Teulu Môn yw pwynt cyswllt cyntaf Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae Teulu Môn yn wasanaeth sy’n canolbwyntio ar y teulu wrth ymyrryd yn gynnar ac atal.
Atgyfeiriadau ar gyfer oedolion a phlant
Teulu Môn sy’n derbyn pob atgyfeiriad yn ymwneud ag oedolion a phlant.
Mae’r gwasanaethau’n cynnwys:
- gwybodaeth, cyngor a chymorth
- gwasanaethau cymorth cynnar ac ataliol
- gofal a chymorth
- amddiffyn oedolion a phlant
- gwasanaeth Dechrau’n Deg (ar gyfer teuluoedd sydd â phlant ifanc)
- Tîm o Amgylch y Teulu
- cymorth iechyd meddwl (trwy Llesiant Meddwl Môn)
- gwasanaethau arbenigol plant
- gwasanaethau anableddau dysgu
- gwasanaethau ieuenctid
- iechyd galwedigaethol
- maethu
- asesiadau gofalwyr
- Timau Adnoddau Cymunedol
Cymorth, cyngor a gwybodaeth
Mae Teulu Môn yma i’ch cefnogi.
Trwy ein gwaith rydym yn dod ag asiantaethau at ei gilydd i gefnogi oedolion, plant a’u teuluoedd.
Rydym yn ei gwneud yn hawdd i bobl gael mynediad at gymorth, cyngor a gwybodaeth, mor fuan â phosib, p’un a ydych yn:
- blentyn
- oedolyn
- rhiant
- aelod o’r teulu
- cymydog
- gweithiwr proffesiynol
Cysylltu â ni
Ar-lein
Gallwch gysylltu â ni ar-lein trwy Fy Nghyfrif Môn.
E-bost
Gallwch anfon e-bost at:
teulumon@ynysmon.llyw,cymru neu asduty@ynysmon.llyw.cymru
Ffôn
Gallwch ffonio’r swyddfa: 01248 725 888 / 01248 752 752
Rhif ffôn prif switsfwrdd y cyngor yw: 01248 750 057
Mewn person
Gallwch alw ym mhrif swyddfeydd y cyngor yn Llangefni.
Gweithwyr proffesiynol
Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol gwblhau a chyflwyno’r ffurflen atgyfeirio gyfredol.