Trosolwg
Os oes gennych anabledd, efallai’ch bod yn gymwys i dderbyn grant gan Gyngor Sir Ynys Môn i wneud addasiadau i’ch cartref.
Er enghraifft, os oes gennych:
- anabledd corfforol
- anabledd dysgu
- anghenion yn ymwneud â’ch oed
- awtistiaeth
- amhariad gwybyddol, megis dementia
- cyflwr sy’n gwaethygu’n raddol, megis clefyd niwronau motor
- salwch terfynol
- cyflwr iechyd meddwl
Ni fydd y Grant yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi’n eu derbyn.
Y math o newidiadau yr ydych yn dymuno’u gwneud
Efallai’ch bod yn dymuno:
- lledaenu drysau a gosod rampiau neu ganllawiau bachu
- ei gwneud hi’n haws symud o amgylch eich cartref, er enghraifft drwy osod lifft grisiau, neu gallu defnyddio’r gawod
- ei gwneud hi’n haws defnyddio’r ardd
- codi estyniad, er enghraifft er mwyn creu ystafell wely ar y llawr gwaelod
- gosod system wresogi sy’n addas ar gyfer eich anghenion
- addasu rheolyddion gwres a golau i’w gwneud hi’n haws eu defnyddio
Sut i wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl
Faint o arian sydd ar gael
Bydd y swm o arian y byddwch chi’n ei dderbyn yn ddibynnol ar y gwaith sydd angen ei wneud.
£36,000 ydi’r uchafswm y gallwch chi ei dderbyn gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Nid oes prawf modd ar gyfer grantiau hyd at £10,000.
Os ydi’r taliad dros £10,000 yna mae’n bosib y bydd yn rhaid cynnal prawf modd (prawf i weld faint o arian sydd gennych chi) i weld a oes modd i chi gyfrannu at y gost eich hun.
Yn achos grantiau dros £10,000 bydd pridiant tir lleol yn cael ei gofnodi yn erbyn yr eiddo. Fe allwn ni egluro beth mae hyn yn ei olygu os nad ydych yn deall. Ni fydd hyn yn digwydd os ydi’r grant ar gyfer plentyn.
Peidiwch â chychwyn ar y gwaith cyn gwneud cais
Peidiwch â chychwyn ar y gwaith cyn gwneud cais. Fe all hyn eich atal rhag bod yn gymwys i dderbyn y grant.
Sut caiff yr arian ei dalu
Mae’r grant fel arfer yn cael ei dalu i’r contractwr fydd yn gwneud y gwaith.
Bydd hyn naill ai’n digwydd ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau neu'n gyfnodol tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.
Pwy sy’n gymwys i hawlio’r grant
Rhaid i chi, neu rywun sy’n byw efo chi:
- fod yn anabl
- bwriadu byw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd (neu lai, er enghraifft os oes gan yr unigolyn salwch terfynol)
Pwy all gyflwyno cais
Naill ai’r:
- perchennog
- tenant
- landlord
Beth fydd y cyngor yn ei wneud
Bydd y Cyngor yn cadarnhau pa waith sydd angen ei wneud i gwrdd â’ch anghenion.
Byd rhaid i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gadarnhau bod y gwaith yn angenrheidiol ac yn addas ar gyfer eich anghenion.
Bydd y Gwasanaethau Tai hefyd yn gwneud yn siŵr bod y gwaith yn rhesymol ac ymarferol, ac yn ystyried oed a chyflwr eich cartref.
Caniatâd cynllunio
Mae’n bosib y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer unrhyw waith fydd yn cael ei wneud. Efallai y bydd yn rhaid i’r gwaith hefyd gael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar gyfer hyn.
Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi hefyd gyflogi pensaer neu syrfëwr. Fe allwch ddefnyddio’r grant i dalu am y costau hyn.
Sut i wneud cais
Os hoffech wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl, siaradwch efo’ch therapydd galwedigaethol.
Os nad oes gennych therapydd galwedigaethol, cysylltwch efo’r Adran Dai a gofynnwch am ymweliad. Mae’r manylion cyswllt ar y dudalen hon.