Mae gan yr awdurdod lleol oblygiad cyfreithiol i gwblhau asesiad o ddigonolrwydd gofal plant (ADG) fel gofyn statudol o’r Ddeddf Gofal Plant 2006.
Mae ADG yn ddull sydd yn galluogi i awdurdod lleol i adolygu'r cyflenwad a’r angen ar gyfer gofal plant yn yr ardal, a thrwy hynny tynnu sylw ar anghenion lle sydd angen mwy o sylw a’u gwneud cynigion lle’n bosib. Yn ogystal â hyn mae angen i awdurdodau ystyried 'Cymru: gwlad gyfeillgar i chwarae' wrth wneud asesiad asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae (ADCC).
Beth yw asesiad o ddigonolrwydd gofal plant
Mae asesiad o ddigonolrwydd gofal plant yn cymharu'r cyflenwad o ofal plant o fewn ardal i’r angen am ofal plant. Mae galw yn seiliedig ar y nifer o blant of fewn ardal, a’r cyfartaledd cenedlaethol o ran defnydd o’r gofal. Wrth gymharu’r angen, mi fedrwn ni penderfynu os oes angen mwy o ofal plant of fewn yr ardal.
Beth yw asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae
Mae’r asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae i fod i ddangos data am y nifer o blant sydd yn byw o fewn yr awdurdod lleol er mwyn gwneud asesiad am y potensial ar gyfer anghenion chwarae. Mae’r data i fod i roi gwybodaeth am y nifer o blant mewn catgoriau gwahanol a all effeithio ar eu hanghenion ar gyfer chwarae.
Amcan canlyniadau a phrif themâu
Gweithredoedd ADG 2022 i 2027
Gofal Plant ar ôl ysgol
- Cefnogi'r rheini i ddychwelyd i’r gweithle neu i wella eu cyflogadwyedd trwy hyfforddiant neu addysg.
- Cefnogi datblygiad mwy o gyfleoedd gofal plant ar o’r ysgol a chlybiau ar ôl ysgol.
Oriau agor hirach
- Cefnogi darparwyr gofal plant i allu cynnig oriau agor hirach.
Trawsnewidiadau CCLDP
- Datblygu strategaeth recriwtio a chadw proffesiwn y blynyddoedd cynnar a gofal plant (mater Cymru gyfan).
Cynnig gofal plant ar gyfer plant 2 oed
- Galw lleol a chymhelliant llywodraeth Cymru i ymestyn y cynnig rhan-amser i blant 2 oed.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- I hyrwyddo cydraddoldeb mynediad i bob plentyn, gan gefnogi'r ddarpariaeth gofal plant i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Darpariaeth Gymraeg
- Parhau i flaenoriaethu Cymraeg yn Gyntaf ac adeiladu'r Gymraeg mewn lleoliadau gofal plant.
Fforddiadwy
- Parhau i hyrwyddo rhaglenni gofal plant sydd wedi eu hariannu a chyfleoedd fel gofal plant di dreth a chynnig 30 awr o ofal plant.
Argaeledd gofal plant
- Gweithio mewn partneriaeth gydag adrannau priodol ac asiantaethau allanol i ymgynghori ar ddatblygiadau tai i sicrhau bod digon o ofal plant ar gael yn lleol.
Gwarchodwyr plant
- Cefnogi unigolion drwy'r broses gofrestru gwarchod plant a chefnogi hyfforddiant gwarchodwyr plant er mwyn ehangu’r argaeledd.
Gweithredoedd (ADCC) 2022 i 2025
Chwarae stryd
- Hyrwyddo strydoedd glanach a mwy diogel ar gyfer chwarae.
- Hyrwyddo ffyrdd cerdded, reidio mwy diogel - gweithio mewn partneriaeth ag adrannau perthnasol ac asiantaethau allanol i leihau cyfyngiadau cyflymder.
Gweithio mewn partneriaeth
- Parhau i ddatblygu gwaith mewn partneriaeth ag adrannau perthnasol a thu allan i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer yr asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae.
Cynwysoldeb
- Datblygu ardaloedd a gweithgareddau mwy diogel ar gyfer cymunedau LGBTQIA.
Recriwtio, hyfforddiant a chymwysterau
- Cefnogi datblygiad a darpariaeth mwy o hyfforddiant mewn chwarae i ysgolion a goruchwylwyr amser cinio.
- Cefnogi datblygiad a darpariaeth staff mwy cymwys (L3 Playworks).
- Cefnogi mae angen i weithlu gofal plant y tu allan i oriau ysgol dyfu a chadw staff cymwys.
Mannau chwarae agored
- Asesiad mannau agored i'w ddiweddaru
Gweler y dogfennau
Anfonwch e-bost at GofalPlantaChwaraeMon@ynysmon.llyw.cymru os hoffech gopi o’r:
- Ffurflen Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
- Ffurflen Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae