Ceir yma ddisgrifiad o’r gwasanaethau meithrin sydd ar gael ar gyfer eich plentyn.
Yng Nghymru, mae addysg statudol yn dechrau yn y tymor ar ôl pen-blwydd plentyn yn bump oed. Ers Medi 2004 mae gan bob plentyn hawl statudol i addysg feithrin, wedi ei gyllido gan yr Awdurdod Lleol, o ddechrau’r tymor yn dilyn eu 3ydd penblwydd.
Mae Cynllun Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar Cyngor Sir Ynys Môn yn sicrhau darpariaeth addysg feithrin o ddechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd yn 3 oed.
Mae’r addysg feithrin a gynigir yn ddi-dâl am o leiaf 2 awr y dydd. Mae’r ddarpariaeth o ddechrau’r tymor yn dilyn y 3ydd penblwydd i’r Medi yn dilyn y 3ydd penblwydd yn ddi-eithriad yn y sector gwirfoddol. Mae’r ddarpariaeth o’r Medi yn dilyn y 3ydd penblwydd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhai ardaloedd ac yn y sector gwirfoddol mewn ardaloedd eraill.
Restr o wasanaethau cyn ysgol
Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael i'w lawrlwytho.
Gwybodaeth bellach
Gellir cael mwy o wybodaeth yn y llyfrgell, yr ysgol, y cylch neu’r feddygfa leol neu o’r swyddfa addysg.
Mynediad i ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd