Cyngor Sir Ynys Môn

Hysbysiad preifatrwydd: Prevent a Channel Panel

Mae'r hysbysiad hwn yn darparu gwybodaeth breifatrwydd ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Prevent a Channel Panel

Pwrpas

O dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 mae gan bob Awdurdod Lleol a nifer o awdurdodau penodedig eraill ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyledus i'r angen i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth.

Rydym wedi ymrwymo ein hunain i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed sydd mewn perygl o radicaleiddio neu ymwneud â therfysgaeth.

Bydd gwybodaeth bersonol, a gyflenwir at ddibenion Channel, yn cael ei chadw a'i phrosesu gan y Swyddfa Gartref. Y Swyddfa Gartref yw rheolwr y wybodaeth hon.

Mae hyn hefyd yn cynnwys pan fydd yn cael ei gasglu neu ei brosesu gan drydydd parti ar ran y Swyddfa Gartref gan gynnwys yr awdurdod lleol.

Cynhwysir dolen i Hysbysiad Preifatrwydd y Swyddfa Gartref: -

https://www.gov.uk/government/publications/channel-data-privacy-notice/channel-data- privacy-information-notice

Eich hawliau

Mae'r holl wybodaeth a gofnodwyd sydd gan awdurdod cyhoeddus yn dod o dan yr hawl i wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Deddf Rhyddid Gwybodaeth).

Mae angen cysondeb wrth ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth sy'n berthnasol i baneli Channel ac asesiadau o unigolion, ac er mwyn amddiffyn trydydd parti.

Felly dylai'r holl bartneriaid lleol sy'n derbyn cais Rhyddid Gwybodaeth o'r fath ddod ag ef i sylw eu panel lleol.

Dylai'r cadeirydd hysbysu'r Swyddog Achos Channel a'r Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth yn y Swyddfa Gartref, a fydd yn cynghori a oes angen ymgynghori ymhellach, er enghraifft gydag adrannau eraill y llywodraeth ganolog.

Gwybodaeth bellach

Mae gennym Swyddog Diogelu Data sy'n sicrhau ein bod yn parchu'ch hawliau ac yn dilyn y gyfraith.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynglŷn â sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data yn DPO@ynysmon.gov.uk

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein rhybudd preifatrwydd yn rheolaidd. Cymeradwywyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ym mis Ebrill 2022.