Bydd ysgolion sydd ar gau yn Ynys Môn oherwydd argyfwng neu amgylchiadau arbennig yn ymddangos ar y dudalen hon.
Gall sefyllfaoedd lleol amrywio'n sylweddol dros y sir gyfan ac o ganlyniad rhaid pwysleisio mai Pennaeth yr ysgol a'r Corff Llywodraethu sy'n parhau i fod gyda’r penderfyniad terfynol ynghylch a yw ysgol yn aros ar agor neu’n cau.
Y prif bryder bob amser yw diogelwch disgyblion a rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir gan Benaethiaid a Chyrff Llywodraethu sicrhau nad yw disgyblion a staff yn cael eu rhoi mewn perygl.
Nid yw gwybodaeth am wyliau a dyddiadau cau disgwyliedig ar gael yma. I weld dyddiadau gwyliau ewch i'r Dyddiadau gwyliau ysgol.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn cael ei darparu yn uniongyrchol gan gynrychiolydd o'r ysgol. Mae ysgolion yn cofnodi yma eu bod wedi cau. Nid yw ysgolion yn cofnodi bod yr ysgol yn agored.