Gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i bobl gydag anableddau dysgu a’u gofalwyr ar Ynys Môn, a sut i gael mynediad atynt.
Sut mae cael mynediad i’r gwasanaethau?
Mae gan Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ddyletswydd o dan ‘Ddeddf Anabledd a Salwch Difrifol 1970’ i gadw cofrestr o bobl gydag anabledd dysgu ar Ynys Môn.
Mae’r diffiniad o anabledd dysgu a fabwysiadwyd o fewn Gwasanaethau Anabledd Dysgu Ynys Môn yn dilyn yr hyn a ddefnyddir yn ‘Health of a Nation’ - A Strategy for People with Learning Disability (1995).
- gallu cyfyngedig i ddeall gwybodaeth newydd neu gymhleth ar gyfer dysgu sgiliau newydd (amhariad ar ddeallusrwydd) a
- gallu cyfyngedig i ymdopi’n annibynnol (amhariad ar gyfranogiad cymdeithasol) a
- ddechreuodd cyn i’r person ddod i oed oedolyn gydag effaith parhaol
Er mwyn cael mynediad at wasanaethau, mae’n rhaid asesu pobl yn erbyn y meini prawf hyn a rhoddir eu henwau ar Gofrestr Anableddau Dysgu Ynys Môn.
Cynhelir asesiad amlddisgyblaethol sy’n cynnwys -
- asesiad cymdeithasol o anghenion person mewn perthynas â chynnal safon ddigonol o annibyniaeth yn y gymuned
- asesiad o sgiliau / cynhwysiad ymddygiad gan y Tîm Nyrsio
- asesiad seicolegol ar allu unigolion i adnabod /amgyffred
Beth sy’n digwydd nesaf?
Unwaith ydych wedi eich derbyn ar y Gofrestr Anableddau Dysgu bydd asesiad gofal cymdeithasol yn cael ei weithredu yn erbyn canllawiau Mynediad i Wasanaeth.
Efallai bydd Cydlynydd Gofal wedyn yn cael ei benodi i:
- cyd-gordio asesiad o anghenion yr unigolyn a’i d/theulu
- datblygu pecyn gofal
- gweithredu, monitro ac addasu’r cynllun fel bo angen
- adolygu’r cynllun yn ffurfiol o leiaf unwaith yn flynyddol
Bydd lefel gwasanaeth a ddarperir yn ddibynnol ar gymhlethdod yr angen, y gofyniad am ymateb amlddisgyblaethol a gallu’r defnyddiwr gwasanaeth a neu’r gofalwr i reoli’r angen sydd wedi cael ei adnabod. Mae gan y Tîm Anabledd Dysgu nifer o Arbenigwyr a all gynghori a darparu gwasanaethau sy’n cynnwys:
- gweithwyr cymdeithasol
- rheolwr achos iechyd
- nyrsys cymunedol
- cydlynydd adolygiad ac adnoddau
- therapydd galwedigaethol
- therapydd iaith
- ffisiotherapydd
- seicolegydd
- cynghorwr ar hyfforddiant
Pa wasanaethau sydd ar gael?
Yn ogystal â’r gwasanaethau penodol a ddarperir gan Arbenigwyr o fewn y Tîm gellir rhoi cymorth i bobl gael mynediad at y gwasanaethau canlynol:
- addysg / hyfforddiant
- gwaith cefnogol yn y gymuned
- gweithgareddau galwedigaethol yn ystod y dydd
- gofal cartref
- llety cefnogol
- taliadau uniongyrchol
- gofal ysbaid
- eiriolaeth
Mae gan ofalwyr yr hawl i dderbyn gwasanaeth hefyd
Gofalydd yw person sy’n edrych ar ôl perthynas neu ffrind ag anabledd dysgu, ac oherwydd hyn, efallai y byddent angen cymorth.
Bydd y Rheolwr Achos yn cymryd i ystyriaeth anghenion y Gofalydd wrth asesu anghenion y person sydd ag anableddau dysgu. Mae gan y Gofalydd hawl i ofyn am asesiad o’i h/anghenion eu hunan ar wahân.