Cyngor Sir Ynys Môn

Hysbysiad preifatrwyd: Gwasanaeth Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo

Sut ‘rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae gennych hawl i wybod am y ffordd rydym yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Darllenwch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda gan ei bod yn cyfeirio at hawliau ychwanegol y dylech wybod amdanynt.

Cyngor Sir Ynys Môn yw’r rheolydd data ar gyfer eich gwybodaeth. Mae hyn yn golygu bod y cyngor yn diogelu eich gwybodaeth ac yn penderfynu sut y caiff ei defnyddio. Y term cyfreithiol am ddefnyddio gwybodaeth yw prosesu. Hefyd, y term cyfreithiol am wybodaeth amdanoch chi yw data personol.

Yn ogystal, efallai y bydd y Gwasanaeth Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo yn rhannu eich data gyda chontractwyr sydd hefyd yn rheolydd data i’r pwrpas o ddarparu gwasanaethau.

Diben prosesu

Bydd y cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo, dyma’r diben a fwriedir o brosesu. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn gydnaws â pham y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf.

Mae'r cyngor yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol oherwydd bod ganddo ddyletswydd gyfreithiol neu hawl i wneud hynny; neu i gyflawni tasg lles y cyhoedd; neu oherwydd eich bod wedi rhoi eich caniatâd. Gelwir y term cyfreithiol am hyn yn sail gyfreithiol ar gyfer prosesu.

Rhannu eich data personol

Bydd y cyngor yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth gyda chyrff cyhoeddus sy'n cynnwys peth data personol. Sylwch y bydd y cyngor yn casglu ac yn rhannu data gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (ACC) mewn cysylltiad â'i waith archwilio ac astudiaethau. Bydd rhannu data hefyd yn digwydd yn unol â'r ddyletswydd yn adran 33 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ei rhannu â gwasanaethau’r cyngor Sir a chontractwyr allanol.

Ni fydd y cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio. Mae proffilio yn golygu unrhyw fath o brosesu awtomataidd ar eich data personol er mwyn gwerthuso neu ddadansoddi neu ragfynegi pethau amdanoch chi. Gallai hyn gynnwys eich sefyllfa economaidd, iechyd, tueddiadau personol, diddordebau neu ymddygiad.

Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wlad arall.

Cyfnod cadw

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw cyhyd ag sy’n ofynnol neu’n angenrheidiol, a chaiff ei dinistrio’n ddiogel.

Mae’r cyfnodau cadw wedi eu nodi yn rhestr y cyngor o gyfnodau cadw, a gelwir hon yr atodlen gadw.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data os gwelwch yn dda.

Eich hawliau cyfreithiol

Mae gennych chi hawliau cyfreithiol, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth ydynt.

Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad fod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei defnyddio. Bydd y cyngor yn darparu cadarnhad os gofynnwch amdano.

Mae gennych yr hawl i gael copi o’ch data personol. Darperir copïau o’ch data personol i chi o fewn y cyfnod statudol o un mis (neu, os yw darparu eich data personol yn fater cymhleth, fe wneir hyn cyn gynted ag sy’n rhesymol o fewn 3 mis). Darperir eich data personol yn rhad ac am ddim i chi, fodd bynnag, os tybir fod eich cais yn amlwg yn ddi‐ sail neu’n ormodol, codir ffi resymol arnoch. Cewch ofyn i gael eich data personol trwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Cyngor.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro gwybodaeth amdanoch chi. Gelwir hyn yr hawl am gywiriad. Mae gennych yr hawl i ofyn am i’ch data personol gael ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Fe wneir hyn o fewn 1 mis, neu os yw eich cais yn fwy cymhleth, o fewn 3 mis.

Yr hawl i gael dileu data personol. Mae gennych yr hawl i ofyn am i ddata personol gael ei ddileu mewn amgylchiadau penodol:

  • Pan nad yw’r data personol bellach yn angenrheidiol mewn perthynas â’r diben o’i gasglu/prosesu yn wreiddiol.
  • Pan ydych yn gwrthwynebu’r prosesu gan y Cyngor ac nad oes unrhyw fudd cyfreithlon sy’n drech na hynny o barhau â’r prosesu.
  • Os cafodd y data personol ei brosesu’n anghyfreithlon.
  • Pan fo rhaid dileu’r data personol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Pan fo’r data personol yn cael ei brosesu mewn perthynas â chynnig gwasanaethau cymdeithas wybodaeth i blant, er enghraifft ap a ddatblygir yn benodol i blant.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu

Pan honnir fod data yn anghywir neu fod yr hawl i ddileu wedi cael ei weithredu, gallwch ofyn i’r cyngor gyfyngu prosesu hyd nes bod gwiriadau dilysu wedi cael eu cwblhau.

Yr hawl i wrthwynebu

Yn ogystal â’r hawl i wrthwynebu bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at farchnata uniongyrchol, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu sy’n seiliedig ar berfformio tasg er budd cyhoeddus/defnyddio awdurdod swyddogol (yn cynnwys proffilio), a phrosesu at ddibenion ymchwil gwyddonol/hanesyddol ac ystadegau.

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd

Mae gennych yr hawl i beidio bod yn destun penderfyniadau sy’n seiliedig yn llwyr ar brosesu awtomataidd, yn cynnwys proffilio, sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol arnoch chi neu’n effeithio arnoch mewn modd sylweddol. 

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’n Swyddog Diogelu Data drwy e‐bost, post neu ffôn os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi preifatrwydd hwn neu’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi.

Gellir cysylltu gyda swyddog diogelu data (SDD) y cyngor drwy e‐bost: DPO@anglesey.gov.uk neu SDD@ynysmon.gov.uk .

Rydym yn gobeithio y gall ein SDD ateb unrhyw ymholiad neu ddatrys unrhyw bryder a fydd gennych am y modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol hefyd yn rhoi i chi’r hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliol yn y man yr ydych yn gweithio, yn byw fel arfer neu ble y digwyddodd unrhyw achos o dorri’r cyfreithiau diogelu data. 

Yr awdurdod goruchwyliol yn y DU yw’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

E-bost: casework@ico.gsi.gov.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113.

Cyhoeddwyd y Rhybudd Preifatrwydd ar 24 Mai 2018 a’i ddiweddaru diwethaf ar 24 Mai 2018.

Fersiwn 1.0

Dyddiad: 24 Mai 2018