Cyngor Sir Ynys Môn

Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol Newydd Ynys Môn

Y Cyngor yw’r rheolydd data ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn.

Ynglŷn â’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn

Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw dweud wrthych sut fydd y Cyngor yn prosesu eich data personol at ddibenion gwireddu Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn. Mae gennych hawliau mewn perthynas â sut y caiff eich data ei gasglu a’i ddefnyddio at y diben hwn. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn eich hysbysu yma beth yw’r hawliau hynny a sut y gallwch eu harfer.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol.

Caniateir i’r Cyngor ddefnyddio, casglu a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond os oes gennym sail gyfreithiol dros wneud hynny. Rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol dim ond er mwyn cyflawni ein swyddogaethau cyfreithiol a swyddogol. Byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny, a dim ond lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur i wneud hynny.

Swyddog Diogelu Data’r Cyngor a’i fanylion cyswllt

Mae’r Cyngor wedi penodi Swyddog Diogelu Data (SDD) i gynorthwyo i sicrhau fod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol wrth brosesu data personol. Gallwch gysylltu â’r SDD trwy e-bost ar DPO@ynysmon.gov.uk

Pa ddata personol rydym yn ei gasglu a pham

Mae eich data personol yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio i wireddu Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich data personol i gysylltu â chi ynglŷn â materion cysylltiedig.

Rydym yn casglu eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt (gan gynnwys e-bost).

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Mae’r Cyngor yn casglu eich data personol er mwyn cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn.

Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • Cyfathrebu gyda chi yn ystod camau perthnasol yn y broses o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol newydd.
  • Delio gydag unrhyw gwynion neu bryderon.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data

Rydym yn defnyddio’r sail gyfreithiol ganlynol o dan GDPR y DU i brosesu data personol:

Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU – mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol.

Rhannu eich data personol

Mae’n bosib y bydd y Cyngor yn rhannu eich data gyda phartïon eraill os yw’n ofynnol, neu os yw’n gyfreithiol ac yn briodol i wneud hynny. Os byddwn yn rhannu eich data yn allanol, dylech nodi mai’r sefydliad hwnnw fydd yn gyfrifol am eich data o hynny ymlaen, a dylech gyfeirio at eu hysbysiad preifatrwydd i gael manylion am sut y byddant yn prosesu eich data.

Eich hawliau fel testun data

Eich data personol chi yw’r data a gesglir, ac mae hawliau gennych sy’n effeithio ar yr hyn sy’n digwydd iddo. Mae gennych hawl i gael mynediad at y data personol sydd gan y Cyngor amdanoch, ac i gael copi ohono, ac mae gennych hawl i ofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes unrhyw wallau neu os ydyw wedi dyddio. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl i ofyn i’r Cyngor ymatal rhag prosesu eich data personol hyd nes bydd unrhyw wallau wedi cael eu cywiro, i wrthwynebu prosesu neu drosglwyddo eich data personol, neu (o dan amgylchiadau prin iawn) ddileu eich data personol.

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data, fel y dangosir uchod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth​ ​ https://ico.org.uk/ neu trwy ffonio’r llinell gymorth 0303 123 1113.

Fydd unrhyw ddata personol yn cael ei anfon dramor?

Na

Gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud am unigolion ar sail penderfyniadau awtomataidd yn unig (lle mae penderfyniad yn cael ei wneud amdanynt gan ddefnyddio system electronig, heb unrhyw ymyrraeth gan berson) ac sy’n cael effaith sylweddol arnynt.

Storio, diogelwch a rheoli data

Rydym yn gwneud hynny trwy roi systemau a pholisïau ar waith i gyfyngu mynediad at eich gwybodaeth ac atal datgelu eich data heb awdurdod, colli eich data’n ddamweiniol neu addasu eich data. Mae gennym hefyd weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth bod rheolau data personol wedi cael eu torri a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddwr perthnasol am y toriad os oes gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny.

Am ba hyd fydd y Cyngor yn cadw’r data personol

Bydd y Cyngor yn cadw’r data hyd nes bydd ein gwaith ar bwnc yr ymgynghoriad wedi’i gwblhau ac yna bydd yn ei waredu mewn ffordd ddiogel.

Cwynion a rhagor o wybodaeth

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2019 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Os ydych yn anhapus â’r ffordd y mae’r Cyngor wedi gweithredu wrth ddefnyddio eich data personol, gallwch wneud cwyn trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.

Os byddwch yn parhau i fod yn anhapus, neu i dderbyn cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow, Cheshire,
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745 https://ico.org.uk/

Cyhoeddwyd 23 Mai 2024
Diweddarwyd diwethaf 23 Mai 2024