Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol. Mae Cyrff Llywodraethu yn cynnwys pobl leol ac yn cynnwys rhieni, pobl a benodir gan yr Awdurdod Lleol, athrawon, staff, y pennaeth, a gall gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a chynrychiolwyr yr eglwys. Bydd y nifer o aelodau yn dibynnu ar faint yr ysgol.
Mae gan y corff llywodraethu gyfrifoldeb cyffredinol am reolaeth strategol, sy’n golygu:
- gosod nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol
- mabwysiadu polisïau i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny
- gosod targedau i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny
- adolygu’r cynnydd tuag at gyflawni’r nodau a’r amcanion
Mae gan gyrff llywodraethu ystod o ddyletswyddau a phwerau mewn deddfwriaeth:
- arwain yr ysgol gyda golwg ar hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ac ymddygiad
- gosod targedau ysgol priodol ar gyfer cyflawniad addysgol yng Nghyfnod Allweddol 2, 3 a 4
- cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros gynnal yr ysgol – yn ymarferol, mae hyn yn golygu creu polisïau a sut, mewn termau strategol eang, y dylid rhedeg yr ysgol
- rheoli cyllideb yr ysgol, gan gynnwys pennu'r staff cyflenwi a gwneud penderfyniadau ar gyflogau staff yn unol â'r ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (STPCD)
- sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol yn gytbwys ac yn eang ac yn arbennig bod y cwricwlwm cenedlaethol ac addysg grefyddol yn cael eu haddysgu
- darparu adroddiad i rieni bob blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol a chanlyniadau arholiadau
- penodi’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth (gyda chyngor gan yr ALl ac yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr Esgobaeth) a staff eraill, a rheoleiddio ymddygiad a disgyblaeth staff a
- llunio cynllun gweithredu yn dilyn arolwg gan Estyn
Mae gan Lywodraeth Cymru gryn dipyn o wybodaeth ar holl agweddau llywodraethiant ysgolion.