Nag oes.

Defnyddiwch y ffurflen gais a ddarperir.

O ble y gallwch gael pecyn ymgeisio?

Mae’r rhan fwyaf o’r swyddi a nodir ar y wefan hon yn eich caniatáu chi i wneud cais ar-lein.

Nid oes angen pecyn swydd arnoch, a ni fyddwn yn derbyn ffurflenni papur.

Rydym yn darparu opsiynau ar gyfer unigolion ag anableddau i geisio am swydd mewn ffyrdd gwahanol. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â’r tîm AD ar 01248 750 057 am gyngor pellach.

Mae swyddi Addysg yn cynnwys pecyn ymgeisio yn eu hysbysebion, bydd angen dychwelyd i’r ysgol berthnasol.

I le’r ydych yn dychwelyd y ffurflen gais?

Bydd pob cais a wneir ar-lein yn cael eu cyflwyno yn syth i’r sustem.

Ar gyfer ceisiadau am swydd oddi ar-lein, nodir y wybodaeth dychwelyd ar yr hysbyseb swydd.

Pa bryd y cewch glywed os yr ydych wedi cael gwahoddiad ar gyfer cyfweliad?

Bydd pob ymgeisydd sydd wedi ymgeisio ar-lein yn derbyn e-bost yn eu hysbysu o newid yn statws eu ffurflen gais.

Bydd ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am swyddi mewn ysgolion yn derbyn cyfathrebiad yn uniongyrchol gan yr ysgol.

Sut y gallwch ganfod os yr ydych angen gwiriad 'DBS' cyn y gallech ddechrau gweithio?

Nodir gofynion DBS o fewn y swydd ddisgrifiad perthnasol, y gellir ei lawrlwytho o'r dudalen manylion swydd.

Os ydych yn gwneud cais am swydd sy’n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion bregus (gweithgaredd rheoledig) yna mae’r swydd honno wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd yn amodol ar wiriad Datgelu a Gwahardd (fel a nodir yn y Disgrifiad Swydd).

Rhaid i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau, gorchmynion rhwymo, rhybuddion neu gyhuddiadau sy’n disgwyl, p’un ai ydynt yn rhai cyfredol neu wedi treulio. Mae peidio â datgelu’r wybodaeth hwn yn drosedd ac fe allai arwain at ddiswyddiad, camau disgyblu neu wrthod eich cais.

Ni fydd cofnod troseddol o anghenraid yn eich atal rhag gweithio i’r Cyngor. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y swydd ac amgylchiadau a chefndir eich troseddau.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio staff rydym yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.Os ydych yn methu â rhoi gwybodaeth berthnasol i ni neu’n rhoi gwybodaeth ffug gall hyn arwain at unrhyw gynnig o gyflogaeth gael ei dynnu’n ôl neu os ydych eisoes mewn cyflogaeth, i weithred ddisgyblu a diswyddiad.

Pa mor ddiogel yw eich gwybodaeth ar y sustem?

Rydym yn gwarchod eich gwybodaeth yn ystod y trawsnewid drwy ddefnyddio meddalwedd Diogelwch Haenen Gludo (Transport Layer Security - TLS).

Mae hyn yn amgryptio unrhyw wybodaeth a fewnbynnwyd gennych. Rydym yn cynnal mesurau diogelwch ffisegol, electronig a threfniadol yng nghyswllt casglu, storio a datgelu gwybodaeth bersonol y cwsmer.

Mae’n bwysig eich bod chi’n diogelu yn erbyn mynediad heb awdurdod i’ch cyfrifiadur. Sicrhewch eich bod yn allgofnodi os yr ydych yn defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus (sy'n cael ei rannu).