Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid er mwyn galluogi pobl i gael mynediad at gynnyrch mislif am ddim.

Urddas Mislif Ynys Môn
Mae’r cynllun Urddas Mislif Ynys Môn yn rhoi blaenoriaeth i bobl o gefndiroedd incwm isel.
Gellir rhoi cynnyrch mislif mewn modd sensitif i unrhyw un sydd ei angen.
Mae’r cynllun Urddas Mislif Ynys Môn yn sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael yn:
- holl ysgolion yr ynys
- llyfrgelloedd
- canolfannau hamdden
- canolfannau cymunedol
a nifer o adeiladau cyhoeddus eraill.
Cysylltwch
Os ydych chi’n sefydliad (megis clwb chwaraeon, clwb ieuenctid, canolfan gymunedol ac ati) sy’n dymuno darparu cynnyrch mislif, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at urddasmislif@ynysmon.llyw.cymru
Cymru sy’n falch o’r mislif
Fideo gan Lywodraeth Cymru.