Gall Dechrau’n Deg ddarparu gofal plant o ansawdd uchel wedi’i ariannu yn ystod tymor yr ysgol am 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn.
Mae ar gael o’r tymor ysgol ar ôl ail ben-blwydd y plentyn, hyd at y tymor ysgol ar ôl eu trydydd pen-blwydd mewn darpariaeth yn eich ardal sydd wedi’i gofrestru i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg.
Cymhwysedd
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu ar Ofal Plant Dechrau’n Deg ledled Cymru.
Mae hyn yn golygu nad yw pob cyfeiriad Ynys Môn yn gymwys ar hyn o bryd, ond bydd hyn yn newid yn y dyfodol.
Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a ydych yn gymwys.
Os ydych chi’n gymwys am ofal Dechrau’n Deg yn eich ardal, ac os gaiff eich cais ei dderbyn, nodwch mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cysylltu a'ch lleoliad lleol i gofrestru eich plentyn i fewn i ofal Dechrau’n Deg’.
Dogfennau
Fformatau eraill
Efallai na fydd y fformatau eraill yma'n hygyrch
Fe fydd y dogfennau yn agor mewn tab newydd