Cyngor Sir Ynys Môn

Risg o gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn - COVID-19


Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydyn ni yma i chi a gallwn eich helpu a’ch cefnogi. 

Mae llinell Gymorth Hourglass Cymru ar gael i unrhyw un sy`n poeni am y risg uwch o gam-drin ac esgeulustod I bobl hŷn yn ystod y cyfnod heriol yma. 

Mae`r grwp wedi dod at ei gilydd yn sgil y pandemig coronafeirws ar cyfyngiadau o achos bod rhai pobl hŷn yng Nghymru o bosib mewn mwy o berygl o gam-drin domestig (neu ffyrdd eraill o) drais, esgeulustod, neu gael eu targedu gan droseddwyr. 

Os oes angen cymorth a chefnogaeth ar unrhyw bobl hŷn, neu os oes unrhyw un yn poeni y gallai person hŷn fod mewn perygl, mae croeso i chi gysylltu ag Hourglass Cymru (Action on Elder Abuse Cymru o’r blaen) ar 0808 808 8141 (i gael help y tu allan i oriau swyddfa, dylai pobl gysylltu â'r Llinell Gymorth Di-ofn Fyw 24 awr ar 0808 80 10 800).

Os oes risg o niwed difrifol ar fin digwydd, dylid cysylltu â’r heddlu yn ddi-oed drwy ffonio 999. Mae’r heddlu’n dal i ymateb i alwadau brys.

Os oes angen help ar rywun ond nad oes modd iddyn nhw ddweud hynny, dylen nhw ffonio 999 ac wedyn 55.