Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen arloesol sy’n galluogi ardaloedd awdurdodau lleol i ddatblygu systemau a chefnogaeth aml-asiantaethol effeithiol, gyda phwyslais clir ar atal ac ymyrraeth gynnar i deuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi.
Mae sawl agwedd i dlodi, gyda thlodi cyfranogiad a chyfle yn aml yn effeithio ar deuluoedd lle mae plant gydag anabledd.
Bydd y gwasanaeth Cefnogi Cynnar yn darparu i deuluoedd y plant o enedigaeth hyd at bum mlwydd oed sydd ag anableddau difrifol a / neu gymhleth gyda chefnogaeth gyfannol i fynd i’r afael â phob agwedd o fywyd bob dydd.
Bydd Gweithiwr Allweddol yn cael ei ddyrannu i’r teulu. Bydd y Gweithiwr Allweddol yn helpu’r teulu i nodi eu cryfderau a’u gwendidau, blaenoriaethau a nodau yn y tymor byr a hirdymor.
Sefydlir Ffeil Deulu i gofnodi eu cynnydd a dathlu cerrig milltir o ddatblygiad y plentyn a siwrnai y teulu.
Bydd y Gweithiwr Allweddol yn cydlynu mewnbwn iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau addysg, gan sicrhau bod y plentyn a llais y teulu wrth wraidd unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a bod y gwasanaeth yn gweithio ar y cyd i lunio cynllun sengl ar gyfer y plentyn, Cynllun Datblygu Unigol.
Am ragor o wybodaeth gweler y manylion cyswllt ar yr ochr dde.
Mae’r gwasanaethau ar gyfer Plant Anabl ar Ynys Môn yn gweithio o dan yr egwyddorion canlynol:
- Lle bynnag y bo’n bosibl, mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu byw ‘bywydau cyffredin’.
- Mae natur unigryw y plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael ei werthfawrogi a darperir ar ei gyfer
- Mae proses asesu, cynllunio ac adolygu amlasiantaethol unigol yn cael ei darparu a’i chyflwyno mewn partneriaeth gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd
- Mae darpariaeth gwasanaethau yn gyfannol, cydgysylltiedig a di-dor
- Mae parhad gofal yn cael ei gynnal drwy gyfnodau gwahanol o fywyd plentyn a thrwy eu paratoi ar gyfer bod yn oedolyn
- Mae dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc yn cael eu monitro a’u hyrwyddo
- Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus
- Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ymwneud â ffurfio, datblygu a gwerthuso’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio
- Mae arferion gwaith a systemau amlasiantaethol yn cael eu hintegreiddio
- Gall plant, pobl ifanc a theuluoedd fod yn hyderus bod y bobl sy’n gweithio gyda nhw wedi cael hyfforddiant, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad priodol