Cyngor Sir Ynys Môn

Hysbysiad preifatrwydd: Adfywio (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd)

Mae gennych hawl i wybod am y ffordd rydym yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Darllenwch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda gan ei bod yn cyfeirio at hawliau ychwanegol y dylech wybod amdanynt.

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Cyngor Sir Ynys Môn yw’r rheolydd data ar gyfer eich gwybodaeth. Mae hyn yn golygu bod y cyngor yn diogelu eich gwybodaeth ac yn penderfynu sut y caiff ei defnyddio.

Y term cyfreithiol am ddefnyddio gwybodaeth yw prosesu. Hefyd, y term cyfreithiol am wybodaeth amdanoch chi yw data personol.

Bydd y cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddatblygu a ddarparu gweithgareddau i adfywio’r economi lleol a rhanbarthol i hybu gwell cyfleoedd gwaith, cynyddu ffyniant a chefnogi cymunedau bywiog a gwydn, dyma’r diben a fwriedir o brosesu.

Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn gydnaws â pham y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf.

Ni fydd y cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

Mae proffilio yn golygu unrhyw fath o brosesu awtomataidd ar eich data personol er mwyn gwerthuso neu ddadansoddi neu ragfynegi pethau amdanoch chi.

Gallai hyn gynnwys eich sefyllfa economaidd, iechyd, tueddiadau personol, diddordebau neu ymddygiad.

Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wlad arall.

Mae’r cyngor yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am fod ganddo ddyletswydd neu hawl gyfreithiol i wneud hynny; neu i berfformio tasg sydd er budd cyhoeddus; neu am eich bod wedi rhoi eich caniatâd.

Y term cyfreithiol am hyn yw y sail gyfreithiol o brosesu.

Yn yr achos hwn, mae’r cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am ei fod yn ymgymryd â thasg sydd er budd cyhoeddus.

A / neu

Yn yr achos hwn, mae’r cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am eich bod wedi rhoi eich caniatâd llwyr i’r prosesu.

Nodwch os gwelwch yn dda, gan eich bod wedi cytuno i’r prosesu, mae gennych hawliau ychwanegol, sy’n cael eu hegluro isod.

Bydd y cyngor yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth gyda chyrff cyhoeddus a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddata personol.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y Cyngor yn casglu ac yn rhannu data gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (AGW) mewn perthynas â’i waith a’i astudiaethau archwilio.

Bydd data’n cael ei rannu hefyd yn unol â’r ddyletswydd a nodir yn Adran 33 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Mae'n bosibl y bydd y wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei rhannu â'r sefydliad(au) canlynol pan fo hynny'n briodol ac yn angenrheidiol i wneud hynny:

Llywodraeth Cymru; Swyddfa Archwilio Cymru; Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO); Gwasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Ynys Môn ac awdurdodau lleol eraill.

Nid yw'r rhestr uchod yn hollgynhwysol. Dim ond at y diben y'i bwriedir y caiff eich gwybodaeth ei rhannu.

Bydd yr wybodaeth a gyflenwir gennych yn cael ei chadw cyhyd ag y bo'n ofynnol neu'n angenrheidiol yn unol â'n hamserlen cadw, a chaiff ei dinistrio'n ddiogel.

Nodir y cyfnodau cadw yn rhestr y cyngor o gyfnodau cadw, a elwir yn amserlen dargadw. Os hoffech weld copi o'n hamserlen cadw, cysylltwch â'r swyddog diogelu data ar DPO@anglesey.gov.uk

Eich hawliau cyfreithiol

Mae gennych hawliau cyfreithiol, ac mae'n bwysig eich bod chi'n ymwybodol ohonynt.

Mae gennych hawl i gael cadarnhad bod gwybodaeth amdanoch yn cael ei defnyddio

Bydd y cyngor yn darparu cadarnhad os byddwch yn gofyn amdano.

Mae gennych yr hawl i gael copi o'ch data personol

Byddwch yn cael copïau o'ch data personol o fewn y cyfnod statudol o fis (neu os yw darparu'ch data personol yn fater cymhleth, gwneir hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol o fewn 3 mis).

Bydd eich data personol yn cael ei ddarparu ar eich cyfer yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, os ystyrir bod eich cais yn amlwg yn ddi-sail neu'n ormodol, codir ffi resymol. Gallwch ofyn am eich data personol trwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data y cyngor.

Mae gennych hawl i gael cywiro unrhyw wybodaeth amdanoch. Gelwir hyn yn hawl cywiro

Mae gennych yr hawl i ofyn i’ch data personol gael ei gywiro os yw'n anghywir neu'n anghyflawn. Gwneir hyn o fewn 1 mis, neu os yw eich cais yn un cymhleth, o fewn 3 mis.

Yr hawl i gael dileu data personol

Mae gennych hawl i gael dileu eich data personol mewn amgylchiadau penodol:

  • Lle nad yw'r data personol bellach yn angenrheidiol mewn perthynas â'r pwrpas y cafodd ei gasglu / ei brosesu yn wreiddiol
  • Os byddwch yn tynnu'ch caniatâd yn ôl
  • Pan fyddwch chi'n gwrthwynebu i’r cyngor brosesu’r data ac nad oes unrhyw ddiddordeb cyfreithlon hollbwysig dros barhau â'r prosesu
  • Os yw’r data personol wedi'i brosesu'n anghyfreithlon
  • Pan mae’r data personol yn gorfod cael ei ddileu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu
  • Pan fydd y data personol yn cael ei brosesu mewn perthynas â chynnig gwasanaethau cymdeithas wybodaeth i blentyn, er enghraifft, 'app' a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer

Yr hawl i gyfyngu prosesu

Pan honnir bod y data'n anghywir neu os gweithredwyd yr hawl i gael gwared arno, fe allwch chi ofyn i'r cyngor gyfyngu ar brosesu nes bod y gwiriadau dilysu wedi cael eu cwblhau.

Yr hawl i wrthwynebu

Yn ogystal â'r hawl i wrthwynebu i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu yn seiliedig ar gyflawni tasg er budd y choedd / ymarfer awdurdod swyddogol (gan gynnwys proffilio), a phrosesu at ddibenion ymchwil wyddonol / hanesyddol ac ystadegau.

Yr hawl i dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg

Golyga hyn, os yw'r cyngor yn defnyddio eich caniatâd i brosesu eich data personol, gallwch ei dynnu'n ôl. Nid yw hyn yn newid cyfreithlondeb y prosesu sy'n digwydd cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl.

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd

Mae gennych yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau sy'n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, gan gynnwys proffilio, sy'n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol arnoch chi neu'n effeithio arnoch chi mewn ffordd arwyddocaol.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’n Swyddog Diogelu Data drwy e-bost, post neu ffôn os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi preifatrwydd hwn neu’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi.

Gellir cysylltu gyda Swyddog Diogelu Data (SDD) y cyngor drwy e-bost: DPO@anglesey.gov.uk neu SDD@ynysmon.gov.uk.

Rydym yn gobeithio y gall ein SDD ateb unrhyw ymholiad neu ddatrys unrhyw bryder a fydd gennych am y modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol hefyd yn rhoi i chi’r hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliol yn y man yr ydych yn gweithio, yn byw fel arfer neu ble y digwyddodd unrhyw achos o dorri’r cyfreithiau diogelu data.

Yr awdurdod goruchwyliol yn y DU yw’r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu https://ico.org.uk/concerns

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF

E-bost: casework@ico.gsi.gov.uk

Rhif Ffôn: 0303 123 1113.

Cyhoeddwyd y Rhybudd Preifatrwydd ar 18 May 2018 a’i ddiweddaru ddiwethaf ar 18 May 2018

Fersiwn: 1

Dyddiad: 18 May 2018