Cyngor Sir Ynys Môn

Llythyr penderfyniad: Ysgol Carreglefn ac Ysgol Llanfechell

6 Mehefin 2024

Annwyl Rieni / Rhanddeiliaid,

Ar ddydd Iau 23 Mai 2024, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig i:

  • Drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn o 31 Awst 2024.
  • Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi rhybudd o’r penderfyniad terfynol ar ffurf llythyr penderfyniad (yn
    unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018).
  • I ymestyn dalgylch Ysgol Llanfechell i ymgorffori dalgylch presennol Ysgol Carreglefn

Cyhoeddwyd y Rhybudd Statudol i gau Ysgol Carreglefn ar 1 Mawrth 2024, a daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 2 Ebrill 2024. Derbyniwyd cyfanswm o 8 gwrthwynebiad i’r cynnig. 

Yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y gwrthwynebiadau, a mabwysiadwyd y cynnig gwreiddiol. Wrth benderfynu ar y cynnig, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi’i fodloni y byddai disgwyl i’r cynnig ddarparu’r buddion canlynol:

  • Gallai’r cynnig gynnal y safonau presennol yn Ysgol Llanfechell, a fyddai o leiaf yn gyfartal â’r safonau yn Ysgol Carreglefn.
  • Byddai llai o amrywiad yn yr ystod oedran yr addysgir yn y dosbarthiadau, gan ganiatáu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion o Garreglefn weithio â disgyblion eraill o’r un oedran, a chael mynediad at gwricwlwm ehangach a mwy cytbwys.
  • Gellid cael gwared â lleoedd gweigion yn Ysgol Carreglefn, a lleihau’r nifer o leoedd gweigion yn Ysgol Llanfechell.
  • Gellid lleihau’r amrywiad yn y gost fesul disgybl ar draws Ynys Môn yn arwyddocaol.
  • Amcangyfrifir i’r cynnig roi arbediad refeniw o £126k y flwyddyn.
  • Amcangyfrifir i’r cynnig leihau allyriadau carbon o 12.6 tCO2e y flwyddyn.
  • Gellid dyrannu canran uwch o’r Gyllideb Ysgolion Ddirprwyedig ar addysgu, gyda llai o adnoddau’n cael eu dyrannu tuag at gynnal a chadw a rhedeg adeiladau. 
  • Gellid lleihau’r gost cynnal a chadw gyfredol a rhagamcanol o £317,350. Gallai fod llai o adeiladau i'r Awdurdod eu cynnal yn y blynyddoedd i ddod, a allai gyfrannu at well rheolaeth strategol ar ystâd ysgolion y dyfodol. 

Mae’r rhesymau am y penderfyniad mewn perthynas â’r ffactorau yr amlinellir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion fel a ganlyn:

Ansawdd a Safonau Addysg

Bydd yr Awdurdod yn cymryd pob cam ymarferol i leihau aflonyddwch i ddisgyblion ym mhob ysgol, drwy weithio'n agos gyda'r pennaeth a'r corff llywodraethol perthnasol. Bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu, os oes angen, i gynorthwyo disgyblion gyda'r cyfnod pontio. Disgwylir i'r cynnig o leiaf gynnal cyrhaeddiad/canlyniadau pob disgybl, waeth beth fo'u cefndir

Yr angen am leoedd a’r effaith ar hygyrchedd i ysgolion

Bydd capasiti digonol yn Ysgol Llanfechell i ddarparu ar gyfer disgyblion o Lanfechell a Charreglefn. Mae’r Cyngor wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd rhai disgyblion yn teithio ymhellach i’r ysgol. Bydd cludiant ysgol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion yn unol â’r Polisi Cludiant Ysgol. Gan bydd dalgylch Ysgol Llanfechell yn cael ei ymestyn i ymgorffori dalgylch presennol Ysgol Carreglefn, bydd disgyblion sydd yn byw o fewn dalgylch presennol Ysgol Carreglefn (a fydd yn mynychu Ysgol Llanfechell), yn debygol o fod yn gymwys i gludiant ysgol am ddim yn unol a’r Polisi Cludiant Ysgol. Bydd Ysgol Llanfechell yn parhau i fod yn ysgol gymuned cyfrwng Cymraeg categori 3 (yr un fath ag Ysgol Carreglefn). 

Adnoddau addysg a goblygiadau ariannol

Nid oes cost cyfalaf ynghlwm â’r cynnig. Disgwylir i’r cynnig roi arbediad refeniw o tua £126k y flwyddyn a bydd yn lleihau costau presennol a rhagamcanol o tua £317k. Bydd y cynnig hefyd yn lleihau’r amrywiad yn y gost fesul disgybl yn arwyddocaol rhwng ysgolion cynradd ym Môn. 

Ffactorau penodol wrth ystyried cau ysgolion

Ystyriwyd opsiynau amrywiol gan y Pwyllgor Gwaith cyn penderfynu parhau â’r cynnig cyhoeddedig. Aseswyd mai trosglwyddo disgyblion i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn yw’r opsiwn sy’n mynd i’r afael fwyaf â’r heriau allweddol sy’n wynebu Ysgol Carreglefn. Bydd disgwyl i Ysgol Llanfechell barhau i redeg clwb brecwast a gweithgareddau cymunedol. Mae’r Cyngor yn parhau’n ymrwymedig i weithio â’r gymuned yng Ngharreglefn gyda golwg ar ddarparu cyfle i sicrhau dyfodol hirdymor adeilad ysgol Carreglefn fel adnodd cymunedol os oes angen.

Rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig

Mae’r Cyngor wedi amlinellu’n glir y rhesymau pam bod angen newid, a’r prif reswm yw niferoedd disgyblion yn disgyn i 5 o fis Medi 2024 ymlaen. Archwiliwyd pob opsiwn amgen rhesymol, ac aseswyd pob opsiwn amgen mewn perthynas ag effaith debygol ar ansawdd a safonau mewn addysg, y gymuned a threfniadau teithio. Dangosodd y dadansoddiad bod rhai effeithiau cadarnhaol a negyddol, fodd bynnag mae’r opsiwn hwn yn gyffredinol yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd a safonau mewn addysg, y gymuned a threfniadau teithio. 

Gweithredu

Bydd Ysgol Carreglefn yn cau’n swyddogol fel lleoliad addysgol ar 31 Awst 2024. Bydd disgyblion yn cael eu cofrestru’n awtomatig yn Ysgol Llanfechell ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25 oni bai bod rhieni wedi gwneud cais i’w plant fynychu ysgol arall. 

Cyfeirio Penderfyniad yr Awdurdod Lleol i Weinidogion Cymru

Dan adran 54 o Ddeddf 2013, ble mae cynhigion wedi’u cymeradwyo gan awdurdod lleol, gall y cyrff canlynol, o fewn 28 diwrnod, gyfeirio’r cynnig i Weinidogion Cymru ei ystyried:

  • Awdurdod lleol arall yr effeithir gan y cynhigion
  • Y corff crefyddol priodol
  • Corff llywodraethu ysgol wirfoddol neu sefydledig
  • Ymddiriedolaeth sy'n dal eiddo ar ran ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig
  • Sefydliad addysg arall yr effeithir gan y cynnig.

Bydd angen i’r cyrff sy’n gwneud y cyfeiriad amlinellu pam eu bod yn credu bod penderfyniad yr Awdurdod Lleol yn anghywir.

Yn gywir,
​​
Marc Berw Hughes
Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

Lawrlwytho dogfennau

Efallai na fydd y ffeiliau yma'n hygyrch