Cyngor Sir Ynys Môn

Cwrs: Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Hydref 2024

Amser: 09:30 - 16:30

Lleoliad: Lleolaid: Ystafell Hyfforddiant, Cyngor Sir Ynys Mon, Llangefni, LL77 7TW

Amlinelliad y Cwrs

Mae cwrs AMHFA Cymru yn dysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i 'gwsmeriad', ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw'r cymorth a ddarperir i bobl sy'n datblygu problem iechyd meddwl, sy'n profi problem iechyd meddwl sy'n gwaethygu neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl. Rhoddir y cymorth cyntaf tan y bydd cymorth proffesiynol priodol yn cael ei dderbyn neu tan y bydd yr argyfwng drosodd.

Mae cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion (Cymru) yn seiliedig ar Ganllawiau MHFA rhyngwladol. Mae cynnwys y cwricwlwm yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda mewnbwn gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ymchwilwyr ac eiriolwyr defnyddwyr.

Amcanion y Cwrs

Fel cyfranogwyr, byddwch yn cael gwell gwybodaeth am salwch meddwl a'u hymyriadau, gwybodaeth am strategaethau cymorth cyntaf priodol, a hyder wrth helpu unigolion sy'n profi problem iechyd meddwl. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys:

Datblygu problemau iechyd meddwl

  • Iselder
  • Problemau gorbryder
  • Seicosis
  • Problemau defnyddio sylweddau

Argyfwng iechyd meddwl

  • Meddyliau ac ymddygiad hunanladdol
  • Hunan-niwed nad yw'n hunanladdol
  • Pyliau o banig
  • Digwyddiadau trawmatig
  • Cyflyrau seicotig difrifol
  • Effeithiau difrifol o ddef

Cynulleidfa:

Hyfforddwr:

Iaith: Dwyieithog


Byddwch yn derbyn cadarnhad ffurfiol os oes lle wedi ei gadw ichi ar y cwrs

Darperir yr hyfforddiant yma fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Gofal Cymdeithasol, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn


Lawrlwytho Ffurflen Gais   Yn ol i'r dudalen Digwyddiadau