Mae Dechrau'n Deg yn rhan o raglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed.
Ardaloedd Dechrau'n Deg
I gymryd rhan yn y Rhaglen Dechrau’n Deg, rhaid i chi fyw mewn ardal Dechrau’n Deg.
Rhowch eich cod post i weld a oes gwasanaeth gan Dechrau'n Deg yn eich ardal.
Beth mae Dechrau'n Deg yn ei gynnig
Nod y cynllun yw darparu gwasanaeth cymorth dwys i blant 0 i 4 oed a’u teuluoedd. Canolbwynt y rhaglen yw hyrwyddo:
- sgiliau cymdeithasol
- emosiynol
- gwybyddol ac iaith
- datblygiad corfforol
- adnabod anghenion sylweddol yn gynnar
Rydym yn gwneud hyn drwy wasanaethau cymorth ac arweiniad iechyd, cymorth a grwpiau rhieni a gofal plant rhan-amser am ddim.
Mae Dechrau’n Deg yn dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys ymwelwyr iechyd, gweithwyr teulu, staff gofal plant, ymwelwyr iechyd, therapydd lleferydd ac iaith, athrawes blynyddoedd cynnar, cynorthwywyr iechyd a thîm o staff cefnogi ymroddedig.
Hysbysiad preifatrwydd i deuluoedd Dechrau'n Deg
Mae gennych hawl i wybod sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Bydd y ddolen hon yn agor tab newydd yn eich porwr.